Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Awdl ar fesur 'Madog' T. Gwynn Jones, ac awdl a oedd hefyd yn drwm dan ddylanwad Gwynn Jones yn gyffredinol. Er ei bod wedi ei lleoli yng nghyfnod Maelgwn Gwynedd, yn y chweched ganrif, 'roedd iddi hi neges amserol iawn, sef dyfodol ysbrydol a diwylliannol Cymru ar ôl blynyddoedd barbaraidd yr Ail Ryfel Byd. Mae hi'n pregethu cyfrifoldeb a gwir ymroddgarwch o safbwynt amddiffyn y Dreftadaeth Gymreig yn un peth, ac mae hi hefyd yn cyffwrdd ag un o ddaleuon mawr cyfnod yr Ail Ryfel Byd, sef y ddadl Militariaeth v Heddychaeth. Y Goron Testun. Pryddest: 'Jonah' neu 'Glyn y Groes' Enillydd: G. J. Roberts Beirniaid: Wil Ifan, Thomas Parry, Gwilym R. Jones Cerddi eraill: Un o'r pryddestwyr aflwyddiannus oedd Rhydwen Williams, Prifardd coronog y flwyddyn flaenorol. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Pryddest gyffredin iawn. Y Fedal Ryddiaith Penderfynwyd ei dyfarnu ym 1948 am waith rhyddiaith gorau'r blynyddoedd 1945 a 1947. Tlws y Ddrama Drama Hir Enillydd: Plas Madog Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |