Cymdeithas labeli recordiau cyntaf Cymru am sicrhau 'dyfodol cynaliadwy'

- Cyhoeddwyd
Mae nifer o labeli recordiau Cymru wedi dod at ei gilydd i sefydlu cymdeithas labeli recordiau cyntaf Cymru gyda'r gobaith o "sicrhau dyfodol cynaliadwy a chefnogol i labeli a cherddorion Cymru".
Mae Cymdeithas Labeli Cymru'n dweud fod nifer y labeli Cymraeg wedi cynyddu ond bod yr heriau maen nhw'n eu hwynebu'n cynyddu hefyd.
Dywedodd y cerddor a chadeirydd y Gymdeithas, Yws Gwynedd, sy'n rhedeg cwmni Recordiau Côsh, fod y cydweithio rhwng labeli am "godi proffesiynoldeb ein diwydiant".
Ymhlith rhai o'r labeli sy'n rhan o'r gymdeithas mae Recordiau Côsh, Sain, Recordiau, Grwndi Rec-ords, Codi Pais Records a Mr Phormula.

Dywedodd Yws Gwynedd mai'r gobaith ydi "codi proffesiynoldeb ein diwydiant"
Mewn datganiad, dywedodd: "Mae'r ffaith fod labeli Cymru wedi dod at ei gilydd i gydweithio fel un yn dangos y cynnydd gwych mae'r sîn gerddorol yng Nghymru wedi'i brofi'n ddiweddar.
"Drwy osod sylfaeni fel hyn, 'da ni'n siŵr o godi proffesiynoldeb ein diwydiant, a sicrhau dyfodol cerddoriaeth Gymreig gyda gweledigaeth y rhai sy'n gyfrifol am ei rhyddhau a'i hyrwyddo."
Dywedodd y Gymdeithas y bydd yr arweinyddiaeth yn newid yn flynyddol i sicrhau bod y rhaglen waith yn esblygu yn gyson.

"Mae yna gymaint o weithgaredd a gwaith gwych yn dod o Gymru a dwi'n siŵr fydd y Gymdeithas Labeli yn gallu helpu i sicrhau fod y tyfiant yma'n un hirdymor a cynaliadwy," meddai Hedydd Ioan
Dywedodd is-gadeirydd y Gymdeithas, Hedydd Ioan, sy'n rhedeg y label INOIS, ei fod yn "anhygoel o gyffrous bod labeli Cymru yn dod at ei gilydd er mwyn datblygu'r partneriaethau cryf sy'n bodoli yn barod yn y diwydiant".
"Mae yna gymaint o weithgaredd a gwaith gwych yn dod o Gymru a dwi'n siŵr fydd y Gymdeithas Labeli yn gallu helpu i sicrhau fod y tyfiant yma'n un hirdymor a cynaliadwy," meddai.
"Mae cerddoriaeth Gymraeg yn cyfrannu gymaint tuag at ddiwylliant Cymru ac mae gallu gweld datblygiadau fel yma yn arwydd fod hynny am barhau am amser maith."

"Mae cymaint o waith caled yn mynd mewn i redeg y labeli," meddai Huw Stephens
Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Huw Stephens fod y "gwaith mae labeli Cymru yn gwneud i hyrwyddo, hybu a rhyddhau cerddoriaeth o Gymru yn hollbwysig".
"Mae gymaint o waith caled yn mynd mewn i redeg y labeli," meddai.
"Dwi'n siŵr bydd hi'n fuddiol iddyn nhw ddysgu gan ei gilydd a chydlynu i hybu'r gerddoriaeth maen nhw'n gweithio gyda."
Carwyn Ellis: 'Diolch am ddylanwad fy athrawes cerdd Haf Morris'
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Eisteddfod 2026: Cyhoeddi artistiaid Maes B
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
Newid agweddau at gerddoriaeth Saesneg yn 'beth da i'r Gymraeg'
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
Ymysg y labeli sydd yn rhan o'r Gymdeithas mae Recordiau Côsh, INOIS, Fflach Cymunedol, Sain, Recordiau I KA CHING, Recordiau Libertino, Bubblewrap Collective, Recordiau JigCal, Grwndi Rec-ords, Sbrigyn Ymborth, Tarw Du, Meraki, Recordiau Sbensh, Lwcus T, Recordiau Bryn Rock, Recordiau MoPaChi, Codi Pais Records, a Mr Phormula.
Mae gwahoddiad agored i unrhyw label sydd yn rhyddhau mwy nag un artist ac yn rhyddhau cynnyrch Cymraeg neu ddwyieithog i ymuno â'r Gymdeithas.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.