BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Gwegang

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us


Connie

Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Dim syniad! Mae gen i ormod o bethau. Ond os oes rhaid dewis, buaswn yn dewis fy llygaid oherwydd heb rhain, buaswn i ddim yn gallu gweld prydferthwch y byd. Awww...

Pwy yw dy hoff berson/dy ffrind gorau? Mam. (Gwenfyl)

Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Freddie Starr, Brian Conley, Vic Reeves, Bob Mortimer, Alan Carr, Justin Lee Curtis, Russell Brand, Kenny Everett, Lee Evans, The Mighty Boosh... unrhyw beth i 'neud efo comedi! A cerddoriaeth yr 80au hefyd.

Beth sy'n dy wneud di'n flin? Dŵr y bath yn troi'n oer, ciwcymbyr ar fin gorffen, dim llefrith yn tŷ, arddangosfeydd celf gwael, newyddion drwg, pan mae'r gath yn mynd i'r toiled a rhaid i mi glirio fo fyny. Hogla drwwwwg!

Beth yw dy hoff liw? Gwyrdd yw fy hoff liw, er fy mod yn hoff iawn o ddefnyddio coch, gwyn a du yn fy ngwaith celf.

Beth sy'n dy gyffroi di? Anturiaethau 'random,' trafeilio o un lle i'r llall. Gwisgo fyny gan wisgo gormod o golur, tynnu lluniau hurt. Fy mhenblwydd! A 'dolig wrth gwrs, platiad o datws a moron i bawb.

Beth wyt ti eisiau gwneud pan ti'n hŷn? Dim bwys gen i, rhywbeth ynglyn â chelf a drama. Y peth pwysicaf i mi yw hapusrwydd ac os dwi'n llwyddiannus yn yr hyn rwyf am wneud.

Ble mae dy hoff le? Tu ôl i'r 'bar' yn gwaith - sef tafarn yn Nhowyn! Dyna lle rwyf wedi magu fy hyder, yn ogystal â chael hwyl wrth weithio.

Beth sydd yn dy fag? Yn fy mhoced... arian sbar, ffôn symudol, goriadau tŷ, 'eyeliner' a thocyn trên ddoe.

Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Fy ngallu i i wneud ffŵl o'n hun heb boeni am beth mae pobl yn ei feddwl!




Eich sylwadau

Hollie, 17
Hiya Con! Sut wyt ti? Sut mae prif ysgol yn mynd?Gwylio'r sioe eto?xxx

erin, 14
Fidio Cool! x

Cysylltu

Sgen ti neges i Connie?

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.



Anfon dy gynnwys


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy

Trending Now