Ymateb a Sylwadau Alan Llwyd Cystadleuaeth hynod o wael. Dim ond 4 yn cystadlu. John Morris-Jones yn rhybuddio'r pwyllgorau llên 'fod oes testunau traethodol yn dyfod i ben'. Y Goron Testun. Pryddest: 'Ann Griffiths yr Emynyddes' Enillydd: T. Mafonwy Davies Beirniaid: Gwili, Gwylfa Ymateb a Sylwadau Alan Llwyd Cystadleuaeth hollol aflwyddiannus arall. Trychineb o Eisteddod oedd Eisteddfod 1905. Dim ond 5 pryddest a anfonwyd i gystadleuaeth y Goron, ac nid oedd y beirniaid yn llwyr fodlon ar y bryddest a wobrwywyd. Pryddest wael ydyw. 'Roedd oes y pryddestau cofiannol, crefyddol yn wir yn dod i ben, ac awgrymwyd hynny gan Gwylfa yn ei feirniadaeth, yn union fel yr awgrymodd John Morris-Jones yng nghystadleuaeth y Gadair fod oes yr awdlau traethodol ar fin dirwyn i ben. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000 |