Awdur The Salt Path wedi ysgrifennu llyfr cudd yn gyntaf, er iddi honni ei bod yn awdur tro cyntaf

Raynor WinnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Raynor Winn wedi honni mai The Salt Path oedd ei llyfr cyntaf, ond mae ei chyfreithwyr wedi cadarnhau ei bod wedi ysgrifennu cyfrol cyn hynny dan enw gwahanol

  • Cyhoeddwyd

Roedd awdur The Salt Path, Raynor Winn, wedi ysgrifennu llyfr a gafodd ei gyhoeddi yn 2012, er ei bod wedi mynnu sawl tro mai ei chyfrol ddadleuol o 2018 - sy'n olrhain hanes taith gerdded newidiodd ei bywyd - oedd y gyfrol gyntaf iddi ei hysgrifennu.

Mewn podlediad newydd ar BBC Sounds, Secrets of the Salt Path, mae cyfreithwyr Winn yn cadarnhau ar ei rhan ei bod wedi ysgrifennu llyfr o dan yr enw Izzy Wyn-Thomas.

Cafodd y gyfrol ei chyhoeddi gan gwmni roedd hi a'i gŵr yn ei berchen arno, ac fe gafodd ei gwerthu fel rhan o raffl lle roedd modd ennill eu cartref yng ngogledd Cymru.

Fe enillodd Winn nifer o wobrau am The Salt Path, gan gynnwys £10,000 ar gyfer nofel neu lyfr ffeithiol gyntaf awdur.

Roedd ymchwiliad gan bapur newydd The Observer yn 2025 hefyd yn honni bod y cofiant yn cynnwys gwybodaeth gamarweiniol am ei bywyd.

Roedd Winn wedi mynnu yn gyson mai The Salt Path oedd y llyfr cyntaf iddi hi ei ysgrifennu.

Cafodd y gyfrol ei throi yn ffilm gyda Gillian Anderson a Jason Isaacs.

Mewn cyfweliad ar gyfer Waterstones yn 2020, dywedodd: "Dyma'r peth cyntaf dwi wedi'i ysgrifennu ers bod yn yr ysgol yn fy arddegau - y peth cyntaf."

Yn yr un cyfweliad, cafodd ei gŵr, Moth, ei holi a oedd yn gwybod bod ei wraig yn gallu ysgrifennu cyn iddi gwblhau The Salt Path.

Dywedodd: "Na, dim o gwbl. Do'n i ddim yn gwybod ei bod yn gallu ysgrifennu. Roedd wedi fy synnu."

Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Cornwall yn 2019 ynglŷn â'r broses o ddod yn awdur, dywedodd Raynor Winn: "Nes i googlo i chwilio am asiant, fel wyt ti'n gwneud pan does gen ti ddim unrhyw gysylltiadau, a dim syniad beth wyt ti'n ei wneud."

Ond roedd gan y cwpl brofiad blaenorol o ysgrifennu a chyhoeddi.

Gillian Anderson a Raynor WinnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gillian Anderson (chwith) oedd yn chwarae rhan Raynor Winn (dde) yn y ffilm a gafodd ei rhyddhau yn 2025

Roedd Winn wedi ysgrifennu llyfr a gafodd ei gyhoeddi gan eu cwmni yn 2012.

Mewn datganiad ar-lein, dywedodd: "Roedden ni mewn cyfyng gyngor, ac am gyfnod byr fe geision ni gynnal raffl a chynnig tŷ fel gwobr fel mae pobl eraill wedi'i wneud, ond fe sylweddolon ni'n gyflym bod hynny'n gamgymeriad."

Cafodd cwmni cyhoeddi Gangani ei sefydlu ym mis Mawrth 2012, wedi'i gofrestru mewn ystâd ddiwydiannol ar gyrion Bangor.

Yn ôl cofnodion Tŷ'r Cwmnïau, Tim Walker yw'r cyfarwyddwr, ac mae Sally Walker yn un o'r cyfranddalwyr - dyna enwau cyfreithiol Moth a Raynor Winn, oedd yn byw ger Pwllheli ar y pryd.

Mae'n ymddangos mai dim ond un gyfrol mae Gangani Publishing wedi'i chyhoeddi, sef How Not to Dal Dy Dir, gan awdur o'r enw Izzy Wyn-Thomas.

Yr amcangyfrif yw mai dim ond ychydig o gopïau o'r gyfrol gafodd eu cyhoeddi, ac mae'n anodd cael gafael arnyn nhw.

Yn ôl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, hwn oedd yr unig lyfr i Izzy Wyn-Thomas ei gyhoeddi.

