'Ni ar ein gliniau erbyn diwedd y tymor' - Sut mae datrys her denu athrawon?

Mae dysgu yn "ddeiniadol o ran y gwyliau", meddai Rhydian Evans ond "mae'r baich yna yn fawr"
- Cyhoeddwyd
"Ni'n lwcus iawn yma yn Ysgol Nantgaredig i gael athrawon profiadol, arbennig, wedi bod yma ers blynyddoedd gydag ymdeimlad o berthyn yn yr ysgol - faint fydd yn ymgeisio yn y dyfodol?"
Dyna bryder athrawon mewn un ysgol gynradd wledig yn Sir Gaerfyrddin wrth ystyried heriau recriwtio a chadw staff o fewn y drefn addysg yng Nghymru.
Mae'r broblem ar ei waethaf mewn ysgolion uwchradd, ond yn yr ysgol hon hefyd mae nhw'n clywed tystiolaeth bod gofynion cynyddol y swydd yn llai atyniadol i ddarpar athrawon ifanc.
Eu gobaith yw y bydd yr her yn uchel ar yr agenda wrth i wleidyddion drafod y drefn addysg cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.
'Mwy o ofynion a mwy o bwyse'
Pwysau'r swydd sy'n gallu gwneud dysgu yn llai atyniadol, yn ôl Rhydian Evans, sydd wedi bod yn athro ers 15 mlynedd.
Yn aml, cyllid sydd wrth wraidd y broblem, meddai, ac yn Ysgol Nantgaredig maen nhw wedi gorfod uno rhai dosbarthiadau i arbed gwariant ar staff.
"Ar hyn o bryd blwyddyn tri a phedwar sydd 'da fi - mae 31 plentyn yn y dosbarth; dwi'n credu fod 31 yn yr ail ddosbarth, sef blwyddyn pedwar a phump, a dosbarth blwyddyn pump a chwech... maen nhw lan i 34 o blant.
"Felly mwy o ofynion a mwy o bwyse o ddydd i ddydd - cynllunio, y paratoi, yr asesu yr addysgu."
'Systemau iechyd ac addysg Cymru'n tanberfformio o gymharu â Lloegr'
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
Ysgol Glan Clwyd yn 70: Recriwtio athrawon yn 'greisis' i addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
'Dim un ymgeisydd o gwbl am swydd athro diweddar'
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022
Ar ben hynny mae'n rhaid cyfathrebu gyda mwy o rieni ac ymdopi weithiau gyda mwy o anghenion gwahanol ymhlith y disgyblion.
"Ni'n gwneud ein gore. Ni ar ein pengliniau erbyn diwedd yr wythnos, ar ein pengliniau erbyn diwedd y tymor."
Mae'n hoff o'i swydd, ond mae'n gweld myfyrwyr sy'n dod i'r ysgol fel rhan o'u cyrsiau ymarfer dysgu yn synnu ar faint y cyfrifoldebau.
"Mae anghenion plant wedi amrywio yn y blynyddoedd dwetha' - yn gymdeithasol", meddai.
"Mae'n ddeiniadol o ran y gwyliau - dwi'n cael fy mhoeni byth a beunydd gan fy ffrindiau am yr holl wyliau a ni'n derbyn hynny.
"Ond o ddydd i ddydd o wythnos i wythnos, mae'r baich yna yn fawr."

Mae angen gwneud mwy i bwysleiso manteision y swydd, meddai Steffan Griffiths, "nid dim ond y doom and gloom"
Mae problemau recriwtio athrawon yn fwy dwys yn y sector uwchradd, mewn rhai pynciau penodol ac yn y Gymraeg, ond mae'r pennaeth Steffan Griffiths yn clywed tystiolaeth gynyddol bod heriau o ran denu rhai athrawon cynradd hefyd, yn ogystal â'u cadw.
"Ni'n clywed am ganran go uchel o athrawon sy'n cychwyn eu gyrfa ac yna o fewn dwy flynedd yn dweud 'diolch yn fawr iawn - gormod, ni'n gadael y proffesiwn' felly mae hwnna yn ei hunan yn gonsyrn.
"Dwi ddim yn credu fod y proffesiwn yn ddigon atyniadol.
"Mae angen mwy o waith arno ni i gyd i drio gwerthu'r proffesiwn achos mae gweithio efo plant yn rhoi pleser a dwi ddim yn credu fod rhai pobl yn ymwybodol cystal gyrfa yw e a faint chi'n cael allan ohono fe os y' chi yn ymrwymo."
Recriwtio uwchradd dan y targed ers degawd
Yn ôl y Cyngor Gweithlu Addysg mae problemau recriwtio a chadw athrawon yn cael eu gweld ar draws y byd ac mae'r sefyllfa o ran cadw staff yng Nghymru yn "gymharol sefydlog" ar hyn o bryd.
Ond mae recriwtio i gyrsiau hyfforddi athrawon uwchradd wedi bod o dan y targed ers 2016/17, a 56% oddi tano yn 2023/24.
Ar lefel gynradd, mae'r sefyllfa yn gyffredinol yn fwy iach yn ôl yr arolygiaeth addysg Estyn, er bod llenwi llefydd cyfrwng Cymraeg "yn parhau i fod yn bryder".

