Beth yw barn pobl Ceredigion Penfro ar etholiad y Senedd?

AberaeronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae etholaeth Ceredigion Penfro yn ymestyn dros 80 milltir o hyd

GanElen Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Gwledig a threfol, ffermydd a phorthladdoedd, cymunedau Cymraeg a di-Gymraeg - bydd Ceredigion Penfro yn cynnig her ddaearyddol i'r gwleidyddion fydd yn ei chynrychioli o fis Mai ymlaen.

Gyda llai na mis i fynd tan y diwrnod pleidleisio, iechyd fydd un o'r prif bynciau dan ystyriaeth wrth fwrw pleidlais, yn ôl rhai o'r etholwyr y buon ni'n siarad gyda nhw.

Yn cwmpasu siroedd Ceredigion a Sir Benfro, mae'r etholaeth yn cynnwys dau o brif ysbytai Bwrdd Iechyd Hywel Dda - Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Gyda rhyw 200,000 o bobl yn byw yn yr etholaeth sydd dros 80 milltir o hyd, mae mynediad at wasanaethau cyfagos yn bwysig i etholwyr.

Disgrifiad,

Beth yw barn pobl Ceredigion Penfro ar etholiad y Senedd?

Yn adnabyddus fel un o drefi mwyaf poblogaidd - a lliwgar - Ceredigion, mae Aberaeron ychydig dros 16 milltir o'r ysbyty agosaf yn Aberystwyth.

I Meinir Harries, sydd yn ei 60au ac yn dod o Bennant, iechyd yw pwnc pwysig yr etholiad.

"Mae eisiau i fwy aros yng Ngheredigion," meddai.

"Maen nhw'n siarad ambyti symud yr uned strôc ym Mronglais, a fi'n credu bod hwnna yn bwysig i ni gadw achos mae e'n cynrychioli Ceredigion a lan yn Powys.

"Rwy'n gryf yn teimlo y dylsen nhw aros ar agor."

Meinir Harries
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meinir Harries yn teimlo'n gryf am gadw uned strôc arbenigol yn Ysbyty Bronglais

Yn mwynhau ei baned ar y stryd, roedd Alfor Jones am gadw ei oed yn gyfrinach, ond roedd yn ddigon parod i rannu ei farn ar yr hyn sy'n bwysig iddo fe yn yr etholiad.

"Dwi'n deall dim o'r health service wedi mynd. Mae e yn wael nawr," meddai.

"Ewch lan i'r syrjeri yn Aberaeron [i weld]."

Alfor Jones yn eistedd gyda phaned yn Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alfor Jones o Aberaeron hefyd am roi blaenoriaeth i iechyd wrth bleidleisio

I lawr yr arfordir, mae tref Aberteifi'n eistedd ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro.

Ar y stryd fawr roedd Mary a Martin Williams o Dalsarn yn cysgodi rhag y glaw.

Fel eraill, roedd y penderfyniad diweddar i israddio'r gwasanaeth strôc yn Ysbyty Bronglais yn pwyso'n drwm ar feddwl Mary.

"Mae e'n bwysig i gael Bronglais ar agor, mae pobl yn trafeili yn bell," meddai.

"Mae'n bwysig iawn i iechyd pobl bod dim eisiau trafeili yn bell i gael unrhywbeth sydd eisiau."

Mary a Martin Williams yn cysgodi rhag y glaw yn Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mary yn pleidleisio yn yr etholiad, ond mae Martin eisoes wedi penderfynu na fydd e'n gwneud

Yn wahanol Mary, ni fydd Martin yn bwrw pleidlais yn etholiad y Senedd.

"Dwi ddim yn credu bod dim un o' nhw damaid yn well na'i gilydd - tatws o'r un rhych yw'r cwbl," meddai.

Er hynny, mae'n dweud y byddai'n dymuno gweld y pleidiau yn gwario mwy ar adnewyddu'r ffyrdd, gan fod "stad rhai o'r hewlydd yn warthus".

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Mae 6.1% o bobl etholaeth Ceredigion Penfro yn gweithio ym myd amaeth- llawer uwch na chyfartaledd Cymru o 1.9%.

Does dim syndod felly bod cefn gwlad ar frig y rhestr o bynciau sydd yn bwysig i aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Hermon ger Crymych.

"Dwi'n credu bod amaeth yn bwysig iawn," meddai Owain Howells, 23 o Gwm Gwaun.

"Maen nhw wedi cael dwy flynedd anodd gyda'r treth a'r plannu coed a dwi'n credu bod e'n bwysig - pwy bynnag sydd yn dod mewn nesaf - i ganolbwyntio ar amaeth a gwneud yn siŵr bod ein amaeth ni yng Nghymru yn ddiogel."

Gwenno, Gruffudd, Dyfan, Owain ac Elen (O'r chwith i'r dde)
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefn gwlad yn bwysig iawn i Gwenno, Gruffudd, Dyfan, Owain ac Elen - aelodau'r ffermwyr ifanc yn Hermon

I Gruffudd Williams, 24, sy'n byw yn Glôg, prisiau olew a thanwydd yw'r prif bryder.

"Chi'n gweld nhw'n mynd lan yn barod," meddai.

"Gobeithio 'neith y bobl iawn y pethau synhwyrol i gadw prisiau lawr a chadw'r economi i fynd."

Cysylltwch â ni

Dy Lais, Dy Bleidlais

Yn ymarfer ar gyfer eu heisteddfod ddwl, dyfalu'r dôn oedd tasg yr aelodau.

Roedden nhw'n dweud mai blaenoriaethu'r iaith Gymraeg ac addysg fyddai'n taro'r nodau cywir iddyn nhw yn ystod yr etholiad.

"Ambell i blaid sydd yn siarad am y Gymraeg fel priority ar gyfer eu plaid nhw," meddai Gwenno James, 21 o Grymych.

"A hefyd, trio cael yr iaith Gymraeg yn fwy o ran o brentisiaethau," ychwanegodd ei brawd, Dyfan, sy'n 16.

"Fi'n gwneud lot o'r gwaith teipo yn Saesneg. Annog yr iaith Gymraeg trwy brentisiaethau. Bydde hwnna yn annog lot o bobl, fel fi."

Elen o glwb CFfi Hermon
Disgrifiad o’r llun,

Addysg fydd yn dal sylw Elen o Grymych yn ystod yr etholiad

Cael "digon o gyllideb i gadw ysgolion ar agor yn yr ardal", yw dymuniad Elen, 17 sy'n ddisgybl chweched dosbarth.

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni gael athrawon mewn neu bydd dim dyfodol i addysg, yn enwedig yn y Gymraeg."

Bydd y rhestr lawn o'r ymgeiswyr i'w gweld ar ôl i'r cyfnod enwebu gau ar 9 Ebrill.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now