Beibl a oroesodd drychineb Aberfan yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru

Ar ford llwyd mae hen Feibl teuluol, gyda marciau amlwg ar y clawr lledr yn dangos oedran sylweddol y gyfrol. Mae lliw oren a phorffor ar ymylon y clawr, gyda'r lledr brown dal yn amlwg ar ganol y llun.
Disgrifiad o’r llun,

Beibl teuluol Cliff Bunford oedd yr unig wrthrych i oroesi o'i hen dŷ yn Aberfan

GanHuw Thomas
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Ar ben tomen o wastraff glo fe ddaeth Cliff Bunford o hyd i'w Feibl teuluol.

Roedd ei rieni wedi symud i Aberfan o Lanidloes, ac wedi iddyn nhw farw fe wnaeth Cliff rentu'r tŷ i deulu ifanc.

Ond ar fore glawog ym mis Hydref 1966 roedd ei hen gartref wedi'i ddinistrio gan dirlithriad o wastraff glo, a'r tenantiaid wedi marw.

Y beibl oedd yr unig wrthrych o'r tŷ i oroesi, ac mae bellach yng nghasgliad Amgueddfa Cymru i helpu adrodd hanes y trychineb.

Roedd Cliff a'i wraig Anne yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi'r digwyddiad fe yrrodd y ddau i'r pentref ble welon nhw'r dinistr.

Caniataodd yr heddlu i Cliff fynd i'r stryd, lle gwelodd fod y tŷ wedi'i llithro i ffwrdd gan y glo a'r dŵr a ddisgynnodd o'r bryn y tu ôl i Ysgol Gynradd Pantglas.

Llun du-a-gwyn o'r awyr yn dangos to yr ysgol gynradd yn Aberfan, a'r dwsinau o bobl fu'n gweithio i geisio achub plant ac athrawon.Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 116 o blant a 28 oedolyn yn dilyn y tirlithriad o wastraff glo

"Pan ddaeth yn ôl at y car, roedd e yn ei ddagrau," meddai Anne.

Fe aeth hi i lawr i weld gyda'i llygaid ei hun.

"Gwelais ddinistr ym mhobman," cofiodd Anne. "Doedd y tŷ ddim yno - dim ond darnau o frics, a'r simnai, oedd yna."

Roedd y fam ifanc a'r babi oedd yn byw yno wedi cael eu lladd.

"Dywedodd [Cliff] wrtha i, 'mae'r gŵr wedi mynd i'r gwaith, a phan ddaw e 'nôl, does dim byd ar ôl yma'."

'Pethau i gyd wedi'u torri... ond y beibl'

Yn y dyddiau wedi'r trychineb, aeth Cliff yn ôl i'r hyn oedd yn weddill o'r tŷ.

Pan ddringodd y pentwr o slyri, gwelodd darnau o ddodrefn a phapurau. Ond roedd un peth yn dal i oroesi.

"Roedd y beibl yn gyfan, wedi'i glymu'n sownd ar ben y domen," meddai Anne.

"Roedd pethau eraill i gyd wedi'u torri... ond roedd y beibl dal yna."

Tad Cliff oedd yn berchen ar y beibl, ac roedd wedi ysgrifennu enwau'r teulu y tu mewn i'w dudalennau.

Bob dydd Sul ar ôl cinio, roedd y plant yn casglu gyda'u tad i'w glywed yn darllen pennod.

Menyw mewn oed gyda gwallt llwyd a gwyn, yn gwenu tuag at y camera. Mae hi'n eistedd ar sofa lliw golau mewn lolfa taclus.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anne Bunford wedi dewis rhoi'r beibl i Amgueddfa Cymru fel un o'r unig wrthrychau i oroesi trychineb Aberfan

Mae Anne yn cofio ymateb ei gŵr pan ddaeth o hyd i'r beibl: "Mae'n swnio'n sentimental, ond dywedodd, 'Dad oedd â'r gair olaf'."

Am ddegawdau bu'r beibl yn eistedd yn ystafell gerddoriaeth y teulu yng Nghaerdydd.