Mae unig ganolfan anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg y sir yn Ysgol Nantgaredig - ac mae'n llawn
Gyda chanolfan arbenigol yn yr ysgol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, mae Steffan Griffiths o'r farn bod angen i wleidyddion sicrhau bod yna ddigon o adnoddau i ysgolion ymateb i'r galw cynyddol.
"Gyda'n canolfan ni mae na ddau ddosbarth i gael - 16 o blant sydd rhwng y ddau ddosbarth. Ni'n llawn a mae na rhestr aros i gael."
Yn ogystal mae yna gynnydd yn y "dwyster anghenion" o fewn dosbarthiadau prif ffrwd.
"Ni yn gweld mwy o ddisgyblion a heriau ond dyw'r staff ddim yn cynyddu na'r cyllid.
"Felly mae'n her i'r athro neu athrawes i gefnogi dosbarth mawr a'r ystod angen a rhai disgyblion gydag anghenion penodol iawn."

Mae problemau ymddygiad, llwyth gwaith a chyflogau ar fai am y cwymp mewn diddordeb mewn bod yn athro, meddai Sion Amlyn
Yn ôl un undeb dysgu, codi rhywfaint o'r baich oddi ar athrawon yw'r allwedd i ddenu mwy i'r proffesiwn.
Mae'r sefyllfa recriwtio yn "ddifrifol", meddai Sion Amlyn o undeb athrawon yr NASUWT.
"Ar y funud mae'r problemau ymddygiad, llwyth gwaith, cyflogau i raddau i gyd yn gwneud y swydd yn un sydd ddim mor ddeniadol â swyddi eraill a dydy graddedigion just ddim isio bod yn athrawon."
Ond mae'n gweld bod ateb rhai o'r pryderon yma "o fewn gafael y llywodraeth" er mwyn argyhoeddi mwy o bobl ifanc bod dysgu yn gallu bod yn yrfa "hynod gyffrous".
Beth yw barn y pleidiau?
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru eu bod wedi cyhoeddi Cynllun Gweithlu Addysg yr wythnos hon gan ychwanegu: "Athrawon a staff cymorth yw asgwrn cefn ein system addysg."
Ychwanegodd y byddai pob aelod o staff ysgol, nid dim ond athrawon, yn cael eu hyfforddi i gefnogi plant ag anghenion ychwanegol, er mwyn gwella'r ddarpariaeth.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y bydden nhw'n rhoi cymhelliant ariannol neu ad-daliad i raddedigion sy'n hyfforddi fel athrawon yng Nghymru a sy'n ymrwymo i addysgu yng Nghymru am o leiaf bum mlynedd.
Dywedodd eu llefarydd addysg, Natasha Asghar AS, fod ganddynt gynllun sy'n "cefnogi athrawon", a fyddai'n "adfer disgyblaeth, yn lleihau biwrocratiaeth ddiangen, ac yn sicrhau bod staff yn cael y gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau – addysgu".
Mae Plaid Cymru yn honni bod Llafur wedi methu â chynnal safonau sylfaenol addysg dros 27 mlynedd mewn grym.
Dywedodd llefarydd y blaid ar addysg, Cefin Campbell AS y byddai'r blaid yn cyflwyno strategaethau llythrennedd a rhifedd i "godi safonau", a system sy'n denu a chadw athrawon, wrth wella problemau fel presenoldeb ac ymddygiad gwael ymysg disgyblion.
Mae Reform yn addo torri biwrocratiaeth "er mwyn i athrawon gael addysgu", a chefnogi athrawon drwy "adfer disgyblaeth mewn ysgolion, cymryd agwedd dim goddefgarwch at ddisgyblaeth a gwahardd ffonau symudol o ysgolion".
Ychwanegodd Laura Anne Jones AS bod "recriwtio a chadw athrawon, yn enwedig mewn pynciau craidd, yn un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r byd addysg yng Nghymru".
Mae'r Blaid Werdd yn addo gwella recriwtio a chadw athrawon, gwella amodau gwaith gyda rhagor o gyflog am amser paratoi, a chynnig cyfleoedd i ddatblygu gyrfa.
"Rydyn ni'n adnabod y pwysau ychwanegol mae staff yn eu hwynebu gan blant gydag anghenion ychwanegol, felly byddwn yn cryfhau'r cydweithio rhwng ysgolion, awdurdodau a gwasanaethau iechyd i gefnogi disgyblion yn well", meddai llefarydd.
Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyflwyno strategaeth i fynd i'r adael â recriwtio, a chynyddu cyllid i ysgolion fesul disgybl uwchben cyfradd chwyddiant.
Dywedodd llefarydd y byddai'r blaid yn "buddsoddi mewn blynyddoedd cynnar" a sicrhau bod "cefnogaeth arbenigol ar gael mewn ysgolion yn hytrach na bod y baich ar athrawon yn unig".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.