Dau yn gwadu cyhuddiadau'n ymwneud â cham-drin plant

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â chartref Coed Glas yn Y Fenni, oedd yn ganolfan asesu plant rhwng y 1970au a'r 1990au
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi gwadu cyhuddiadau sy'n gysylltiedig â honiadau o gam-drin plant mewn hen ganolfan blant yn Sir Fynwy.
Fe ymddangosodd Lisa Gething, 59 o'r Fenni, a Simon Bevan, 55 o ardal Coed-duon, mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau i gadarnhau eu henwau, eu hoedran a'u dyddiad geni.
Mae Ms Gething yn wynebu pedwar cyhuddiad sy'n gysylltiedig â digwyddiadau honedig yn yr 1980au a'r 90au, yn ymwneud â thri o bobl o dan 16 oed ar y pryd.
Plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiadau o achosi dioddefaint diangen, esgeuluso neu ymosod ar blentyn.
Mae Mr Bevan yn wynebu dau gyhuddiad yn gysylltiedig â digwyddiadau honedig yn ystod y 1990au yn ymwneud â dau berson oedd o dan 16 oed ar y pryd.
Plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiadau o achosi i blentyn gael ei ymosod arno neu ei gam-drin neu achosi dioddefaint diangen.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â chartref Coed Glas yn Y Fenni, oedd yn ganolfan asesu plant rhwng y 1970au a'r 1990au. Fe gaeodd y ganolfan yn 1995.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol, gyda'r barnwr yn dweud na ddylen nhw gysylltu ag unrhyw gyd-ddiffynyddion nac unrhyw dystion yr erlyniad.
Dywedodd y Barnwr Sophie Toms ei fod yn achos "y mae'n rhaid ei anfon i Lys y Goron" ac y byddan nhw'n ymddangos eto yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae Ms Gething a Mr Bevan yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn
Mae'r BBC yn deall bod Ms Gething yn weithiwr cymdeithasol sy'n cael ei chyflogi gan Gyngor Caerffili.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili: "Gallwn gadarnhau bod Gweithiwr Cymdeithasol Achlysurol sy'n cael ei gyflogi o fewn y Tîm Dyletswydd Argyfwng wedi'i wahardd ar hyn o bryd tra bod ymchwiliadau'n parhau.
"Mae gan y cyngor bolisïau a gweithdrefnau diogelu cadarn ar waith pan mae honiadau'n cael eu gwneud yn erbyn aelod o staff, ac rydym yn cefnogi Heddlu Gwent gyda'u hymholiadau."
Wrth gyhoeddi'r diweddariad neithiwr, dywedodd Heddlu Gwent eu bod bellach wedi dod â nifer y cyhuddiadau yn eu hymchwiliad 'Ymgyrch Spinney' i 50, yn erbyn 18 o ddioddefwyr honedig, gyda dau ddyn yn ymddangos yn y llys y llynedd.
Cafodd Angus Riddell, 69 o Rondda Cynon Taf, a Robin Griffiths, 65 o Flaenau Gwent, eu cyhuddo ym mis Mehefin 2025 gyda 45 o droseddau rhyngddynt.
Mae disgwyl iddyn nhw wynebu achos llys yn 2027.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.