Heddlu Dyfed-Powys i arwain ymchwiliad wedi i swyddog danio gwn

Bunkers HillFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn Bunkers Hill nos Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae corff gwarchod yr heddlu wedi dweud mai Heddlu Dyfed-Powys fydd yn cynnal ymchwiliad ar ôl i swyddog danio gwn mewn digwyddiad yn Sir Benfro.

Roedd y llu wedi cyfeirio eu hunain at y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn dilyn y digwyddiad yn Bunkers Hill, Aberdaugleddau nos Sadwrn.

Dywedodd yr IOPC ddydd Mercher bod angen cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad, ond ei bod yn "briodol i hwnnw gael ei gynnal yn lleol gan Heddlu Dyfed-Powys".

Roedd y swyddog wedi saethu'r gwn ar ôl cael ei alw i ddigwyddiad mewn ystâd dai, wedi adroddiadau bod dyn yno gyda chyllell.

Dywedodd yr heddlu nad oedd y gwn wedi ei bwyntio at unigolyn ac nad oedd unrhyw un wedi cael ei anafu pan gafodd y gwn ei saethu unwaith.

Cafodd swyddogion, gan gynnwys uned arfau tanio, eu galw i'r eiddo tua 17:45. Cafodd y gwn ei danio am 18:32 meddai'r heddlu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now