| Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl gan Gwenallt oedd yr awdl orau yn y gystadleuaeth hon, ond gwrthodwyd ei chadeirio. Fel yn 'Y Mynach', y gwrthdaro rhwng cnawd ac ysbryd yw thema'r awdl, ond, yn wahanol i awdl fuddugol 1926, y mae'r cnawd a'r enaid yn un erbyn y diwedd 'Y Sant', gan ddilyn athroniaeth Thomas Aquinas. Mae Gwenallt yn archwilio pynciau fel natur pechod yn yr awdl, ond cythruddwyd y beirniaid gan y disgrifiadau agos-at-yr-asgwrn o ryw a geid ynddi, yn enwedig mewn llinellau fel 'Ar hyd ei blows biws rhedai blys bysedd'. Galwyd yr awdl yn 'bentwr o aflendid' gan John Morris-Jones. 'Roedd y beirniaid wedi cael digon ar barodrwydd y beirdd newydd i drin pynciau fel y nwydau rhywiol, yn enwedig ar ôl helynt 'Atgof' Prosser Rhys, a dyna un rheswm pam y gwrthodwyd cadeirio Gwenallt. Hefyd yr oedd awdl Gwenallt yn Babyddol ei syniadaeth a'i delweddaeth, ac ofnai llawer ar y pryd, W. J. Gruffydd, er enghraifft, fod Catholigiaeth ar gynnydd yng Nghymru. Dylanwadwyd yn gryf ar yr awdl gan gyfrol Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927). Collwyd cyfle ym 1928 i wobrwyo awdl anghyffredin. Y Goron Testun. Pryddest: ' Penyd' Enillydd: Caradog Prichard Beirniaid: Gwili, Wil Ifan, Rhuddwawr Cerddi eraill: Edgar Phillips (Trefîn) oedd yr ail am y Goron yn ôl dau o'r beirniaid. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Yn y cerddi hyn mae Caradog Prichard yn trafod gwallgofrwydd, pwnc a oedd yn agos iawn at ei galon gan iddo weld ei fam ei hun yn dioddef ac yn gorfod mynd i Ysbyty'r Meddwl yn Ninbych. Mae'n adrodd yr hanes yn ddirdynnol yn ei nofel Un Nos Ola Leuad. Un arall o'r beirdd ifanc newydd oedd Caradog Prichard, aelod o'r genhedlaeth o feirdd a gredai fod popeth yn ddeunydd barddoniaeth. 'Roedd seicdreiddiaeth a seicoleg yn bynciau gweddol newydd yn y dauddegau, a phobl yn dechrau dod i ddeall syniadau Freud, a phroblemau fel gwallgofrwydd. Dan arweiniad Freud, daeth y meddwl, a chymhlethdod y meddwl dynol, i mewn i farddoniaeth Gymraeg. Awn i mewn i feddwl y llanc ifanc synhwyrus yn 'Atgof' Prosser Rhys, a chawn gip ar ei ffantasïau rhywiol, ac felly hefyd gyda Sant Gwenallt. Yn 'Penyd' cawn fynd i mewn i ymennydd gwraig wallgof, a dilyn ei meddyliau yn yr ysbyty meddwl am un diwrnod cyfan o'i bywyd. Fel y dywedodd Caradog Prichard ei hun yn ei hunangofiant Afal Drwg Adda: 'Yn lle'r ymweliadau wythnosol â Dinbych mi gawn fynd i mewn i fywyd Mam yno a'i fynegi a'i ddehongli'. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |