Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen. Fe'i lluniwyd mewn cyfnod a oedd ar y ffin rhwng amaethu traddodiadol ac amaethu yn y dull newydd. Mewn gwirionedd, lluniodd awdl gywrain ryfeddol, un o'r awdlau buddugol cywreiniaf erioed, ac awdl glasurol a oedd yn efelychu patrymau Beirdd yr Uchelwyr. Arweiniodd Dewi Emrys ymgyrch filain yn erbyn yr awdl yn ei golofn yn Y Cymro , y Babell Awen, ar ôl yr Eisteddfod, gan y tybiai iddo gael cam mawr yng nghystadleuaeth yr awdl. Y Goron Testun: Pryddest: 'Yr Arloeswr' neu 'Preiddiau Annwfn' Enillydd: Rhydwen Williams ('Yr Arloeswr') Beirniaid: T. J. Morgan, J. M. Edwards, William Morris Cerddi eraill: Dafydd Jones, Ffair Rhos, Prifardd coronog 1966, oedd yr ail, a Tom Parry-Jones oedd y trydydd. Cafodd T. J. Morgan anhawster mawr i ddewis rhwng Dafydd Jones a Rhydwen Williams. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Y thema yw'r modd y creodd yr Ysbryd Dwyfol fywyd a bydysawd, hynny yw, Duw fel arloeswr, a'r Ysbryd wedyn yn creu Crist. Mae'r arddull yn fwriadol 'fodernaidd', ac yn chwithig ac yn gwirclyd iawn ar brydiau. Nid yw'n rhoi llawer o foddhad i ddarllenydd, a gwaith llafurus yw ei darllen. Dywedodd T. J. Morgan fod y bryddest 'yn brin o barchedigaeth grefyddol', a dywedodd hefyd fod 'hoffter o'r grotesg yn rhan hanfodol o idiom farddonol yr oes hon'. Dyma un o'r pryddestau cyntaf yn yr arddull 'o chwith' a ddaeth yn boblogaidd yn y chwedegau. Y Fedal Ryddiaith Penderfynwyd ei dyfarnu ym 1948 am waith rhyddiaith gorau'r blynyddoedd 1945 a 1947. Tlws y Ddrama Drama Hir Enillydd: Neb yn deilwng Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |