| Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl hen-ffasiwn ei dull oedd hon hyd yn oed ym 1930. Oni bai fod E. Prosser Rhys a Gwenallt wedi braenaru'r tir, efallai y byddai'r sôn am Fair Magdalen yn chwennych y Galilead yn gorfforol wedi achosi cynnwrf. Y Goron Testun. Arwrgerdd: 'Ben Bowen' Enillydd: Gwilym Myrddin Beirniaid: Gwylfa, Gwili, Ben Davies Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Aethpwyd yn ôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg trwy ofyn am Arwrgerdd, cam enfawr yn ôl i'r gorffennol wedi arbrofion chwyldroadol y dauddegau yng nghystadleuaeth y Goron. Ar ben hynny, yr oedd tri aelod o'r hen do, Beirdd Newydd diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, yn beirniadu. Trychineb llwyr fu'r canlyniad. Gwobrwywyd arwrgerdd affwysol o wael gan gystadleuydd mynych ei wobrau yn adran farddoniaeth yr Eisteddfod yn y cyfnod. Colbiwyd y bryddest fuddugol a phwyllgor llên Llanelli gan W. J. Gruffydd yn Y Llenor a'r Western Mail. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |