
Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Bod gyda theulu a ffrindiau.
Pwy yw dy hoff berson/dy ffrind gorau? Allai ddim dewis ffrind gorau oherwydd mae gen i ormod!
Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Yr un peth sy'n gwneud fi'n hapus yw bod ar y llwyfan a pherfformio.
Beth sy'n dy wneud di'n flin? Bagiau plastic - achos bo nhw'n mor ddrwg i'r amgylchfyd. Hefyd, ma' gen i ffobia am bobl yn rhwbio eu traed noeth ar y carped.
Beth yw dy hoff liw? Fy hoff liw yw pinc, achos mae'n gwneud fi'n hapus pan dwi'n edrych arno.
Beth sy'n dy gyffroi di? Mae perfformio yn fy nghyffroi a bod ar y llwyfan. Nes i chwarae rhan Rosalia yn 'West Side Story' dros yr haf. Mae hi'n gymeriad dwl iawn fel fi!
Beth wyt ti eisiau gwneud pan ti'n hÅ·n? Dwi eisiau bod yn actores.
Ble mae dy hoff le? Fy 'stafell wely.
Beth sydd yn dy fag/dy boced? Yn fy mag mae gen i 'lipgloss', pwrs, clustdlysau a llawer o 'receipts'.
Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Dwi'n hoffi chwerthin a chael amser da.
Eich sylwadau
Bydd y cynta i gyfrannu...

Gethin
Emma
Gethin
Gwen
Delyth
Betsan
Shane
Becky
Hollie
Efa
Olwen
Guto
Connie
Catrin
Amy 