Protestiadau yn erbyn cynlluniau Undeb Rygbi Cymru yn dwysau

Roedd cannoedd o gefnogwyr yn y brotest y tu allan i Gae'r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o gefnogwyr y Gweilch wedi bod yn protestio yn erbyn cynlluniau Undeb Rygbi Cymru (URC) i dorri nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri.
Daeth y protestwyr ynghyd ger y murlun o gyn-seren Cymru a'r Llewod JPR Williams cyn y gêm ddarbi rhwng y Gweilch a'r Dreigiau ym Mhen-y-bont ar Ogwr nos Sadwrn.
Fe wnaeth cefnogwyr a chyn-chwaraewyr leisio eu hanfodlonrwydd â'r ffaith ei bod hi'n bosib na fydd Abertawe yn gartref i ranbarth proffesiynol, gan fod Y11 Sport & Media - perchnogion y clwb - mewn trafodaethau i brynu Rygbi Caerdydd.
Mewn datganiad blaenorol fe ddywedodd URC a'r Gweilch y bydd Caerdydd a'r Gweilch yn parhau'n sefydliadau ar wahân, er y byddai Y11 yn berchen ar y ddau.
Ond does dim sicrwydd wedi'i roi y bydd y Gweilch yn parhau fel clwb proffesiynol tu hwnt i dymor 2026-27.
Cefnogwyr 'ddim am ildio'
Dywedodd cadeirydd clwb cefnogwyr y Gweilch, Sarah Collins-Davies mai'r bwriad drwy gynnal y brotest oedd dangos pwysigrwydd y rhanbarth i weddill y byd rygbi.
"Dydyn ni ddim am dderbyn hyn yn dawel, dydyn ni ddim am ildio heb frwydro, fe wnawn ni frwydro tan y diwedd," meddai wrth y BBC.
Ychwanegodd Ian Gough, cyn-glo Cymru a'r Gweilch: "Rydyn ni'n credu bod lle i gael pedwar tîm ac rydyn ni angen sicrhau ein bod ni'n cynrychioli ardaloedd Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-bont."
Mae penaethiaid Undeb Rygbi Cymru wedi awgrymu nad oes digon o arian ar gael, na chwaith digon o chwaraewyr i gynnal pedwar rhanbarth.

Yn ôl ysgrifennydd clwb cefnogwyr y Gweilch, mae rygbi yng Nghymru heb y Gweilch "y tu hwnt i amgyffred rhywun" gan bwysleisio'r ffaith mai nhw yw'r tîm mwyaf llwyddiannus ers dechrau'r cyfnod rhanbarthol yn 2003.
Roedd Shane Williams yn un o'r cyn-chwaraewyr eraill i siarad yn ystod y brotest.
Fe gyfeiriodd at y slogan "mae ein gwaed yn ddu" - sy'n deillio o gyfweliad wnaeth Williams yn 2012 ar ôl iddyn nhw ennill y gynghrair am y pedwerydd tro.
Esboniodd Gough fod nifer o gyn-chwaraewr eisiau helpu: "Mae nifer o chwaraewyr anhygoel wedi dod drwy'r clwb yma, ac mae Gweilch yn arbennig iawn i mi... mae angen i ni frwydro am bob modfedd i geisio cadw'r rhanbarth yn fyw."
Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol fel rhan o'u gwrthwynebiad i gynlluniau URC.
"Fe wnes i gyhoeddi yng nghyfarfod y cyngor ddydd Iau ein bod wedi derbyn cadarnhad bod rhai llwybrau cyfreithiol posib yn agored i ni, a byddwn yn edrych i weithredu ar hynny'r wythnos hon," meddai arweinydd y cyngor, Rob Stewart.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr

- Cyhoeddwyd22 Ionawr

