Lauren Price yn amddiffyn ei theitl fel pencampwr y byd

- Cyhoeddwyd
Mae Lauren Price wedi amddiffyn ei theitl fel pencampwr y byd wedi iddi ennill ei gornest nos Sadwrn yn erbyn Stephanie Pineiro.
Roedd yr awyrgylch yn drydanol yng Nghaerdydd, wrth i Price gerdded allan i neb llai na Dafydd Iwan yn canu 'Yma o Hyd'.
Er ei bod ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd, teitl WBA, IBF a WBC, bu'n rhaid iddi frwydro'n galed er mwyn cipio'r fuddugoliaeth nos Sadwrn.
Cafodd y Gymraes sawl ergyd ofnadwy i'w hwyneb yn ystod yr ornest.
Yn dilyn yr ornest, fe wnaeth Price fynd wyneb yn wyneb â Claressa Shields - sydd wedi ennill 15 teitl byd ar draws pum adran wahanol o bwysau - gyda'r ddwy yn datgan eu bod am herio ei gilydd.
Dywedodd Shields y byddai'n rhaid trafod lleoliad unrhyw ornest ond awgrymodd byddai modd cyfarfod mewn lleoliad ddiwedd 2026 a dywedodd y byddai'r ornest yng nghategori'r pwysau canol.