
Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Fy hoff beth yn y byd i gyd yw fy nheulu a fy ffrindiau.
Pwy yw dy hoff berson/dy ffrind gorau? Ma 'da fi lawer o ffrindiau agos, felly sdim ffrind gorau gyda fi.
Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Pan mae'r haul mas! Pan bo' Cymru'n ennill. Rwy'n hoffi cymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd, a mynd i gigiau Cymraeg.
Beth sy'n dy wneud di'n flin? Fy mrawd ar adegau!
Beth yw dy hoff liw? Glas
Beth sy'n dy gyffroi di? Perfformio ag actio.
Beth wyt ti eisiau gwneud pan ti'n hÅ·n? Hoffem actio, neu weithio yn y cyfryngau.
Ble mae dy hoff le? Ma' 'da fi ddau hoff le. Y lle cynta' yw'r Rhondda. Ma' teulu fy nhad yn dod o fanna ac mae 'na olygfeydd anhygoel. Fy hoff le arall yw Amroth yn sir Benfro lle roedd fy hen famgu wedi cael ei magu. Bob siawns bydde ni'n cael, bydden ni'n mynd am y dydd i Amroth. Mae gyda fi lawer o atgofion melys o'r ddau lle.
Beth sydd yn dy fag/dy boced? Yn fy mag mae fy ffôn symudol a fy mhwrs arian.
Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Rwy'n berson hapus, a dwi wastod yn barod i wrando. Dwi'n hoffi cael amser da hefyd!
Eich sylwadau
Bydd y cynta i gyfrannu...

Gethin
Emma
Gethin
Gwen
Delyth
Betsan
Shane
Becky
Hollie
Efa
Olwen
Guto
Connie
Catrin
Amy 