Covid: Arolwg i ystyried rôl newydd i ysbytai maes

  • Cyhoeddwyd
Staff uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae unedau brys wedi bod yn trin llai o gleifion ers dechrau'r pandemig

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd arolwg yn cael ei wneud i weld a oes modd defnyddio'r ysbytai maes newydd ar gyfer gwneud triniaethau arferol ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Wrth son am yr arolwg yng nghynhadledd ddyddiol y wasg dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ei bod hefyd yn "hynod bwysig nad yw pobl yn osgoi triniaeth brys - mae'r gwasanaeth iechyd yno i helpu pawb," meddai.

Dywedodd fod triniaethau dyddiol mewn adrannau brys yn un rhan o dair yr hyn oeddynt cyn y pandemig.

Fe fydd y gweinidog iechyd yn cyhoeddi mwy o fanylion am yr arolwg yn y Senedd ddydd Mercher.

Eisoes mae byrddau iechyd yng Nghymru wedi bod yn edrych ar sut y gallan nhw ailddechrau llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw, a gwasanaethau canser.

Fe gafodd llawdriniaethau nad oedd yn rhai brys eu canslo yng Nghymru ym mis Mawrth, er mwyn caniatáu i'r gwasanaeth iechyd fynd i'r afael a Covid-19.

Bwriad Mr Gething oedd amlinellu sut bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn ceisio dychwelyd i drefn fwy arferol - yn debycach i'r hyn oedd yn bodoli cyn y pandemig.

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, LLYWODRAETH CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mr Gething yn cyhoeddi mwy o fanylion am yr arolwg yn y Senedd dydd Mercher

Mae yna 19 o ysbytai maes yng Nghymru.

Bydd yr arolwg yn edrych ar ddefnyddio capasiti ychwanegol, gan gynnwys yr ysbytai maes, led led Cymru.

Yn ôl Mr Gething, mae niferoedd y cleifion sy'n cael triniaeth neu yn gwella ar ôl corofnafeirws yng Nghymru yn gyfystyr â'r nifer fyddai'n cael eu trin mewn tri ysbyty cyffredinol.

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws
Trending Now