Byw gydag 'un o'r cyflyrau mwyaf poenus' sy'n bodoli

Gerwyn TumeltyFfynhonnell y llun, Gerwyn Tumelty
Disgrifiad o’r llun,

Mae bywyd Gerwyn wedi newid yn sylweddol ers y dyddiau tywyll, gyda phwyslais ar fywyd iach, ymarfer corff a'r awyr agored

GanGarry Owen
Gohebydd arbennig BBC Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Pan ddechreuodd y poen yn 2017, doedd gan Gerwyn Tumelty o Bontarddulais ddim syniad beth oedd e, ond mae'r effaith yn dal i'w deimlo dros wyth mlynedd yn ddiweddarach.

"Mae'r boen yn dod o'r ymennydd a thrwy'r wyneb. Roedd e yn teimlo fel siociau trydanol, yn siarp iawn," meddai.

"Roedd e fel petai rhywun yn gwasgu sgriwdreifer i mewn i ochr fy ngwyneb."

Byddai'r poen yn ei daro heb rybudd yn gyson, ac yn parhau am eiliadau, neu weithiau am funudau.

Doedd Gerwyn ddim i wybod ar y pryd, ond roedd gan y tad i dri o fechgyn gyflwr prin o'r enw trigeminal neuralgia (TN), ble mae nerf yn yr wyneb yn cael ei wasgu gan bibell waed.

Mae TN wedi cael ei ddisgrifio fel "un o'r cyflyrau mwyaf poenus" sy'n bodoli.

Ond mae pryder hefyd bod dioddefwyr yn cael eu hanwybyddu oherwydd diffyg ymwybyddiaeth.

Disgrifiad,

Gerwyn Tumelty o Bontarddulais yn disgrifio byw gyda trigeminal neuralgia

Ar ben y boen gorfforol, roedd y salwch hefyd yn effeithio ar ei fywyd pob dydd.

"Roedd e rili wedi cael effaith fawr ar fy mywyd gyda fy nheulu yn y cartre' ond hefyd yn y gwaith," meddai Gerwyn.

"Bydden i'n cwrdd â chleientiaid ac yn methu siarad gan bod y boen yn saethu trwy fy ngwyneb.

"Yn aml wrth bo' fi yn gyrru bydde'n rhaid i fi stopio am hanner awr i gysgu achos oedd y boen yn sugno fy egni i."

Byddai'n gallu digwydd unrhyw bryd, gyda'i deulu wedi dod i arfer ei weld yn gadael y bwrdd bwyd yn sydyn pe bai darn o fwyd yn achosi'r poen.

'Teimlo'n isel ac yn unig'

Wrth edrych yn ôl mae'n sôn am funudau tywyll, pan oedd yn teimlo ei fod methu mynd 'mlaen oherwydd y boen.

"Roedd lot o'r boen yn gorfforol, ond gydag amser roedd e yn tynnu fi lawr ac yn cael effaith ar fy iechyd meddwl," meddai.

"O'n i yn teimlo yn grac weithiau, ond yn fwy na dim yn teimlo yn isel ac yn unig.

"Roedd e'n rhwygo bywyd fi yn ddarnau i'r pwynt bo' fi ddim yn teimlo bo' fi'n gallu cario 'mlaen, a ddim ishe bod yn y byd rhagor."

Gerwyn yn tynnu 'selfie' gyda'i dri bachgen a'i wraig ar lwybr yn y mynyddoeddFfynhonnell y llun, Gerwyn Tumelty
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ei deulu wedi arfer gweld Gerwyn mewn poen anferthol wrth y bwrdd bwyd heb unrhyw rybudd

Yn 2018 fe gafodd Gerwyn ddiagnosis o trigeminal neuralgia, ac fe gafodd lawdriniaeth yng Nghaerdydd y flwyddyn ganlynol.

Mae'r broses - micro vascular decompression - yn cael ei ystyried fel y driniaeth agosaf posib at wellhad llwyddiannus o TN.

Mae'n rhaid agor penglog y claf a thynnu darn bach o asgwrn i leddfu'r pwysau oddi ar y nerf sy'n achosi'r poen.

