Ceidwadwyr yn colli dau aelod staff i Reform cyn eu cynhadledd

Darren MillarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Millar wedi bod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ers diwedd 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi ymosod ar Reform yng nghynhadledd ei blaid ddydd Gwener, yn fuan ar ôl i ddau o'i uwch-swyddogion ym Mae Caerdydd droi at blaid Nigel Farage.

Dywedodd Darren Millar yn dweud nad yw Reform "yn blaid ddifrifol" a'i bod â mwy o ddiddordeb mewn gwerthu nwyddau marchnata na ffurfio llywodraeth.

Ond ar drothwy ei araith yn Llandudno daeth i'r amlwg bod ei ddirprwy-bennaeth staff Zak Weaver a'i uwch-swyddog cyfathrebu Tomos Llewelyn wedi gadael y Torïaid i weithio i ASau Reform.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael cais am ymateb.

Mae Darren Millar yn cyflwyno ei gynnig ar gyfer etholiad y Senedd y penwythnos hwn ar ôl colli cyfres o bobl i Reform.

Daw hyn wrth i arolygon barn awgrymu y gallai'r Ceidwadwyr ddod yn bedwerydd yn etholiad y Senedd, ac ar ôl i'r blaid golli dau AS - Laura Anne Jones a James Evans - i blaid Nigel Farage.

Fe wnaeth cyn-ymgeisydd am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn y DU, Robert Jenrick, adael hefyd fis diwethaf.

Dydd Iau, clywodd BBC Cymru fod dau o uwch-swyddogion y blaid yng Nghymru hefyd wedi gadael.

Mae un ohonyn nhw, Zak Weaver, hefyd yn sefyll fel ymgeisydd Ceidwadol mewn isetholiad sydd ar y gweill ar gyfer cyngor tref Penarth.

Y disgwyl yw y bydd yn egluro ei fod yn bwriadu bod yn gynghorydd Reform os caiff ei ethol.

Ym mis Ionawr, dywedodd Mr Millar wrth y BBC nad oedd yn disgwyl i fwy o'i grŵp adael y blaid.

Plaid Cymru yn 'eithafwyr'

Yn ei araith i'r gynhadledd, fe wnaeth Darren Millar ddisgrifio Plaid Cymru a Reform fel perygl i ddiogelwch cenedlaethol ac economaidd Cymru.

"Mae Plaid eisiau i bawb feddwl eu bod yn griw o gymedrolwyr cyfeillgar, ond nid ydyn nhw'n unrhyw beth tebyg. Maen nhw'n eithafwyr," meddai.

Dywedodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru "yn canolbwyntio eu hamser, eu hegni a'u sylw ar eu nod yn y pendraw - rhwygo Cymru o'r DU.

"Byddai annibyniaeth yn peryglu pensiynau pobl, a'u gallu i fyw, gweithio neu astudio mewn mannau eraill yn y DU."

Mae Plaid Cymru wedi dweud na fyddai'n ceisio cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth pe bai'n ennill yr etholiad.

'Dim atebion credadwy'

Dywedodd Mr Millar fod Reform yn "hoffi ysgwyd eu bysedd a nodi problemau, ond nid ydyn nhw'n cynnig unrhyw atebion credadwy".

"Dydyn nhw ddim eisiau bod mewn llywodraeth ar ôl yr etholiadau ym mis Mai. Maen nhw'n ofni'r cyfrifoldeb!

"Mae Nigel Farage ei hun wedi cydnabod nad yw ei blaid yn barod i lywodraethu a dywedodd ei fod eisiau i Reform fod yr wrthblaid fwyaf.

"Mae hynny oherwydd nad yw Reform yn blaid ddifrifol.

"Mae Reform yn gwmni sydd â mwy o ddiddordeb mewn gwerthu crysau pêl-droed a nwyddau mewn digwyddiadau na rhedeg gwlad.

"Nid digwyddiadau gwleidyddol difrifol yw eu cynadleddau. Perfformiadau ar y pier ydyn nhw."

Dywedodd Mr Millar fod Cymru wedi "torri" ar ôl 27 mlynedd o reolaeth Llafur, gyda systemau addysg ac iechyd sy'n methu.

"Nid oes gan Lafur unrhyw atebion i'r problemau hyn.

"Maen nhw wedi methu ein hysgolion, wedi methu ein GIG ac wedi methu ein heconomi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now