Pentref yn plannu miloedd o goed i geisio lleihau effaith llifogydd

Pwll o ddwr brown yn sgwar Tal-y-bont, Ceredigion - cerbydau a swyddogion y gwasanaeth tan yn y cefndir. Pobl yn edrych ar y pwll o ddwr.
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl i afonydd Leri a Cheulan orlifo yn 2012 fe gafodd 27 o dai yn Nhal-y-bont eu difrodi gan lifogydd

GanCraig Duggan
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Ym mis Mehefin 2012, cwympodd gwerth mis o law ar rannau o Geredigion mewn 24 awr.

Yn sgil y glaw daeth llifogydd a drodd ffyrdd yn llynnoedd. Cafodd pobl eu hachub gan hofrennydd o barc carafannau ac roedd difrod helaeth i gartrefi.

Yn Nhal-y-bont, aeth y dŵr i 27 o dai pan orlifodd afonydd Leri a Cheulan.

Tra bod Cyngor Ceredigion yn bwriadu cydweithio â'r gymuned ar gynllun amddiffyn llifogydd, mae nifer o bobl leol yn ceisio lleihau'r risg o lifogydd trwy eu hymdrechion eu hunain.

Llun o Linda Denton - cydlynydd y gwirfoddolwyr. Mae'n gwisgo het binc ac mae ganddi wallt hir cyrliog, ac mae'n sefyll ar ochr bryn ger Tal-y-bont yng Ngheredigion
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Linda Denton mae gwaith y gwirfoddolwyr yn fuddiol i fioamrywiaeth ac ecosystemau

Ar ddiwrnod sych ym mis Mawrth 2026 mae 10 o wirfoddolwyr yn plannu coed celyn, cyll a chriafol yn y bryniau uwchben Tal-y-bont.

Mae cannoedd o goed yn mynd i'r ddaear mewn diwrnod, a degau o filoedd wedi'u plannu yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r gwaith plannu yn cael ei gydlynu gan Linda Denton sy'n dweud mai'r targed yw plannu 12,000 o goed erbyn diwedd mis Mawrth.

"Dyna'r mwyaf ry'n ni wedi plannu mewn blwyddyn. Dechreuon ni gyda'r nod o blannu 2000 o goed yn y gaeaf cyntaf. Fe wnaethon ni tua 8,000.

"Ry'n ni wedi cynyddu'n raddol ers hynny. Felly ry'n ni bellach wedi gwneud pum gaeaf a 50,000 o goed."

Disgrifiad,

Daeth y syniad i blannu coed ar ôl llifogydd 2012 pan ffurfiodd pobl leol grŵp o'r enw 'Y Llifogwyr'.

Mae Arthur Dafis yn un o'r aelodau gwreiddiol. Cafodd ei ddeffro am 03:30 ar ddiwrnod y llifogydd gan sŵn y dŵr y tu allan, ac o fewn ychydig funudau roedd tua wyth modfedd yn llifo drwy'r tŷ, meddai.

Dywedodd fod y dŵr yn llifo drwy'r pentref o'r ddwy afon, y Leri a'r Ceulan, gyda'r dyffrynnoedd yn ymateb yn "gyflym iawn" i law trwm.

Ychwanegodd fod y gwaith plannu wedi "deillio o drafodaethau'r grŵp cymunedol, ac mae'n werthfawr oherwydd mae'n cynnig un o nifer o atebion posib all arafu llif y dŵr mewn glaw trwm oddi ar y tir lawr i'r afonydd."

Mae pobl yn ceisio gwneud yr hyn y gallan nhw i geisio amddiffyn y pentref yn y tymor hir.

Maen nhw'n cwrdd bob wythnos ym mhob tywydd, gan blannu ar dir 1,000 o droedfeddi uwchlaw lefel y môr.

Llun o Llinos Humphreys - llefarydd Coed Cadw - yn sefyll ar ochr bryn ger Tal-y-bont yng Ngheredigion.
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Llinos Humphreys mae'r coed ifanc yn dechrau amsugno dŵr o'r ddaear yn syth ar ôl cael eu plannu

"Da ni wedi cael eira weithiau" meddai Linda Denton "ond mae'n eitha neis bod allan mewn tywydd diddorol. Glaw yw'r peth sy'n gwneud ni'n ddiflas.

"Y rheswm am ddechrau oedd i drio ffeindio ffordd o helpu yn erbyn y risg o lifogydd. Mae rhai pobl oedd wedi cael eu llifogi wedi helpu ni."

Coed Cadw sy'n darparu'r coed brodorol ar gyfer plannu – gyda chyllid gan Loteri Cod Post y Bobl - ac yn ariannu rôl Linda Denton fel cydlynydd.

Er bydd blynyddoedd yn pasio cyn bod y coed bach yn rhai aeddfed, dywedodd Llinos Humphreys o Goed Cadw eu bod yn gallu cael effaith wrth dyfu: "Maen nhw'n mynd i wneud gwahaniaeth unwaith maen nhw yn y ddaear.

"Mae gwreiddiau'r coed newydd yn dechrau gweithio yn syth, ac yn sugno dŵr mewn i'r ddaear."

Llun o Rhodri Lloyd-Williams yn sefyll ar gae ar dir ei ferm - mae'n gwisgo cap tywyll a gellir gweld bryniau yn ymestyn i'r pellter y tu ol iddo.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Lloyd-Williams yn credu bod mwy na 100,000 o goed wedi cael eu plannu ar eu fferm ers y flwyddyn 2000

Mae'r gwirfoddolwyr yn plannu ar dir sy'n eiddo i'r ffermwr Rhodri Lloyd-Williams, a oedd wedi bod yn plannu coed ar ei dir ers blynyddoedd cyn dechrau cydweithio gyda'r gwirfoddolwyr.

