Lisa Dafydd: O'r côr lleol yn Rhuthun i arwain y canu yn Twickenham

Lisa Dafydd fydd yn canu'r anthem genedlaethol cyn gêm gyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad eleni
- Cyhoeddwyd
"Mae cael cynrychioli Cymru mewn unrhyw ffordd yn fraint, ond bydd dydd Sadwrn wir yn arbennig."
Mae dechrau'r Chwe Gwlad wastad yn cyffroi Lisa Dafydd a'i theulu, ond fe fydd pencampwriaeth eleni'n fwy arbennig na'r arfer gyda Lisa wedi ei dewis i ganu'r anthem genedlaethol o flaen torf o dros 80,000 o bobl yn stadiwm Twickenham.
"Dwi erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o'r blaen," meddai'r gantores o Ruthun yn Sir Ddinbych.
"Dwi erioed wedi perfformio mewn rhywle mor fawr ac i gymaint o dorf o'r blaen felly dwi'n edrych ymlaen at gyfle hollol newydd a hollol wahanol."

Dywedodd Lisa fod ei thaith i fod yn gantores wedi dechrau yn ei chartref pan yn ifanc iawn
Mae cael canu Hen Wlad fy Nhadau cyn gêm Cymru y math o gyfle mae'r gantores 26 oed wedi bod yn gweithio tuag ato ers blynyddoedd maith.
"Roedd ein cartref llawn canu ers o'n i'n ifanc iawn," esboniodd.
"Roedd mam yn athrawes gerdd yn Ysgol Glan Clwyd ac yn arwain côr lleol yn Rhuthun ac roeddwn i a fy mrawd wastad yn mynd i'w sesiynau nhw efo mam ac yn eistedd a gwrando.
"Roedd hynna'n rhan fawr o'r hyn sydd wedi siapio fi fel cerddor.
Yn 13 oed, fe ymunodd Lisa â chôr ei mam, sef Côr Cytgan Clwyd.
"Dwi'n cofio fel plentyn canu yn y Cae Ras efo'r côr pan oedd Wrecsam yn chwarae pêl-droed, a dwi'n cofio Eisteddfodau hefyd pan o'n i'n tyfu fyny - dyna oedd fy mhrofiadau cyntaf o ganu o flaen cynulleidfa.
"Ond bydd dydd Sadwrn ar lefel arall."

Astudiodd Lisa ei chwrs meistr yn y Royal Academy of Music yn Llundain
Ar ôl gadael yr ysgol fe astudiodd Lisa yng Ngholeg Cerddoriaeth Frenhinol y Gogledd ym Manceinion am bedair blynedd fel cantores, cyn cwblhau cwrs meistr yn y Royal Academy of Music yn Llundain.
"Roedd o'n teimlo fel cam naturiol iawn i ddilyn cwrs oedd yn ffocysu ar ganu a dwi'n eithriadol o falch dwi wedi gwneud achos dwi wedi cael cymaint o gyfleoedd gwych o ganlyniad i hynny," meddai
Daeth un o uchafbwyntiau gyrfa Lisa hyd yma yn 2022 wrth iddi ennill Gwobr Goffa Osborne Roberts, Y Rhuban Glas yn Eisteddfod Tregaron.
Mae cystadleuaeth y Rhuban Glas i unawdwyr 19–25 oed ac mae wedi profi'n fan cychwyn allweddol i rai o gantorion enwocaf Cymru a'r byd fel Syr Bryn Terfel a Mary Lloyd Davies.
"(Roedd yn) Ddiwrnod hollol fythgofiadwy," meddai Lisa, "roedd cystadlu yn y lle cyntaf yn lot o hwyl, ond o'n i byth wedi dychmygu ennill."

Treuliodd Lisa gyfnod ar daith gydag Opera Cymru yn 2025
Opera a chanu clasurol yw arbenigedd Lisa erbyn hyn gan weithio ar sawl prosiect gwahanol ers ei llwyddiant yn yr Eisteddfod, gan gynnwys cyfnod gyda Thaith Opera Cymru ar ddiwedd 2025.
Y cam nesaf fydd canu'r anthem genedlaethol cyn y gêm brynhawn Sadwrn, ond mae yna garreg filltir arall y hoffai Lisa ei chyrraedd yn y dyfodol.
"Byse gallu gwneud yr un peth yn Stadiwm y Mileniwm o flaen torf o Gymry un dydd wir yn anhygoel.
"Dyna'r nod, dyna'r freuddwyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.