Port Talbot i fod yn 'hwb' gwynt ar y môr

Rhes o 16 o dyrbinau gwynt ar waelod y llun, gyda'r awyr uwchben yn las tywyllFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bydd porthladd y dref yn derbyn grant hyd at £64m i'w droi yn hwb ar gyfer gosod a lansio tyrbinau gwynt ar y môr

GanHuw Thomas
Gohebydd Busnes BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Port Talbot fydd y ganolfan bwrpasol gyntaf ar gyfer lansio tyrbinau ynni gwynt yn y Môr Celtaidd.

Bydd Associated British Ports (ABP) yn dechrau gwaith dylunio a pheirianneg fanwl ar seilwaith porthladd newydd, ar ôl sicrhau cyllid grant o hyd at £64m gan lywodraeth y DU.

Tra bod y tyrbinau yn debyg o gael eu gweithgynhyrchu mewn lleoliadau eraill, bydd y prosiect ym Mhort Talbot yn adeiladu a lansio'r strwythur cyflawn i'r môr.

Dywedodd ABP y gallai'r datblygiad gefnogi miloedd o swyddi a denu cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn buddsoddiad pellach i'r ardal.

Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'r cynllun newydd yn helpu i ddarparu trydan glân, amddiffyn aelwydydd rhag marchnadoedd tanwydd ffosil anwadal a chreu hyd at 5,000 o swyddi newydd.

Creu o leiaf 4.5GW o gapasiti cynhyrchu ynni newydd

Dylai ailddatblygu'r porthladd osod Port Talbot wrth galon sector ynni glân sy'n tyfu'n gyflym.

Mae disgwyl i wynt ar y môr chwarae rhan fawr wrth amrywio ffynonellau ynni y DU yn y dyfodol, a bydd yn lleihau'r ddibyniaeth ar farchnadoedd olew a nwy.

Mae technoleg gwynt ar y môr yn caniatáu i dyrbinau gael eu gosod ymhellach o'r lan na strwythurau sefydlog traddodiadol, gan ddefnyddio ardaloedd o'r Môr Celtaidd sy'n cael eu hystyried fel rhai o'r adnoddau gwynt gorau yn Ewrop.

Y gwaith dylunio ym Mhort Talbot yw'r cam cyntaf wrth greu'r seilwaith sydd ei angen i drin, cydosod a lansio llwyfannau tyrbinau enfawr.

Dywedodd Prif Weithredwr ABP, Henrik Pedersen: "Bydd y datblygiad hwn yn ysgogi adfywio diwydiannol, cefnogi miloedd o swyddi medrus a sicrhau bod Cymru a'r DU yn manteisio'n llawn ar y budd economaidd o'r sector sy'n dod i'r amlwg."

Bydd y cyfleusterau newydd ym Mhort Talbot yn helpu i greu o leiaf 4.5GW o gapasiti cynhyrchu ynni newydd, sy'n ddigon i bweru tua 6.5 miliwn o gartrefi, ac mae'n dilyn rownd brydlesu gwely'r môr y llynedd yn y Môr Celtaidd.

Arwydd ar y ffordd i'r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot sy'n dangos y geiriau "Gwaith Dur Steel Works" ac enw'r cwmni Tata ynghyd a llun o lori. Yn y cefndir mae un o'r hen ffwrneisi chwyth.Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i gwmni Tata Steel arallgyfeirio yn ddiweddar, mae ymdrechion ehangach i gefnogi gweithwyr a busnesau eraill yn y dref

Mae ABP yn disgwyl i'r prosiect gefnogi miloedd o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol unwaith y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau, gyda'r cwmni'n amcangyfrif y gallai ddatgloi mwy na £500m mewn buddsoddiad cysylltiedig.

Dywedodd fod grwpiau busnes wedi dadlau y byddai sicrhau porthladd gwynt pwrpasol yn ganolog i ddenu diwydiannau a chwmnïau cadwyn gyflenwi newydd.

Daw'r cyhoeddiad yng nghanol newidiadau economaidd ehangach ym Mhort Talbot, gan gynnwys dynodiad y dref fel rhan o'r porthladd rhydd ac ailstrwythuro mawr yn Tata Steel wrth iddi symud tuag at gynhyrchu dur mewn ffwrnais drydan.

Mae rhaglen drawsnewid llywodraeth y DU hefyd wedi'i sefydlu i gefnogi gweithwyr, busnesau a'r gymuned ehangach sydd wedi'u heffeithio gan y newidiadau yn y gwaith dur.

"Bydd Port Talbot ar flaen y gad o ran diwydiant ynni glân newydd arloesol," meddai llefarydd ar ran llywodraeth y DU.

'Cam mawr ymlaen'

Dywedodd ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens ei fod yn "foment arwyddocaol i Bort Talbot ac yn gam mawr ymlaen i'r diwydiant ynni glân sy'n tyfu yng Nghymru".

"Bydd y buddsoddiad hwn yn cadarnhau Port Talbot ymhellach fel canolfan i ddiwydiannau'r dyfodol, ac yn cyhoeddi'r bennod nesaf o swyddi a buddsoddiad i'r ardal."

Dywedodd Gweinidog yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net y DU, Martin McCluskey, "Mewn cymuned fel hon ym Mhort Talbot, rydym wedi darparu llawer o gefnogaeth eisoes dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae hyn yn adeiladu ar hynny i sicrhau bod gan y gymuned hon ddyfodol da a chynaliadwy."

"Mae ein gwlad yn hynod agored i olew a nwy, a phris nwy yw'r rhan fwyaf o fil ynni rhywun, felly drwy wneud hyn rydym yn dileu ein dibyniaeth ar danwydd ffosil tramor; rydym wedi gweld pa mor niweidiol y gall hynny fod dros yr wythnosau diwethaf.

"Mae hyn yn golygu ein bod yn rheoli'r pris ac mae gennym ddiogelwch ynni yn y wlad hon, a dyna pam ei fod mor bwysig.

Trending Now