Heddlu'n ymchwilio i 'gyfres o ladradau' yng ngorsafoedd petrol Gwynedd

Disgrifiad,

Lluniau CCTV o'r digwyddiad yn Garej Ni, Pwllhelli ddydd Sul

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i gyfres o ladradau wedi i sawl gorsaf betrol yng Ngwynedd ddweud eu bod wedi cael eu targedu dros y Pasg.

Mae perchnogion nifer o orsafoedd petrol, gan gynnwys Garej Ni ym Mhwllheli a Gorsaf Petrol Prysor yn Nhrawsfynydd, yn honni bod dynes wedi llenwi ei char ac wedi gadael heb dalu yn ystod y gwyliau banc.

Yn ogystal â'r gorsafoedd petrol, mae perchennog cwt sy'n gwerthu danteithion yn Rhoshirwaun yn dweud bod ei chynnwys wedi cael ei ddwyn yn yr un cyfnod.

Mae'r perchnogion yn credu mai'r un person sy'n gyfrifol am yr holl ladradau.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn ymchwilio i "gyfres o ladradau gan wahanol fanwerthwyr ar draws ardal orllewinol yr heddlu", gan ychwanegu bod neb wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiadau ar hyn o bryd.

Mari Elin JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n meddwl bydd rhaid i ni fod yn wyliadwrus o hyn ymlaen hefo'r prisia'n codi," meddai Mari Elin Jones, perchennog Garej Ni ym Mhwllheli

Dywedodd Mari Elin Jones, perchennog Garej Ni ym Mhwllheli, bod y person wedi dwyn gwerth £56 o ddisel o'i gorsaf betrol ddydd Sul.

"O'n i'n gweithio yn y garej ddydd Sul a wnes i sylwi fod 'na rywun yn llenwi car arian a'r munud nesa' oedd o 'di mynd," meddai.

"O'n i ddim yn deall be yn union oedd 'di digwydd i ddechrau, ond yn ffodus mae gennon ni gamerâu ym mhob man.

"'Nes i edrych yn ôl ar y fideo ac mae o yna'n blaen. Mae'r ddynes wedi rhoi hood ei chot dros ei phen a'n gwisgo pyjamas ac mae'r car wedi parcio reit bell o'r pwmp sy'n reit rhyfadd hefyd."

Dywedodd Mari ei bod wedi ffonio'r heddlu'n syth cyn iddi weld ar y cyfryngau cymdeithasol bod gorsafoedd eraill wedi'u taro.

Yn ôl Mari, fe wnaeth yr un person yrru heibio'i gorsaf betrol y diwrnod canlynol.

"Mae'n corddi rhywun fod nhw'n dreifio o gwmpas ar ôl gwneud y ffasiwn beth," meddai.

Garej NiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y person ddwyn gwerth £56 o ddisel o Garej Ni, meddai Mari

Ychwanegodd bod y digwyddiad wedi codi pryder arni ar gyfer y dyfodol, yn enwedig yn sgil y cynnydd mewn prisiau tanwydd yn ddiweddar.

"Dwi'n meddwl bydd rhaid i ni fod yn wyliadwrus o hyn o rŵan ymlaen hefo'r prisia'n codi fel ma' nhw. Ella fod hyn am fod yn rhywbeth fydd yn digwydd yn amlach," meddai.

"Mae hi'n mynd yn job ddrud i fynd a dod rŵan ac mae rhaid i ni watchad achos ella fydd pobl yn mynd yn desperate.

"Ella fod o'n syniad i gael rhywun yn gweithio ar y pympiau i lenwi ceir pobl."

Judith TroughtonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n ddigon anodd gwneud bywoliaeth heb gael pethau fel hyn yn digwydd," meddai Judith Troughton

Un arall sy'n dweud i'w gorsaf betrol gael ei thargedu dros y Pasg yw Judith Troughton sy'n rhedeg Gorsaf Petrol Prysor yn Nhrawsfynydd.

Dywedodd Judith bod person wedi llenwi car gyda gwerth £50 o ddisel cyn gadael heb dalu ddydd Llun.

"Os fyswn i wedi nabod y car o'r lluniau ar Facebook o'r digwyddiadau eraill fyswn i ddim wedi rhyddhau'r pwmp," meddai.

"Dwi'n meddwl fod o'n afiach a dweud y gwir. Mae'n ddigon anodd gwneud bywoliaeth heb gael pethau fel hyn yn digwydd."

Gorsaf Petrol PrysorFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Judith fod camerâu ei gorsaf betrol yn dangos gyrrwr car arian yn llenwi'r car heb dalu

Dywedodd ei bod yn poeni bod digwyddiadau o'r fath yn mynd i ddigwydd yn fwy aml wrth i bethau brysuro tuag at yr haf.

"Fyswn i'n meddwl fod y prisiau'n mynd i fyny wedi cael effaith ond o be dwi 'di glywed mae'r person yma i'w weld i neud o'n aml," meddai.

"Yn anffodus, dwi'n poeni fod hyn am ddigwydd yn fwy aml wrth i bethau fynd yn brysurach achos pan mae'r cwrt yn llawn mae'n haws gwneud y fath yma o beth."

Rhiannon Wyn JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Mae digwyddiad fel hyn yn taro hyder rhywun," meddai Rhiannon Wyn Jones, perchennog Y Cwt Wyau

Mae Rhiannon Wyn Jones yn rhedeg Y Cwt Wyau yn Rhoshirwaun lle mae cwsmeriaid yn defnyddio bocs gonestrwydd i dalu am deisennau a danteithion.

Dywedodd ei bod wedi cael galwad gan ddyn lleol i ddweud bod dynes wedi cymryd teisennau heb dalu a'i bod yn credu mai'r un person oedd yn gyfrifol am y digwyddiadau eraill.

"Mae'r Cwt Wyau yn weithredol ar onestrwydd," meddai.

"Mae digwyddiad fel hyn yn taro hyder rhywun a 'di'r trust ddim yr un fath. Un afal drwg sydd isio.

"Dwi 'di bod yn cau'r cwt yn gynharach ers y digwyddiad."

Cwt WyauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhiannon ei bod wedi dal y digwyddiad ar gamera ddydd Sul

"Mae'r person 'ma'n meddwl fod o'n iawn i gymryd gan fusnesau sy'n trio llwyddo. Mae o fel bod y person 'ma'n cael rhyw fath o buzz o ddwyn, maen nhw 'di neud o bedair gwaith mewn mater o ddyddiau," meddai Rhiannon.

Ychwanegodd bod y gefnogaeth y mae wedi'i chael ers y digwyddiad wedi bod yn "fendigedig".

"Mae'n dangos faint mae'r gymuned yn aros efo'i gilydd sy'n andros o beth pwysig."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Mae swyddogion yn ymchwilio i gyfres o ladradau gan wahanol fanwerthwyr ar draws ardal orllewinol yr heddlu.

"Mae ein hymholiadau'n parhau a dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â ni ar-lein neu drwy ffonio 101."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now