Galw am symud ffeinal Cwpan Cymru o Gasnewydd i'r gogledd

Pedwar tîm o'r gogledd sydd yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru eleni
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau am symud ffeinal Cwpan Cymru o Gasnewydd gan mai dim ond clybiau o'r gogledd sydd ar ôl yn y gystadleuaeth.
Fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fis Rhagfyr y byddai'r rownd derfynol eleni yn cael ei chynnal yn stadiwm Rodney Parade yng Nghasnewydd.
Ond wedi gemau rownd yr wyth olaf ddydd Sadwrn, pedwar tîm o'r gogledd sydd wedi sicrhau lle yn y rownd gynderfynol - Bangor 1876, Y Fflint, Y Rhyl 1879 a Chaernarfon.
Gyda'r ffeinal felly yn sicr o gael ei chwarae rhwng dau dîm o'r gogledd, mae rhai o gefnogwyr y timau hynny wedi bod yn galw am symud y gêm.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael cais am sylw.

Eleni fydd y drydedd flwyddyn yn olynol i Rodney Parade gynnal y rownd derfynol
Daeth cyhoeddiad fis diwethaf y byddai ffeinal Cwpan Cymru i'r dynion a'r merched yn cael eu cynnal yn Rodney Parade eleni.
Dyma fyddai'r drydedd flwyddyn yn olynol i'r gemau gael eu cynnal yng Nghasnewydd.
Bydd rownd derfynol y dynion yn cael ei chynnal ddydd Sul 12 Ebrill am 15:15, wedi'r gemau cynderfynol ar benwythnos 6-8 Mawrth.

Dafydd Hughes ydy cyn-ysgrifennydd clwb Bangor 1876
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd cyn-ysgrifennydd clwb Bangor 1876, Dafydd Hughes: "Mae'r timau 'ma i gyd yn bodoli ar hyd arfordir y gogledd.
"Yn aml iawn welwch chi ystadegau ardaloedd difreintiedig yng Nghymru ac mae llawer o hein yn cyd-fynd efo'r canolfannau 'ma lle mae'r timau pêl-droed.
"Does gan bobl ddim y pres i fedru teithio ac felly 'da chi am gael llawer llai o bobl yn teithio i Gasnewydd na be' fyswch chi i leoedd yn y gogledd fel Wrecsam.
"Mae buddsoddiad mawr yn Wrecsam - pam ddim cael y ffeinal yn fan'na?"

"Dwi'm yn 'nabod neb yn tyfu i fyny yn Rhyl oedd yn dyheu am fynd i gêm yng Nghasnewydd," meddai Ffred Ffransis
Ychwanegodd cefnogwr Rhyl 1879, Ffred Ffransis fod y sefyllfa yn "ychwanegu at rwystredigaeth" cefnogwyr yn y gogledd.
"Mae 'na blant ledled Lloegr yn breuddwydio am fynd i Wembley. Mae plant ledled yr Alban yn breuddwydio am gael cefnogi tîm yn Hampden Park.
"Dwi'm yn 'nabod neb yn tyfu i fyny yn Rhyl oedd yn dyheu am fynd i gêm yng Nghasnewydd.
"Fydd o'n broblematig beth bynnag sy'n digwydd, ond Wrecsam fydde'r ateb gorau."

Doedd y Cae Ras ddim ar gael y tro hwn, yn ôl prif weithredwr y gymdeithas bêl-droed
Mae cyn-ymosodwr Cymru a sylwebydd Sgorio ar S4C, Malcolm Allen wedi dweud y byddai ef hefyd yn hoff o weld y rownd derfynol yn cael ei symud i'r gogledd.
Mae'r BBC wedi gwneud cais am sylw gan y gymdeithas bêl-droed.
Ond ar wefan gymdeithasol X dros y dyddiau diwethaf, yn ymateb i alwadau cefnogwyr am symud y gêm, dywedodd prif weithredwr y gymdeithas Noel Mooney nad oedd y Cae Ras ar gael y tro hwn, ond y byddai'n opsiwn ar gyfer cynnal rowndiau terfynol cystadlaethau o'r fath yn y dyfodol.
Ychwanegodd: "Mae'n ffeinal ar gyfer Cymru gyfan.
"Os ydyn ni'n dewis cae bach agosaf at y ddau sydd yn y rownd derfynol, yna rydyn ni'n anfon neges am ein huchelgais, yn ein barn ni.
"Rydyn ni'n ceisio adeiladu gêm ddomestig gynaliadwy sy'n denu buddsoddiad ac yn cael ei chymryd o ddifrif gan bartneriaid.
"Rydyn ni'n wlad ac mae angen i ni ymddwyn fel un - nid cynghrair leol sy'n chwarae eu cwpan cenedlaethol yn y stadiwm go lew agosaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
