Heddlu wedi canfod 'tyfiant canabis sylweddol' ym Mhlas Glynllifon

Glynllifon
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y llu eu bod wedi gweithredu gwarant yn y plasty hanesyddol ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod wedi canfod "tyfiant sylweddol" o ganabis ar ôl cynnal cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon ger Caernarfon.

Dywedodd y llu eu bod wedi gweithredu gwarant o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yn y plasty ddydd Mawrth.

Mae'r adeilad rhestredig Gradd I wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd.

Mae'r llu yn rhybuddio'r cyhoedd i gadw draw o'r lleoliad wrth i'w ymholiadau barhau.

Glynllifon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn gwneud ymholiadau am berchnogaeth yr adeilad

Dywedodd Arwel Hughes, uwch arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, eu bod "wedi cael gwybodaeth bod 'na dyfiant canabis sylweddol yn yr adeilad".

"Ddoe [dydd Mawrth] 'da ni wedi gweithredu ar warant a 'da ni wedi mynd mewn i'r eiddo a darganfod sawl 'stafell efo tyfiant canabis ynddyn nhw.

"'Da ni'n edrych ar 12 'stafell i gyd, a'r meintiau yn amrywio.

"Mae gennym ni arbenigwr rŵan wedi'i benodi i'r achos yma, a'i waith o fydd mynd 'rownd a darganfod faint o blanhigion 'da ni'n sbïo arnyn nhw."

Does neb wedi'u harestio eto, meddai, gan ychwanegu bod gan yr heddlu "waith o'n blaenau i ymchwilio a thrio darganfod pwy sy' tu ôl i'r fenter yma".

Dywedodd fod yr heddlu yn gwneud ymholiadau am berchnogaeth yr adeilad, ac "yn amlwg mi fyddan ni'n awyddus iawn i siarad gyda'r perchennog".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now