Capten Lloegr am ganu'r ddwy anthem cyn chwarae Cymru yn y Chwe Gwlad

Mi fydd Meg Jones yn gapten ar dîm Lloegr yn erbyn Cymru am y tro cyntaf ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Ddydd Sadwrn, mi fydd Meg Jones - gafodd ei geni a'i magu yng Nghaerdydd ac sy'n siaradwr Cymraeg - yn gapten ar dîm Lloegr yn erbyn Cymru am y tro cyntaf.
Ond er ei bod wedi ennill Cwpan y Byd yn ôl ym mis Medi, pan ofynnwyd iddi beth yw ei hoff atgof rygbi dywedodd mai cael ei dewis ar gyfer tîm bechgyn dan 12 Caerdydd sy'n sefyll allan.
"Odd e'n teimlo fel trobwynt yn fy nhaith," meddai cyn esbonio mai hi oedd yr unig ferch yno. Ar ôl cael ei dewis i'r tîm dyna pryd y sylweddolodd "os ydych chi ddigon da, chi'n ddigon da. Does dim ots o le chi'n dod na sut chi'n edrych."
Fel un o ganolwyr gorau gêm y merched bellach mae'n eicon ar ddwy ochr i'r bont ac yn gobeithio ysbrydoli merched Cymru a Lloegr.
"Fi'n caru Cymru," meddai "a rhywbeth sy'n agos at fy nghalon yw canu Mae Hen Wlad fy Nhadau ond canu anthem Lloegr hefyd".
Dyma fydd trydedd gêm merched Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni - maen nhw wedi colli yn erbyn yr Alban a Ffrainc hyd yma - ac ar ôl i Bencampwyr y Byd guro'r Alban 84-7 wythnos diwethaf fe all fod yn ornest anodd i Gymru.
'Canu Hen Wlad fy Nhadau ac anthem Lloegr hefyd' - Meg Jones
Mae disgwyl i'r gêm fod yn achlysur cofiadwy i gapten Lloegr a hithau wedi colli ei rhieni yn 2024.
Roedd ei Mam yn dod o Loegr a'i thad o Gymru "felly mae'r emosiwn yn uchel ond fisie dangos i bawb trwy'r losses ti'n gallu bod yn gryf hefyd".
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf mae ei chyn-athrawes, Gwennan Harries yn ei chofio'n sefyll allan yn y gwersi chwaraeon.
"Clywais amdani'n go gloi gan ei bod hi'n chwarae yn nhîm y bechgyn ac roedd hi'n cario'r tîm ychydig.
"Roedd y bechgyn yn dwli arni. Roedden nhw'n griw talentog eu hunain, ond o nhw'n siomedig iawn pan oedd rhaid i Meg stopio chwarae gyda nhw."
Oherwydd rheolau ynghylch timau cymysg fel merch yn ei harddegau bu rhaid i Jones ganolbwyntio ar ei chlwb merched yn unig - Cwins Caerdydd. Ond fe barhaodd i sefyll allan yn y gwersi chwaraeon.
"Gyda sgiliau mor dda â 'ny gallai hi droi at nifer o wahanol chwaraeon," meddai Harries. "Roedd hi'n rhan o dîm hoci talentog iawn a enillodd teitl cenedlaethol."

O fewn tair blynedd aeth Jones o chwarae rygbi dan 15 oed i gynrychioli Lloegr
Wrth iddi fynd yn hŷn fe benderfynodd Jones mae dilyn y llwybr rygbi yn Lloegr fyddai orau iddi - gan fod llawer mwy o gyfleoedd i ddatblygu ar gael yno.
Chwaraeodd dros Loegr am y tro cyntaf yn 18 oed, yn dechrau fel maswr yn erbyn Seland Newydd.
Erbyn hyn mae'n cael ei pharchu a'i hystyried yn un o chwaraewyr gorau'r gêm - mae wedi ennill Cwpan y Byd a chafodd ei henwebu ar gyfer chwaraewr y flwyddyn y byd.
Ond eleni, yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Zoe Stratford yn camu i ffwrdd o'r gêm am ychydig er mwyn cael babi, Jones nawr yw capten Lloegr.
Er bod ganddi'r "rhosyn coch ar fy mrest... rwy'n dal i gynrychioli'r rhannau hynny ohonof i [Caerdydd a Chymru]".
"Byddwn i'n mynd i uffern ac yn ôl ar gyfer y tîm [Lloegr]," meddai "a dwi 'di gwneud hynny ers blynyddoedd.
"Ond, yng nghefn fy mhen, dwi'n meddwl bod y tân Cymreig yna, yr angerdd Cymreig, ac ychydig bach o grit - hefyd yn rhan o beth dwi'n ei gynnig.
"A dyw'r acen Gymreig byth yn eich gadael chi!"
'Mae pawb yma'n cefnogi Meg'
Yn ôl Gwennan Harries er na fyddai pawb fel arfer yn dathlu Cymraes yn cynrychioli Lloegr "maw pawb yma'n cefnogi Meg".
"Be' i gyd yn ei edmygu am Meg yw'r ffaith ei bod hi wedi dewis ei llwybr ei hun, ond dyw hi byth wedi anghofio ei gwreiddiau.
"Byddai'n hawdd iawn iddi ganolbwyntio'n llwyr ar Loegr nawr ac anwybyddu'r ochr arall. Ond mae hi bob amser yn barod i wneud unrhyw gyfweliadau yn y Gymraeg ac mae'n dathlu ei Chymreictod.
"Mae hi'n falch iawn, iawn o le mae'n dod.
"Ac mae hynny'n enfawr i'r disgyblion yma, iddyn nhw allu gweld bod modd dilyn eich breuddwydion, ond byth anghofio o le rydych chi'n dod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd16 Ebrill

- Cyhoeddwyd11 Ebrill
