Gwyntoedd dros 90mya wedi eu cofnodi yn y gogledd orllewin

- Cyhoeddwyd
Fe brofodd rhannau o'r gogledd orllewin wyntoedd cryfion nos Sadwrn.
Roedd hyrddiadau o hyd at 93mya wedi eu cofnodi yn Nyffryn Mymbyr ger Capel Curig.
Daw hyn wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd oren a melyn am wyntoedd cryfion i rannau o Gymru ddydd Sadwrn.
Dywedon nhw y gallai'r gogledd a de orllewin brofi trafferthion ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth o ganlyniad i'r gwyntoedd cryfion.
Roedd nifer o dai ar draws Cymru heb drydan nos Sadwrn o ganlyniad i Storm Dave, ond mae pethau'n edrych tipyn tawelach erbyn bore Sul y Pasg.
'Pob dim wedi ei ohirio'
Mae'r tywydd garw wedi effeithio ar y sector dwristiaeth, fel sonia Nia Rhys Jones wrth siarad ar Dros Frecwast fore Sadwrn.
Dywedodd y bydd 'na "oblygiadau anodd iawn i'r diwydiant" yn sgil y tywydd.
Mae Nia Rhys Jones sydd wedi gweithio yn y sector dwristiaeth ers dros 30 o flynyddoedd.
Esboniodd ei bod wedi bod yn "aeaf hir a gwlyb iawn" a bod y sector wedi aros yn hir am y penwythnos hwn, sy'n ddechrau swyddogol i dymor y gwyliau.
"Roedd 'na ddwy long foethus iawn i fod i lanio yng Nghaergybi, un heddiw ac un 'fory, oedd i fod i dywys ymwelwyr am ddau ddiwrnod yma.
"Mi gafon ni wybod nos Fercher nad oedden nhw am ddod i Gaergybi mwy, a'u bod wedi glanio yn Lerpwl," meddai.

Mae Nia yn gweithio fel tywysydd bathodyn glas Cymru ar Ynys Môn
Mae Nia yn gweithio fel tywysydd bathodyn glas Cymru, ac yn berchen ar fwthyn gwyliau ar Ynys Môn, ac o ganlyniad wedi gweld sgil effaith y tywydd yn uniongyrchol.
"Beth sy'n bwysig i bobl gysidro ydi, nid yn unig y tywyswyr [sydd wedi eu heffeithio], ond mae 'na ddegau o fysys wedi eu llogi ar gyfer y penwythnos 'ma yng Nghaergybi, yr atyniadau, oeddwn i fod i fynd â chriw bore 'ma a p'nawn 'ma i Gastell Biwmares... ma' bob dim wedi cael ei ohirio".
Esboniodd iddi drio "annog y cwmni i wneud y teithiau allan o Lerpwl achos mae modd dod i ogledd Cymru allan o Lerpwl, ond maen nhw wedi penderfynu peidio dod".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.