Ymateb a sylwadau Alan Llwyd 'Roedd yr haf Edwardaidd yn tywynnu'n llachar o hyd, er i gyfnod teyrnasiad Edward y Seithfed (Iorwerth VII) ddod i ben yn swyddogol ym 1911 pan goronwyd SiƓr y Pumed yn frenin, ond 'roedd ysbryd yr oes Edwardaidd o ffyniant a chynnydd yn parhau hyd at ddechrau'r Rhyfel Mawr. 'Roedd Cymru yn Gymry frenhinol, ymerodrol o hyd, er gwaethaf dadeni Rhamantaidd a chenedlaethol diwedd y ganrif flaenorol a degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Pan ddaeth yr Eisteddfod i Gaerfyrddin ym 1911 daeth y beirdd yno i ffarwelio ag un brenin ac i groesawu brenin arall, ond awdl warthus o wael oedd awdl fuddugol 1911, er na ellid disgwyl dim byd gwahanol gyda'r fath destun. Y Goron Testun. Pryddest: 'Gwerin Cymru' Enillydd: Crwys Beirniaid: J. T. Job, J. J. Williams Cerddi eraill: Wil Ifan oedd yr ail am y Goron.Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Mae'r bryddest hon yn enghraifft arall o Gwlt y Werin, ac yn arwydd hefyd o dwf Sosialaeth yn y cyfnod. Portreadodd Crwys werinwyr Cymru fel pobl ddiwyd, onest a chrefyddol a orthrymid gan landlordiaid. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |