Dan Thomas yw arweinydd Reform yng Nghymru

Nigel Farage yn croesawu Dan ThomasFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd Reform UK, Nigel Farage, yn croesawu Dan Thomas

  • Cyhoeddwyd

Mae Reform wedi cyhoeddi mai Dan Thomas yw arweinydd y blaid yng Nghymru.

Dywedodd cyn-arweinydd cyngor Barnet wrth rali'r blaid yng Nghasnewydd: "Ar ôl 27 mlynedd rwyf yn ôl adref, rwy'n magu fy nau fachgen yng nghymoedd de Cymru, rwyf wedi dod yn ôl i ble rwy'n perthyn."

Yn wreiddiol o'r Coed Duon, safodd yn Islwyn yn Etholiad Cyffredinol 2010 dros y Ceidwadwyr.

Cafwyd cadarnhad hefyd bod y cyn-AS Ceidwadol James Evans, a gafodd ei daflu allan o grŵp ei blaid yn y Senedd wedi honiad iddo ddweud wrth arweinydd ei blaid yno ei fod yn ystyried ymuno â Reform, bellach wedi ymuno â Reform.

James Evans yw ail Aelod Ceidwadol o'r Senedd i ymuno â Reform, ar ôl i Laura Anne Jones ymuno yr haf diwethaf.

"Nid yw'r wythnosau diwethaf wedi bod yn hawdd," meddai Evans, a diolchodd i'w wraig am ei chefnogaeth dros y cyfnod hwn.

Dywedodd Llafur fod "Torïaid yn neidio i Reform UK i achub eu croen eu hunain", yn ôl Plaid Cymru mae "pobl Cymru... yn gwybod fod Reform yn wan", tra bod y Ceidwadwyr yn dweud bod Thomas "wedi cael ei barasiwtio yn ôl i Gymru".

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai.

Evans yw ail Aelod o'r Senedd ReformFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

James Evans yw ail Aelod o'r Senedd i gynrychioli plaid Reform

Ymosododd Thomas yn ei araith ar Lafur a Phlaid Cymru, gan honni eu bod yn "rhyfela yn erbyn modurwyr", ac yn beirniadu safbwynt Plaid Cymru o blaid annibyniaeth.

Cafodd cymeradwyaeth am ddweud bod pobl Cymru yn poeni am fewnfudo, ac fe wnaeth gyhuddo busnesau fel siopau barbwr o fod yn "ffryntiau ar gyfer gweithgaredd anghyfreithlon".

Dywedodd mai etholiad Senedd mis Mai oedd "cyfle olaf" Cymru.

"Mae gennym ni gyfle unwaith mewn oes i chwalu gafael methedig Llafur yng Nghymru, ac fel eich arweinydd newydd yng Nghymru, byddaf yn tywallt fy nghalon a'm henaid i ymladd dros bob pleidlais," meddai.

Thomas yn 'wybodus iawn' am wleidyddiaeth Cymru

Dywedodd Thomas wrth y BBC ei fod yn "wybodus iawn" am wleidyddiaeth Cymru.

Arweiniodd Thomas gyngor Barnet yng ngogledd Llundain rhwng 2019 a 2022, pan enillodd Llafur yr etholiad lleol, cyn dod yn arweinydd yr wrthblaid o 2022 tan fis Mai 2024.

Ymddiswyddodd o'r cyngor ddiwedd y llynedd ar ôl 19 mlynedd fel cynghorydd.

Dyfynnwyd ef yn y cyfryngau lleol yn dweud ei fod wedi symud i ffwrdd o Barnet er mwyn iddo ef a'i wraig allu magu eu meibion ​​ifanc yng nghefn gwlad a byw'n agosach at eu teuluoedd yn ne Cymru.

Yn ei araith, dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, fod Thomas yn "ddyn a aned yn y cymoedd a, fel cymaint o bobl ifanc o Gymru, yn anffodus, aeth i Lundain am yrfa lle gwnaeth yn dda".

"Aeth ymlaen hefyd i fod yn aelod o gabinet y cyngor yn Barnet ac yna arweinydd y cyngor am rai blynyddoedd," meddai.

"Felly mae gennym ni rywun yma o'r cymoedd, rhywun yma â phrofiad busnes sylweddol, ond rhywun sy'n gwybod beth yw rhedeg cyllidebau mawr, rhywun sy'n gwybod pa mor anodd yw bod mewn llywodraeth."

Mynnodd Farage y bydd Thomas a'i blaid Gymreig yn gallu creu polisïau ar gyfer Cymru.

"Dydw i ddim yn unben caled," meddai.

Nid yw Reform wedi cael arweinydd swyddogol yng Nghymru ers Nathan Gill, a'i harweiniodd i etholiad Senedd 2021 ac a adawodd y blaid yn fuan wedyn.

Cafodd Gill ei ddedfrydu i 10 mlynedd a hanner yn y carchar ym mis Tachwedd ar ôl cyfaddef iddo gymryd llwgrwobrwyon am gyfweliadau ac areithiau o blaid Rwsia.

Ymateb y pleidiau

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Dyw dau gyn-geidwadwr arall yn symud i Reform UK ddim yn syndod i bobl Cymru.

"Nawr, does dim amheuaeth mai cyfres o Geidwadwyr sydd wedi methu ac yn chwilio am gartref gwleidyddol newydd yw Reform UK.

"Bydd y cyhoeddiad am ddirprwy Farage yng Nghymru ddim yn newid unrhyw beth ym meddyliau pobl Cymru.

"Maen nhw'n gwybod fod Reform yn wan. Yn wan ar atebion, yn wan ar syniadau, ac yn wan ar sefyll i fyny dros Gymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae Nigel Farage yn dweud nad oes Torïaid yng Nghymru – mae hynny oherwydd eu bod nhw i gyd wedi neidio i Reform UK i achub eu croen eu hunain, gyda James Evans AS y diweddaraf.

"A nawr mae gennym ni ddyn a oedd yn gynghorydd yn Llundain tan ddau fis yn ôl yn dweud wrth Gymru beth sydd ei angen arni.

"Yn y pen draw, does dim ots pwy sy'n cael ei enwi'n arweinydd Reform yng Nghymru. Byddan nhw'n byped i Nigel Farage yn unig, yn dilyn ei orchymyn o San Steffan ac yn tawelu lleisiau pobl Cymru."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar: "Mae'n ymddangos bod Mr Thomas wedi cael ei barasiwtio yn ôl i Gymru i fanteisio ar y newidiadau i'r system etholiadol a gefnogwyd gan blaid Reform, Llafur a Phlaid Cymru sy'n llwytho trethdalwyr Cymru gyda 36 o wleidyddion ychwanegol ar gost o ddegau o filiynau bob blwyddyn."

Dywedodd Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol fod "hyd yn oed Nigel Farage yn credu nad yw ymgeiswyr Reform yng Nghymru yn addas ar gyfer y swydd - dyna pam ei fod wedi penodi cynghorydd o Lundain yn arweinydd".

Pynciau cysylltiedig

Trending Now