Mae'r broliant ar-lein yn dweud bod y gyfrol yn "nofel â hiwmor tywyll, yn tynnu llinyn trwy fywydau ffermwyr o Gymru, cyfrifwyr o'r ddinas, perchnogion gwestai Indiaidd a mamau Eisteddfodol".

The Salt PathFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llyfr The Salt Path yn eithriadol o boblogaidd

Roedd Matt Swarbrick, sy'n ffermio yn Henbant ger Caernarfon, wedi darllen y llyfr ar ôl gweld hysbyseb gan y cyhoeddwr ar fforwm ar-lein ar gyfer tyddynwyr (smallholders).

"Ro'n i'n awyddus i ddarllen straeon pobl oedd wedi gwneud yr un fath â fi, ac roedd y llyfr yma wedi ymddangos," meddai.

"Dwi'n cofio cyffroi i ddarllen y llyfr, oherwydd roedd yn rhaid ei brynu o'u gwefan nhw, ac roedd yn teimlo fel eu bod nhw wedi bod ar daith debyg i fi."

Dywedodd ei fod yn awyddus i glywed straeon tebyg i'w un ef, ar ôl iddo brynu fferm nid nepell o Raynor a Moth yng ngogledd Cymru.

Matt Swarbrick
Disgrifiad o’r llun,

Mae Matt Swarbrick yn cofio prynu llyfr cyntaf Winn

Mae negeseuon ar-lein yn enw Izzy Wyn-Thomas, sydd wedi'u gweld gan y BBC, yn honni bod perchennog siop lyfrau leol, o'r enw Steve, wedi gwrthod gwerthu'r llyfr.

Mae gan Stephen Lloyd Wright siop lyfrau ym Mhwllheli.

"Do'n i ddim yn gyfarwydd iawn â Sally. Ar y llaw arall, roedd Tim yn gwsmer eitha' rheolaidd. Roedd yn berson allblyg iawn, roedd yn ymddangos fel pe bai'n agored iawn am ei fywyd," meddai.

Ond doedd Stephen ddim yn ymwybodol bod Tim hefyd yn gweithio yn y diwydiant.

"Byddech chi'n meddwl y byddai o wedi gofyn i fi ei helpu, ag yntau'n gyfrifol am gwmni cyhoeddi," meddai.

"Gan ei fod yn ddigon caredig i fod yn gwsmer i fi, fe fyddwn i wedi'i helpu fo, ond ddigwyddodd hynny ddim."

Stephen Wright
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Stephen Wright ddim yn ymwybodol bod Tim hefyd yn gweithio yn y diwydiant

Dyw'r BBC ddim yn gallu cadarnhau mai Stephen Lloyd Wright yw'r Steve mae'r negeseuon ar-lein yn cyfeirio ato, ond ef yw'r unig werthwr llyfrau o'r enw Steve ym Mhwllheli.

"Roedd 'na gysylltiad honedig rhyngdda' i a'r Izzy 'ma. Mae'n rhaid i fi ddweud, os oeddwn i wedi gwrthod gwerthu'r llyfr, does gen i ddim cof o gwbl o gael sgwrs o'r fath," meddai.

"Siŵr o fod dyma fyddai'r llyfr cynta' gan awdur lleol y bydden i wedi gwrthod ei werthu."

Roedd Tim a Sally Walker wedi mynd â chopïau o How Not to Dal Dy Dir i siop lyfrau arall ym Mhwllheli, ac fe gymrodd bum copi i'w gwerthu.

Dywedodd y perchennog: "Roedd gen i ddiddordeb yn y teitl, ond pan edrychais i ar y llyfr, nes i sylweddoli nad oedd o beth o'n i'n credu oedd o.

"Roedd cynnwys y dywediad 'na yn y teitl yn rhyfedd. Wnaethon nhw ddim rhoi llawer o gyfle iddo werthu."

Raffl i ennill tŷ

Fe geisiodd Gangani Publishing farchnata'r gyfrol ar-lein, ac yn 2012, fe osodon nhw neges ar fforwm o'r enw The Accidental Smallholder, sy'n cynnig cefnogaeth i dyddynwyr a garddwyr.

Yn y neges, fe ddywedon nhw byddai enwau pawb sy'n prynu'r llyfr yn cael eu rhoi mewn raffl i ennill tŷ eu ffrind, oedd yn gorfod rhoi'r gorau iddo oherwydd salwch.

Dywedodd Mr Swarbrick, a brynodd y llyfr ar ôl gweld y neges ar y fforwm, bod ganddo frith gof am y raffl, ond nid oedd yn cofio'r manylion yn llawn, nac wedi cael unrhyw gysylltiad â'r cyhoeddwyr ar ôl prynu'r llyfr.

