Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Er bod hadau'r Mudiad Rhamantaidd wedi eu plannu cyn troad y ganrif, dyma flaenffrwyth y Mudiad. 'Roedd gwobrwyo dwy gerdd ramantaidd eu naws a'u hysbryd yn nwy brif gystadleuaeth farddoniaeth yr Eisteddfod yn hwb aruthrol i Ramantiaeth.'Roedd yr oes ramantaidd wedi gwawrio. Awdl ddramatig ac epigramatig wych oedd awdl fuddugol 1902, ac 'roedd y gynghanedd gynnil a'r delweddu diriaethol yn wrthbwynt i awdlau clogyrnaidd a thraethodol y cyfnod. Dewiswyd testunau'r Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Bangor gan John Morris-Jones, a oedd yn benderfynol o arwain barddoniaeth Gymraeg allan o anialwch Oes Victoria. Y Goron Testun. Pryddest: 'Trystan ac Esyllt' Enillydd. R. Silyn Roberts Beirniaid. John Morris-Jones, Elfed Cerddi eraill: W.J. Gruffydd oedd yr ail. Cyhoeddwyd ei bryddest mewn llyfr ar y cyd ag awdl anfuddugol Alafon a thelynegion ail-orau Eifion Wyn ym Mangor. Dywedodd Gruffydd mai protest oedd ei bryddest yn erbyn 'lol llawer o'r beirdd newydd', sef y beirdd diwinyddol-athronyddol a ddilynai Islwyn. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Pryddest ramantus ei chywair oedd y bryddest fuddugol, ac ynddi lawer o fotifau a themâu'r beirdd rhamantaidd, fel anfarwoldeb serch a gwewyr serch.
Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |