| Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Pan sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru ym Mhwllheli ym 1925 symbylwyd ei sefydlwyr a'i harweinwyr gan safiad y Gwyddelod ym 1916. Adlewyrchir yr edmygedd hwn o genedlaetholwyr Iwerddon yn Awdl Gwenallt. Cerdd alegorïol yw hon am ddyfodiad y Mab Darogan i achub Cymru. Ymosodir ar Caradoc Evans, y llenor Eingl-Gymreig, ynddi, a chlodforir H. R. Jones, prif sylfaenydd y Blaid Genedlaethol, a oedd newydd farw. Awdl rymus yw 'Breuddwyd y Bardd'. Y Goron Testun. Pryddest: ' Y Dyrfa' Enillydd: Cynan Beirniaid: W. J. Gruffydd, Dyfnallt, J. E. Moelwyn Hughes Cerddi eraill: Pryddest Dewi Emrys a ffafriai J. E. Moelwyn Hughes. Ymosododd yn hallt ar bryddest Cynan am ddefnyddio geiriau sathredig, a gwrthododd ymddangos ar y llwyfan gyda'i ddau gyd-feirniad mewn protest yn erbyn eu dyfarniad. Sarnicol oedd y trydydd i bob pwrpas, ac yr oedd gan Amanwy, Gwilym R. Jones a Gwilym Myrddin, Prifardd coronog y flwyddyn flaenorol, bryddestau yn y gystadleuaeth. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Ysbrydolwyd y gerdd hon gan genedlaetholdeb hefyd, yn union fel yn achos awdl y Gadair, ond cenedlaethodeb y bêl yn hytrach na chenedlaetholdeb y bleidlais oedd thema'r bryddest fuddugol. Cerdd am John Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a aeth yn genhadwr, ^wyr Iolo Caernarfon, beirniad a phrifardd eisteddfodol, yw 'Y Dyrfa'. Disgrifir gêm rygbi yn Twickenham ynddi, a hynny gan ddefnyddio termau rygbi wedi eu lled-Gymreigio. Bwriad Cynan, unwaith yn rhagor, oedd ymestyn ffiniau barddoniaeth Gymraeg, yn thematig ac o safbwynt geirfa. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937 Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |