
Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Fy ngwely!
Pwy yw dy hoff berson/dy ffrind gorau? Fy nhad, fy chwaer a'm brawd. Ni 'di bod trwy amser go anodd gyda'n gilydd ac ma hynny wedi dod â ni'n agos.
Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Myna allan ar y penwythnos gyda fy ffrindiau. Partis a dawnsio.
Beth sy'n dy wneud di'n flin? Pan ma fy nghar i wedi rhedeg allan o betrol!
Beth yw dy hoff liw? Glas. Dyna oedd hoff liw mam hefyd. Rwy'n aml yn gwisgo colur glas ac ma llawer o 'jewellery' glas gyda fi hefyd.
Beth sy'n dy gyffroi di? Gwneud trefniadau ar gyfer partis neu mynd ar wyliau.
Beth wyt ti eisiau gwneud pan ti'n hŷn? Dwi ishe cymryd blwyddyn allan i fynd i drafeilio ar ôl gorffen lefel A. Wedi hynny byddwn yn hoffi mynd i goleg actio.
Ble mae dy hoff le? Adre ar y fferm.
Beth sydd yn dy fag? Ffôn symudol, arian (os oes peth sbâr gyda fi!), colur, 'perfume'.
Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Rwy'n un da am wrando ar broblemau pobl arall. Ac rwy'n meddwl mod i'n berson hapus iawn yn gyffredinol.
Eich sylwadau
OLAAA hefs
olaaa madamxxxxxcariadsx

Gethin
Emma
Gethin
Gwen
Delyth
Betsan
Shane
Becky
Hollie
Efa
Olwen
Guto
Connie
Catrin
Amy 