"O'n ni'n (plannu), just fi a Mam a Dad. Felly mae hi bach yn wahanol cael pobl mewn yn helpu, achos mae'n gwneud gwahaniaeth mawr.

"Os ti ar ben dy hunan a ti'n plannu 500 o goed mewn diwrnod ti'n meddwl bod ti'n hedfan. Ond efo rhain (y gwirfoddolwyr) yn dod mas am gwpwl o oriau, ti'n gallu plannu dros 1,000."

Mae Rhodri yn amcangyfrif bod mwy na 100,000 o goed wedi'u plannu ar y fferm ers y flwyddyn 2000.

Yn wreiddiol, rhesymau amaethyddol oedd ganddo am blannu coed – i greu mwy o gysgod ar gyfer y stoc. Ond hefyd mae Rhodri yn gobeithio y bydd y coed, ymhen amser, yn cyfrannu at leihau llif dŵr i lawr i Dal-y-Bont.

"Ar ôl iddyn nhw wneud bach o edrych mewn i'r peth, ro'n nhw wedi sylweddoli falle os ti'n plannu coed ar y llechwedd, arafu llif y dŵr lawr y mynydd, falle all hwnna wneud gwahaniaeth yn y dyfodol."

Llun o stryd yn Nhal-y-bont gyda dwr dwfn y llifogydd yn llifo trwyddi - mae un potyn blodau pren yn arnofio ar wyneb y dwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe gododd lefel y dŵr yn afonydd Leri a Cheulan yn gyflym iawn ar ôl y glaw mawr ym Mehefin 2012

Mae'r gwirfoddolwyr hefyd wedi adeiladu nifer o argaeau bach ar draws nentydd sy'n llifo i afon Leri. Mae'r argaeau wedi'u gwneud o ddwy linell o stanciau helyg byw, gyda brigau rhydd wedi'u gosod rhyngddynt.

"Mae'r argaeau yma yn rhywbeth eithaf newydd", meddai Linda Denton.

"Mae helyg yn adnabyddus am sut mae'n amsugno dŵr. Y rheswm pam ddechreuon ni wneud hyn yn y lle cyntaf oedd oherwydd llif y dŵr, ond yna mae ganddo'r holl fanteision eraill hefyd ar gyfer bioamrywiaeth."

Adeiladodd y gwirfoddolwyr yr argae cyntaf ar ddechrau 2025 - flwyddyn yn ddiweddarach, dywed Linda ei fod yn gwneud yr hyn ro'n nhw wedi gobeithio y byddai'n gwneud.

"Allwn ni ddim dweud ei fod yn gwneud gwahaniaeth i lefel yr afon - byddai angen llawer ohonyn nhw (ar gyfer hynny). Ond mae'r un yma yn gweithio. Mae'n dal rhywfaint o ddŵr yn ôl, ac mae'n creu ecosystem wlyb tu ôl iddo."

Dywedodd Llinos Humphreys o Goed Cadw ei fod yn ddull y mae'r sefydliad yn ei ddefnyddio mewn llefydd eraill a bod effaith yr argaeau yn cael ei monitro.

"Ni'n gweithio gyda prifysgol a timau cadwraeth sy'n rhoi ambell i ddull mewn lle i edrych arno fe - gwahanol 'experiments' fel bod nhw'n gallu gweld faint o ddŵr sy'n mynd lawr."

Mae Dr Hywel Griffiths, o adran daearyddiaeth ffisegol Prifysgol Aberystwyth, yn arbenigo ar afonydd a sut maen nhw'n ymateb i newid amgylcheddol. Dywedodd fod tystiolaeth bod plannu coed yn gallu cael effaith ar leihau llifogydd ac arafu llif dŵr.

Llun o argae mae'r gwirfoddolwyr wedi'i greu mewn cae ger Tal-y-bont. Yn y cefndir mae rhai gwirfoddolwyr yn gweithio ar argae arall
Disgrifiad o’r llun,

Argae o helyg byw a brigau ar draws ffrwd sy'n rhedeg lawr cae tuag at afon Leri

Mae ystadegau'n dangos bod Cymru – fel gweddill y DU – yn profi lefelau uwch na'r cyfartaledd o law.

Dywed y Swyddfa Dywydd fod Hydref 2025 yn nodedig o wlyb yng Nghymru gyda glawiad 137% o'r cyfartaledd hirdymor, gan ei wneud y 10fed hydref gwlypaf ers 1836.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion, sy'n gyfrifol am fesurau atal llifogydd yn Nhal-y-bont, fod y cyngor yn "yn cydnabod ac yn croesawu'r ymdrechion sylweddol a wnaed gan gymuned Tal-y-bont."

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn paratoi achos busnes a dyluniad manwl ar gyfer cynllun amddiffyn llifogydd yn yr ardal.

Dywedodd Keith Ivens, rheolwr gweithrediadau perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd gwarchod rhag llifogydd mewn lle fel Tal-y-bont yn heriol, gan fod afonydd serth sy'n llifo'n gyflym iawn gerllaw.

"Ni ellir atal llifogydd", meddai Mr Ivens "ond mae atebion sy'n seiliedig ar natur fel y rhai a gyflawnir gan y grŵp gwirfoddol yn anelu at leihau difrifoldeb llifogydd sy'n golygu, trwy gyfuno hyn â mesurau gwydnwch eiddo gwych, y gall cymunedau wella'n gyflymach."

Mae'r cyfnod plannu presennol yn dod i ben ddiwedd Mawrth ond dywedodd Linda Denton y bydd y gwirfoddolwyr yn cwrdd eto i blannu mwy ddiwedd y flwyddyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now