Dywedodd Anne nad oedd hi wedi bod eisiau tynnu sylw ato oherwydd ei fod yn dod ag atgofion poenus yn ôl.

Bu farw Cliff yn 2018 ac mae Anne, sydd bellach yn 92 oed, wedi rhoi'r beibl i'r amgueddfa fel un o'r ychydig eitemau i oroesi'r trychineb yn gyfan.

Dyn a gwallt llwyd a dillad tywyll yn sefyll rhwng silffoedd adran archif Amgueddfa Cymru.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r curadur Ceri Thompson yn gobeithio cynyddu nifer y gwrthrychau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru sy'n berthnasol i drychineb Aberfan

Yng nghanolfan gasgliadau Amgueddfa Cymru yn Nantgarw, mae'r curadur Ceri Thompson yn goruchwylio casgliad Aberfan, sydd wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Hyd at bump neu chwe blynedd yn ôl, doedd dim byd 3D [yn y casgliad]," meddai.

"Roedd gennym ni'r adroddiadau a'r gwaith papur, ond doedd gwrthrychau o'r trychineb ddim yno."

Dechreuodd hynny newid pan ddaeth rhywun o hyd i gloc yr ysgol, a stopiodd am 09:13, mewn cwpwrdd dillad yn 2019 a'i anfon i Sain Ffagan.

Mae Mr Thompson yn credu bod hyn wedi annog teuluoedd eraill i feddwl am ddyfodol eitemau roedden nhw wedi'u cadw ers degawdau.

"Mae pobl yn dechrau gofyn i'w hunain, beth fydd yn digwydd pan fyddan nhw'n [marw]?" meddai.

"A fydd rhywbeth yn aros yn sownd mewn drôr, neu'n cael ei daflu i ffwrdd? Mae rhoi [i'r amgueddfa] hefyd yn golygu bod y stori'n cael ei chadw."

Llythyrau
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r llythyrau daeth o Galiffornia yn sgil y drychineb, ac sydd bellach yng nghasgliad yr amgueddfa

Llythyrau

Yn yr amgueddfa mae'r amodau cywir i gadw eitemau, ac mae nifer o wrthrychau arwyddocaol eisoes wedi'u storio yn ei chasgliad.

Mae amlen o lythyrau a ddaeth o ysgol yn California, yn dangos sut y gwnaeth trychineb Aberfan gyffwrdd â phobl ledled y byd.

Clywodd y plant yn Ysgol Madrone yn Santa Rosa y newyddion, ac fe ysgrifennon nhw negeseuon o gydymdeimlad at ddisgyblion Ysgol Pantglas.

"Rwy'n drist iawn bod tirlithriad wedi gorchuddio'r ysgol," ysgrifennodd un plentyn.

Dywedodd un arall: "Dymunaf y gallwn eich helpu chi."

Mewn llythyr gan yr athrawes Americanaidd, gyda'r dyddiad yn dangos iddi ysgrifennu dridiau ar ôl y trychineb, dywedodd: "Cyfleuwch i rieni eich plant ein teimladau diffuant o gydymdeimlad."

Mae eitemau eraill sydd eisoes yn cael eu cadw gan yr amgueddfa yn cynnwys doli oedd yn perthyn i ferch a fu farw, a'r menig gwyn a gafodd eu gwisgo gan forwyn briodas ifanc wythnos cyn iddi gael ei lladd yn y trychineb.

Yng nghanolfan Nantgarw, mae'r beibl, fel y gwrthrychau eraill yng nghasgliad yr amgueddfa, yn cael ei gadw dan olau isel ac yn cael ei ofalu amdano gan arbenigwyr.

Mae'r holl eitemau'n helpu i greu darlun o'r gymuned wnaeth ddioddef y trychineb, a newidiodd fywydau cymaint o bobl.

Uchelgais y curadur Ceri Thompson yw sicrhau bod pobl Aberfan yn cael eu cofio fel unigolion, nid ystadegau.

"Yr ateb rydw i wedi'i gael gan deuluoedd yw eu bod nhw eisiau i'r gwrthrychau roi bywyd i'r person maen nhw wedi'u colli," meddai.

"Rydym yn cofio er mwyn y gymuned gyfan."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now