Eluned Morgan wedi'i beirniadu am dawelwch dros Keir Starmer

Eluned Morgan a Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi wynebu beirniadaeth am beidio â mynegi safbwynt clir ar ddyfodol Syr Keir Starmer, wedi i arweinydd Llafur yr Alban, Anas Sarwar, alw arno i ymddiswyddo.

Mae AS Llafur wedi dweud wrth y BBC bod diffyg cefnogaeth gan Eluned Morgan yn "rhwystredig iawn", tra bod y gwrthbleidiau wedi dweud bod ei distawrwydd yn tanseilio arweinyddiaeth Cymru.

Er gwaethaf pwysau cynyddol a chyfweliadau diweddar, nid yw Eluned Morgan wedi cefnogi Syr Keir yn gyhoeddus nac wedi galw arno i gamu o'r neilltu.

Yn y cyfamser, mae gweinidogion yn Llywodraeth y DU, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens, wedi sefyll yn gadarn y tu ôl i Starmer.

'Hynod rwystredig'

Dywedodd un AS Llafur wrth y BBC ei bod yn "hynod rwystredig" nad yw'r prif weinidog yng Nghymru wedi bod yn fwy cefnogol o Syr Keir Starmer.

Yn ôl yr AS, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio beio San Steffan a'i ASau am fethiannau ei hun ym meysydd iechyd ac addysg.

Dywedodd ffynonellau Llafur Cymru wrth y BBC nad oes gan Eluned Morgan fwriad i alw ar Syr Keir i ymddiswyddo, ond nad yw chwaith wedi dangos cefnogaeth gyhoeddus iddo.

Dywedodd llefarydd ar ran Starmer ddydd Llun nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i ymddiswyddo.

Daw hynny wedi iddo gael ei feirniadu am benodi'r Arglwydd Mandelson yn llysgennad yr Unol Daleithiau, er gwaethaf ei berthynas â'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.

Mae Eluned Morgan wedi gwrthod ddwywaith i gefnogi'r prif weinidog mewn cyfweliadau diweddar gyda'r BBC, wrth i Lafur wynebu etholiad y Senedd ym mis Mai a'r arolygon barn yn awgrymu y gallai'r blaid orffen yn drydydd neu'n is.

Gwrthbleidiau'n galw am 'ddewrder'

Mae'r gwrthbleidiau wedi galw arni i ddangos "dewrder" a mynegi barn glir ar ddyfodol arweinydd y DU, drwy "siarad dros Gymru".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod distawrwydd y prif weinidog yn awgrymu ei bod yn "ymddangos fel petai'n fodlon i'r anhrefn barhau".

Dywedodd arweinydd Reform UK Cymru, Dan Thomas, fod Eluned Morgan yn "aros i weld i ba gyfeiriad mae'r gwynt yn chwythu".

Dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd, Darren Millar, fod "angen i arweinydd Llafur Cymru fod â barn, ac y dylai fod yn ddigon dewr i'w rannu".

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Os nad yw Eluned Morgan yn barod i siarad dros Gymru nawr, mae'n codi cwestiynau difrifol ynghylch a oes gan Lafur Cymru'r asgwrn cefn i sefyll dros Gymru o gwbl."

Trending Now