
Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Traethau Gogledd Cymru! A mae siocled yn dilyn yn agos iawn yn ail!
Pwy yw dy hoff berson/dy ffrind gorau? Mae hwn yn gwestiwn ofnadwy o anodd i mi ateb, gan fy mod i'n caru fy ffrindiau i gyd 'run peth. Ac maent i gyd yn werth y byd i mi, ac mae'n amhosib i mi ddewis un!
Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Er bod hyn yn gwneud i mi ymddangos yn berson arwynebol, mae'n rhaid i mi gyfaddef bod siopio, yn enwedig am ddillad, yn fy ngwneud i'n hapus! Un o'r pethau eraill sy'n fy ngwneud i'n hapus yw mynd allan hefo fy ffrindiau! Hefyd, mynd i bartis a chymdeithasu gan fy mod i wrth fy modd cwrdd â phobl newydd!
Beth sy'n dy wneud di'n flin? Pobl sydd yn amharchu'r byd, ac yn trin y strydoedd, traethau a'r caeau i gyd fel dymp sbwriel. Hefyd fy nghyfrifiadur anobeithiol. Mae mor hen ffasiwn ac yn cymryd oriau i wneud rhywbeth syml!
Beth yw dy hoff liw? 'Turquoise' - dwi'n ei hoffi cymaint nes bod fy ffrindiau yn adnabod y lliw yna fel 'lliw Olwen.'
Beth sy'n dy gyffroi di? Syrffio! Gan fy mod i'n caru'r môr!
Beth wyt ti eisiau gwneud pan ti'n hÅ·n? Mae gen i restr hir o bethau dwi eisiau gwneud pan dwi'n hÅ·n, ac mae'n ofnadwy o anodd i mi ddewis un peth! Mewn byd perffaith buaswn wrth fy modd yn gwneud bywoliaeth fel actores neu gyflwynydd. Ond dwi'n deall bod hi'n anodd iawn i fod yn llwyddiannus yn y maes yna ac ennill digon o bres i fyw yn gyffyrddus am weddill fy mywyd. Felly, mae'n debygol fydda i'n gweithio yn y maes gwyddonol, un ai yn yr ochr meddygol neu amylcheddol.
Ble mae dy hoff le? Heb amheaeth, fy hoff le yw traethau Gogledd Cymru ac o dan y môr (os mae hynny'n cyfri!)
Beth sydd yn dy fag? Ffôn symudol - dwi'n teimlo'n noeth hebddo! Brwsh gwallt a drych. Camera - mae gen i obsesiwn gyda tynnu lluniau, dwi'n dod ag un bron bob man dwi'n mynd! Pres, 'goriad tŷ, ac amserlen bws. Gan fy mod i'n byw mor bell i ffwrdd o fy holl ffrindiau mae rhaid i mi ddibynnu llawer ar y bws.
Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Ymm..wel..dwi'n berson cyfeillgar iawn a dwi'n llawn o syniadau gwahanol.
Eich sylwadau
Hollie (Ollie Girls), 17
Hello Ol! Sut wyt ti? Sut mae'r surfio yn mynd? Ydych chi wedi gwylio yr sioe eto? Sut ydy'r chweched yn mynd?Hol xxxx

Gethin
Emma
Gethin
Gwen
Delyth
Betsan
Shane
Becky
Hollie
Efa
Olwen
Guto
Connie
Catrin
Amy 