Beth yw llwybr Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2026?

Mae Craig Bellamy yn gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd yn ei ymgyrch ragbrofol gyntaf fel rheolwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Sweden yn 1958. Qatar yn 2022.
Yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico yn 2026?
Ar ôl colli'n erbyn Brasil yn rownd yr wyth olaf yn 1958, mi oedd yn rhaid aros 64 mlynedd i weld Cymru'n chwarae yng Nghwpan y Byd eto.
Y gobaith ydy na fydd rhaid aros mor hir i'w gweld nhw'n chwarae'n y gystadleuaeth am y trydydd tro.
Ar ôl gorffen yn yr ail safle yn eu grŵp rhagbrofol maen nhw yn y gemau ail-gyfle, ac fe fydd dwy fuddugoliaeth yn ddigon i'w gweld nhw'n sicrhau eu lle'n y rowndiau terfynol.
Ond tydi cyrraedd Cwpan y Byd ddim yn dasg hawdd - ddim o bell ffordd.
Llwybr y gemau ail-gyfle
Mi fydd Cymru yn wynebu Bosnia-Herzegovina yn y rownd gynderfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau, 26 Mawrth.
Os yn fuddugol, mi fydden nhw wedyn yn chwarae'n erbyn un ai'r Eidal neu Ogledd Iwerddon am le yng Nghwpan y Byd.
Ond un cam ar y tro.

Mae Edin Dzeko - prif sgoriwr Bosnia-Herzegovina - wedi chwarae i Manchester City, Roma ac Inter Milan
Er fod Bosnia 36 safle'n is na Chymru ar restr detholion y byd, maen nhw'n dîm gwell na beth mae hynny'n ei awgrymu.
Mi oedden nhw 13 munud i ffwrdd o gyrraedd Cwpan y Byd yn awtomatig. Tasen nhw heb ildio gôl hwyr yn erbyn Awstria yn eu gêm olaf yn y rowndiau rhagbrofol yna mi fysen nhw wedi gorffen ar frig eu grŵp.
Yr enw mwyaf cyfarwydd yn eu carfan ydi Edin Dzeko, ac er ei fod yn 40 oed bellach fo fydd y bygythiad mwyaf i Gymru.
Dzeko yw'r prif sgoriwr yn hanes Bosnia gyda 72 gôl, ac mae o wedi sgorio chwe gôl yn ei wyth gêm ddiwethaf i'w glwb Schalke yn Yr Almaen.
Cadw Dzeko yn dawel - a 'sa rhywun wedyn yn disgwyl i Gymru ennill.
Anafiadau'n achos pryder

Ben Davies yn derbyn triniaeth ar ôl torri ei ffêr ddechrau'r flwyddyn
Mi fydd Craig Bellamy heb bedwar chwaraewr profiadol iawn - pedwar sydd wedi ennill dros 50 o gapiau.
Tydi Ben Davies, Kieffer Moore a Chris Mepham ddim ar gael oherwydd anafiadau, tra fod Aaron Ramsey heb chwarae ers saith mis ar ôl gadael clwb Pumas ym Mecsico.
Y gwir amdani ydy fod Cymru yn gallu ymdopi heb Ramsey erbyn hyn - tydi o ddim wedi chwarae dros ei wlad ers Medi 2024, a mae Harry Wilson wedi cymryd ei le fel y chwaraewr canol cae creadigol.
Ond mae'r tri arall yn golledion anferth.
Bellamy yn enwi ei garfan ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
Kieffer Moore i fethu gemau ail gyfle Cwpan y Byd gydag anaf
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
Dwi ddim yn meddwl y byse Kieffer Moore wedi dechrau'n erbyn Bosnia, ond pwy a ŵyr. Mae ei daldra a'i gryfer bob tro'n achosi problemau i dimau, ac mae o wedi sgorio 13 gôl i Wrecsam y tymor yma.
Yng nghanol yr amddiffyn wedyn mi fydd hi'n ddiddorol gweld pwy fydd yn bartner i Joe Rodon yn absenoldeb Ben Davies a Chris Mepham.
Er fod Dylan Lawlor â dyfodol disglair o'i flaen, mae marcio Edin Dzeko yn mynd i fod yn her gwbl wahanol i chwarae yn Adran Un.
Ben Cabango ydi'r amddiffynnwr canol arall yn y garfan, neu mae chwarae Ethan Ampadu yno yn opsiwn hefyd.
Gobeithion Y Wal Goch
Beth felly am farn y cefnogwyr? Pa mor hyderus ydy rhai o aelodau'r Wal Goch y bydd Cymru yn cyrraedd y rowndiau terfynol?
"Gobeithio ein bod ni'n gallu cymryd momentwm o'r gêm ddiwethaf yn ennill o 7-1 yn erbyn Gogledd Macedonia," meddai Gwenllian Evans o Gaerdydd.
"Mae'n bwysig cofio mi oedden ni heb Kieffer Moore adeg hynny, felly mae'n gyfle eto i chwaraewyr eraill gyfrannu gyda goliau.
"Ni'n gwybod sut mae Bellamy mo'yn chwarae. Mae e ishe bod yn ymosodol gyda lot o gyflymder yn y tîm. Mae digon o dalent gyda ni a digon o chwaraewyr cyffrous i gael canlyniadau da."

Mae'r Wal Goch yn gobeithio gweld Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd am yr eildro yn olynol
Er fod Kevin Williams o Gaernarfon hefyd yn ffyddiog, tydi o ddim yn cymryd dim byd yn ganiataol.
"Dwi'n ofnadwy o nerfus am y gêm yn erbyn Bosnia, ond eto'n ddistaw bach dwi'n hyderus. Does bosibl fod y canlyniad yn erbyn Gogledd Macedonia wedi codi'r hyder o fewn y garfan," meddai.
"Ond mae pêl-droed y dyddiau hyn wedi ein dysgu ni i beidio cymryd dim byd yn ganiataol.
"Mae'n bwysig cofio mai gemau one-off ydi'r rhain, ac mae'r pedwar tîm sy'n yr un llwybr yn ddigon da i fynd i Gwpan y Byd."
Y golled orau erioed
Tydi record Cymru yn erbyn Bosnia ddim yn llenwi rhywun gyda hyder.
Mae'r ddau dîm wedi wynebu ei gilydd ar bedwar achlysur, a tydi Cymru dal heb ennill gêm.
Ar ôl dweud hynny, er i Gymru golli 2-0 y tro diwethaf i'r ddau dîm gwrdd, mi oedd hi'n noson hanesyddol i'r crysau cochion.

Chris Coleman yn dathlu cyrraedd Euro 2016 yn Zenica
Honno, draw yn ninas Zenica, oedd y noson iddyn nhw sicrhau eu lle yn Euro 2016.
Er ei fod yn ganlyniad siomedig i Gymru, fe ddoth y newyddion ar ôl y gêm fod Israel wedi colli yn erbyn Cyprus, oedd yn golygu fod tîm Chris Coleman ar eu ffordd i Ffrainc.
Mi oedd 'na ddathlu mawr tan oriau man y bore y noson honno.
Ond os y bydd Cymru yn colli'n erbyn Bosnia y tro yma, mi fydd eu gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd am yr eildro yn olynol ar ben.
Mae'n rhaid curo Bosnia - a hynny am y tro cyntaf yn eu hanes. Mae hi mor syml â hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.