Doedd cynnwys y neges ar-lein ddim yn wir. Tŷ Raynor a Moth, Pen Y Maes ger Pwllheli, oedd y tŷ yn y raffl mewn gwirionedd.

Raynor a Moth WinnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tŷ Raynor a Moth Winn oedd yn rhan o'r raffl mewn gwirionedd

Roedd y cwpl wedi hysbysebu'r tŷ fel gwobr "oedd yn cael ei gynnig heb forgais nac unrhyw gostau cyfreithiol eraill".

Ond yn ôl dogfennau'r Gofrestrfa Tir roedd yna ddyled yn gysylltiedig â'r tŷ, yn ogystal â morgais.

Roedd Raynor a Moth wedi cael benthyciad yn 2008 gan aelod o'u teulu, ar ôl honiadau bod Raynor wedi dwyn tua £64,000 gan ei chyn-gyflogwr Martin Hemmings, a'u bod angen talu'r arian yn ôl.

Cafodd y ddyled ei phasio ymlaen at fenthyciwr arall, gyda chyfradd llog o 18%.

Gallai ceisio cynnig eiddo oedd â dyled ynghlwm ag ef, fel gwobr heb forgais, fod gyfystyr â thwyll.

Ond does dim cofnod bod yr awdurdod lleol, Cyngor Gwynedd, wedi cynnal ymchwiliad i Gangani Publishing.

Fe gadarnhaodd y cyngor nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad ymchwilio i'r achos, gan ei fod wedi digwydd mor hir yn ôl.

'Roedd yn gamgymeriad'

Mewn datganiad ysgrifenedig ar-lein ym mis Gorffennaf 2025, dywedodd Winn ei bod wedi gweithio i Martin Hemmings "yn y blynyddoedd cyn argyfwng ariannol 2008".

"Roeddwn i dan bwysau ar y pryd. Roedd yn gyfnod hefyd pan oedd camgymeriadau'n digwydd yn y busnes.

"Rwy'n edifar yn fawr unrhyw gamgymeriadau a wnes i yn ystod y blynyddoedd yn y swyddfa honno, ac mae'n wir ddrwg gen i."

Fe gyfaddefodd hefyd mai hi a Moth oedd yn gyfrifol am y raffl.

"Roedd yn gamgymeriad, oherwydd roedd yn amlwg na fyddai'n gweithio," meddai.

"Fe wnaethon ni ganslo'r cwbl a rhoi arian yn ôl i'r ychydig bobl oedd wedi cymryd rhan."

Dyw Raynor Winn ddim wedi cydnabod o'r blaen mai hi ysgrifennodd How Not to Dal Dy Dir, ond fe gadarnhaodd ei chyfreithwyr mai hi oedd yr awdur.

Gofynnodd y BBC gyfres o gwestiynau i Raynor a Moth, a gofyn am gyfweliad ar gyfer podlediad Secrets of the Salt Path, ond fe wnaethon nhw wrthod.

Pen Y Maes ger Pwllheli
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cwpl, oedd yn byw ym Mhen Y Maes ger Pwllheli, wedi mynd i drafferthion ariannol

Enillodd Winn wobr Christopher Bland yn 2019 am The Salt Path.

Yn ôl gwefan y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol, mae'r wobr yn cynnig £10,000 i nofelydd neu awdur ffeithiol 50 oed neu hŷn, sydd wedi cyhoeddi eu cyfrol gyntaf.

Gofynnodd y BBC i'r gymdeithas, a oedd y wybodaeth newydd ynglŷn â Raynor Winn yn effeithio ar y wobr enillodd hi.

Fe ddywedon nhw fod y gystadleuaeth yn 2019 - pan enillodd The Salt Path - yn caniatáu cynigion gan awduron oedd wedi cyhoeddi ar eu liwt ei hunain yn y gorffennol. Cafodd y rheolau eu newid y flwyddyn ganlynol.

Roedd disgwyl i bedwaredd gyfrol Winn gael ei chyhoeddi gan Penguin ym mis Hydref 2025, ond mae wedi'i gohirio am gyfnod amhenodol oherwydd bod yr awdur "dan bwysau sylweddol".

Ym mis Rhagfyr 2025, cafodd y dyddiad cyhoeddi ei ddiweddaru gan Penguin i Ionawr 2028.

Ni wnaeth Penguin Michael Joseph, a gyhoeddodd The Salt Path, ymateb i gwestiynau'r BBC, ond mewn datganiad blaenorol fe ddywedon nhw eu bod wedi "gwneud yr ymholiadau angenrheidiol" cyn cyhoeddi'r llyfr, yn dilyn cyfres o honiadau ynglŷn â chywirdeb y gyfrol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now