Gŵr yn gwaedu o'i ben ar ôl i garreg gael ei thaflu o hen Lofa Penallta

Roxanne Western-Weller
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gŵr Roxanne Western-Weller ei anafu ddydd Gwener diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai pobl sy'n byw ger hen Lofa Penallta ger Caerffili yn dweud eu bod yn poeni y gallai rhywun gael ei ladd ar ôl i dresmaswyr fod yn taflu pethau allan o'r adeilad.

Roedd un gŵr angen triniaeth ysbyty yr wythnos ddiwethaf, ar ôl cael ei daro ar ei ben gan garreg wrth iddo gasglu ei blant o Ysgol Gymraeg Penalltau gerllaw.

Cafodd "nifer sylweddol" o achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol eu hadrodd yno'r llynedd, meddai Heddlu Gwent.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher dywedodd Roxanne Western-Weller, ei wraig, ei bod wedi cael "sioc" o glywed bod ei gŵr yn gwaedu o'i ben wedi'r glec.

Mae perchnogion y safle, The Power Hall Limited, yn dweud eu bod yn gweithio'n gyson i sicrhau bod y lleoliad yn ddiogel a'u bod yn gweithio gyda'r heddlu a'r cyngor lleol.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerffili, maen nhw'n bryderus am y digwyddiad diweddar ac yn condemnio ymddygiad y rhai oedd yn gyfrifol.

Yr adeilad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Glofa Penallta ei gau yn 1991

Esboniodd Roxanne i'w gŵr gael ei anafu ddydd Gwener diwethaf, wrth iddo aros i fynd trwy giatiau'r ysgol i godi ei blant.

"Cafodd ei guro ar ei ben gan garreg oedd wedi dod allan o'r ffenestri. Roedd yn bach o sioc ar y pryd a doedd e' dim yn gwybod beth oedd wedi digwydd."

Roedd gwaed dros ei ben a'i ddwylo, meddai, ond ei fod yn lwcus am y rhieni oedd o'i gwmpas a'r cymorth cyntaf a gafodd yn yr ysgol gan staff.

"'Oedden nhw bron a bod wedi ffonio ambiwlans achos doedden nhw methu stopio ei ben rhag gwaedu."

Ar ôl dod adref, aeth y ddau i adran brys yr ysbyty, lle y buon nhw trwy'r nos cyn dod adref yn gynnar yn y bore.

"'Wedodd y doctor: 'You're a very lucky man'," disgrifiodd Roxanne.

Ffenest wedi torri
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gŵr Roxanne ei "guro ar ei ben gan garreg oedd wedi dod allan o'r ffenestri", meddai hi

Mae Roxanne yn poeni am blant bach yr ardal sy'n gadael yr ysgol wrth ymyl yr adeilad.

"'Sa un o rheina wedi medru cael eu bwrw ar y pen. Dydy'r adeilad ddim yn ddigon diogel.

"Ma' 'na bobl ifanc, neu oedolion ifanc, yn mynd mewn i'r adeilad pob hyn a hyn ac mae'n achosi lot o broblemau i ni fel cymuned yma yng Nghwm Calon."

'Ddim yn ddigon da'

Ychwanegodd Roxanne ei bod wedi siarad hefo perchennog y lleoliad ddydd Mawrth a'i fod wedi "rhoi pethau mewn lle fel giât a railings o gwmpas yr adeilad".

"Ond dydy hyn ddim yn ddigon da, mae plant yn gallu mynd dros y giât, maen nhw wedi torri'r giât gyda rhyw fath o angle grinder.

"Maen hollol agored nawr i unrhyw un fynd mewn," meddai Roxanne, gan ddweud bod ffenestri sydd ar agor yno hefyd.

Dywedodd Cyngor Caerffili: "Mae'r cyngor mewn cyswllt cyson gyda'r tirfeddiannwr i sicrhau bod mesurau addas yn cael eu rhoi yn eu lle ac i wneud y safle'n ddiogel, ond mae'n amlwg fod angen gwneud mwy."

Yr adeilad

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi derbyn adroddiad am tua 15:15 ddydd Gwener am ddyn gyda mân anaf, ar ôl i garreg gael ei thaflu i'w gyfeiriad gan droseddwr na chafodd ei weld.

Yn ôl yr Arolygydd Lysha Thompson o'r llu, cafodd swyddogion eu hanfon ond ni chafodd unrhyw un eu canfod yn yr ardal.

"Y llynedd, cawsom nifer sylweddol o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol o gwmpas Glofa Penallta yn Hengoed."

Ychwanegodd yr arolygydd fod y llu yn gweithio gyda'r perchennog a'r cyngor, er mwyn "sicrhau bod yr adeilad wedi'i ddiogelu".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now