Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Cystadleuaeth hynod o wael oedd hon, dim ond saith yn cystadlu, a'r awdl fuddugol yn un o'r pethau erchyllaf a grewyd erioed. Dylid bod wedi atal y Gadair yn hytrach na gadael i gynganeddwr carbwl ac anystwyth fel D. Cledlyn Davies ennill. Gwarth oedd gwobrwyo ei awdl. Y Goron Testun. Pryddest: ' Yr Ynys Unig' Enillydd: Cynan Beirniaid: T. Gwynn Jones, Gwili, J. T. Job Cerddi eraill: Dyma'r unig dro y bu i Iorwerth C. Peate gystadlu am y Goron. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Canodd Cynan am y Tad Damien a fu'n gofalu am y gwahangleifion ar Ynys Molókai ym Moroedd y De, ond yn guddiedig-gyfrwys mae'n sôn am y Rhyfel Mawr ar yr un pryd, ac wrth fyfyrio ar aberth eithaf y Tad Damien yn myfyrio ar aberth y milwyr yn y Rhyfel Mawr yn ogystal. Cerdd am ystyr aberth dros gyd-ddyn, ac arwyddocâd hynny o fewn y patrwm Cristnogol, yw hon. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |