Pum peth ddysgon ni o lansiad maniffesto Plaid Cymru

Roedd Rhun ap Iorwerth yn lansio maniffesto ei blaid yn Wrecsam ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae'r arolygon barn wedi bod yn edrych yn galonogol iawn i Blaid Cymru dros y misoedd diwethaf, gan roi'r blaid ar y blaen yn y mwyafrif, er bod Reform yn dynn ar eu sodlau.
Nod y maniffesto yw cyflwyno gweledigaeth y blaid ar gyfer llywodraethu, ac i geisio apelio'n arbennig at bleidleiswyr mwy adain chwith drwy eu perswadio mai Plaid Cymru yw'r llais mwyaf effeithiol os ydyn nhw am drechu Reform.
Y gwasanaeth iechyd a chostau byw gafodd prif bwyslais yr arweinydd, Rhun ap Iorwerth, wrth lansio'r maniffesto gyda mis i fynd tan yr etholiad.
Ond dyw cwestiynau dros annibyniaeth byth ymhell pan fod Plaid Cymru dan y chwyddwydr.
Dyma bum peth ddysgon ni.
Annibyniaeth
Ni fydd refferendwm o fewn tymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, yn ôl addewid Rhun ap Iorwerth.
Ond byddai comisiwn newydd yn arwain trafodaeth gyda phobl Cymru am ddyfodol cyfansoddiadol y wlad, gan baratoi'r ffordd tuag at bapur gwyn ar gyfer annibyniaeth i Gymru fydd yn ystyried yr heriau a'r cyfleoedd.
£500,000 fydd cost hynny, yn ôl yr arweinydd.
Bydd y blaid hefyd yn gwneud cais swyddogol am ddatganoli'r grym i benderfynu ar amserlen, cwestiwn a phroses unrhyw refferendwm.
Rhestrau aros
Mae'r blaid yn addo na fydd unrhyw un yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth o fewn blwyddyn o lywodraeth Plaid Cymru.
Gwaredu rhestrau aros dros ddwy flynedd yw targed Llywodraeth Lafur bresennol Cymru - ond er bod y niferoedd wedi disgyn yn sylweddol, mae dros 5,000 o driniaethau sydd eto i'w cwblhau wedi dwy flynedd o aros.
Teleri Glyn Jones sy'n manylu ar rai o brif bwyntiau maniffesto Plaid Cymru
Mae Rhun ap Iorwerth hefyd yn addo dod â rhestrau aros cyffredinol y gwasanaeth iechyd lawr i lle'r oedden nhw cyn y pandemig o fewn y tymor seneddol nesa'.
Er mwyn helpu gyda'r gwaith hwnnw, mae addewid o 100 o feddygon teulu newydd i helpu gyda gofal y tu hwnt i oriau gwaith arferol, a 10 canolfan llawfeddygol newydd.
Tlodi plant
Mae'r blaid yn addo ymestyn y cynnig gofal plant fel bod 20 awr yr wythnos am ddim i bob plentyn o naw mis i bedair oed, yn y pendraw.
Maen nhw hefyd yn addo peilot tâl tlodi plant o £10 yr wythnos i 15,000 o blant mewn cartrefi incwm isel, a chynnig cinio ysgol am ddim i bob plentyn ysgol uwchradd sy'n dod o deulu ar Gredyd Cynhwysol.
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am ollwng eu targedau ar waredu tlodi plant yn y gorffennol, ond dyw eu maniffesto ddim yn glir a fyddai Plaid Cymru yn ailgyflwyno'r targedau hynny.
Rheoli tai rhent
Mae'r maniffesto yn addo gwella hawliau pobl sy'n rhentu, gan atal landlordiaid rhag gyrru tenantiaid o'u tai heb reswm dilys, a gosod pris rhent teg drwy gyfyngu unrhyw gynnydd i fesuryddion allanol fel incwm neu brisiau.
Mae'r addewidion hynny yn adleisio maniffesto'r Blaid Werdd, ac yn cynnig tir ffrwythlon ar gyfer cydweithio posibl rhwng y ddwy blaid, o fewn system bleidleisio lle mae'n annhebygol y caiff unrhyw blaid fwyafrif ar 7 Mai.
Ond tra bod cytundeb mewn un maes, allai addewid Plaid Cymru i daclo problemau traffig yr M4 ac ar draws y Fenai brofi'n ffrae?
Dyw hi ddim yn glir o'r maniffesto sut fyddai'r blaid yn ceisio cyflawni hynny, ond yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae "dal problem yno nad yw Llafur wedi ei datrys - fydd Plaid Cymru yn gwneud hynny".
Y gost
Mae Plaid Cymru yn mynnu bod eu maniffesto wedi ei gostio'n llawn, er nad yw'r blaid am wneud mathemateg ariannol y maniffesto yn gyhoeddus.
Ond amheus o fforddiadwyedd y cyfan mae sefydliad astudiaethau cyllid annibynnol yr IFS.
Yn ôl David Phillips, eu pennaeth ar gyllid datganoledig, "dyw hi ddim yn ymddangos bod Plaid Cymru wedi wynebu realiti cyllidol Llywodraeth Cymru", yn eu maniffesto.
"Mae'r rhagolygon ariannol i Lywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd angen toriadau i o leiaf rhai gwasanaethau er mwyn cynnal, heb sôn am wella, gofal iechyd a chymdeithasol wrth i gost a galw gynyddu.
"Bydd gwario £400m ychwanegol y flwyddyn ar ofal plant, a mwy eto ar dâl tlodi plant, ymestyn prydau ysgol am ddim a gwella gofal iechyd, yn galw am naill ai doriadau dyfnach i wasanaethau sydd heb eu diogeli, arafu gwariant canolog iechyd a gofal cymdeithasol, neu godi trethi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.