Mae'r gwasanaeth iechyd yn rhybuddio fod risg o broblemau sylweddol, fel colli clyw neu strôc, ac hyd yn oed marwolaeth mewn un ym mhob 1,000 achos.

Llun o gefn pen Gerwyn. Mae craith gyda pwythau yn rhedeg tu ol i'w glust. Ffynhonnell y llun, Gerwyn Tumelty
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd darn o benglog Gerwyn ei dorri allan i leddfu'r pwysau oddi ar y nerf trigeminol

Ond y driniaeth yma sy'n para hiraf, gyda rhai astudiaethau yn awgrymu fod poen yn dychwelyd mewn tri o bob 10 achos o fewn 10 i 20 mlynedd o'r llawdriniaeth.

Mae'r driniaeth yma yn cael ei chynnig gan amlaf pan nad yw meddyginiaeth yn helpu.

Dyw'r driniaeth ddim yn gweithio i bawb, ond yn achos Gerwyn fe giliodd y boen.

Mae'n annog unrhyw un sydd â symptomau tebyg i chwilio am help cyn gynted â phosib.

Beth yw TN?

Fel arfer, mae'n cael ei achosi gan bibell waed yn gwasgu ar y nerf trigeminol, sy'n trosglwyddo teimladau o boen o'r wyneb, dannedd neu geg i'r ymennydd.

Ond gall hefyd ddigwydd pan fo'r nerf trigeminol wedi'i difrodi gan gyflwr meddygol arall, fel sglerosis ymledol (MS) neu diwmor.

Gall ymosodiadau poen ddechrau drwy weithgareddau fel ymolchi, bwyta neu frwsio dannedd, ond ar ei waethaf gall awel ysgafn neu symud y pen achosi poen.

Weithiau does dim byd amlwg wedi digwydd i'w achosi.

Mae'r ymosodiadau poen yn gallu stopio mor sydyn ac maen nhw'n dechrau, ac fe allan nhw bara o ychydig eiliadau i thua dwy funud.

Mewn achosion difrifol, gall ymosodiadau ddigwydd gannoedd o weithiau'r dydd.

Mae'n bosibl i'r boen wella neu hyd yn oed ddiflannu'n llwyr am sawl mis neu flwyddyn ar y tro, er bod y cyfnodau hyn yn tueddu i fyrhau gydag amser.

Gerwyn yn eistedd mewn bath ia mewn siorts nofio, yn edrych yn anghyfforddus
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwneud "rhywbeth anodd" - fel trochi mewn dŵr oer - pob bore yn hollbwysig i iechyd meddwl Gerwyn

Er i'r poen gilio gyda'r driniaeth, parhaodd effaith y cyfnod ar iechyd meddwl Gerwyn tan 2022, a sgwrs gyda ffrindiau wedi cwpl o ddiodydd.

"O'n i wedi bocsio popeth bant ar ôl y driniaeth, er bod yr effaith ar fy iechyd meddwl yn parhau," meddai.

"Wedyn fe fues i bant am 'chydig ddyddie gyda ffrindie a gofynnodd un ohonyn nhw sut o'n i'n teimlo, ac fe wnes i rewi a syrthio'n ddarnau."

Dyna pryd dechreuodd Gerwyn siarad am yr effaith ar ei fywyd, a delio gyda'r teimladau tywyll, yn arbennig drwy gymorth proffesiynol.

Ond roedd hi'n sawl mis cyn iddo agor fyny i'w deulu, pan oedd wedi dechrau gwella.

'Chi ddim ar ben eich hun'

"Mae siarad e mas yn bwysig a rhannu teimlade. Ma' fe jyst yn 'neud i chi deimlo'n ysgafnach a mwy rhydd," meddai Gerwyn.

"Chi ddim ar ben eich hun. Ma' lot o bobl 'di bod ar siwrne debyg. Peidiwch teimlo yn unig."

Erbyn hyn mae ei fywyd wedi newid yn sylweddol, gyda phwyslais dyddiol ar fywyd iach, ymarfer corff a bod tu allan cymaint â phosib.

Mae wedi rhedeg Marathon Llundain a dringo mynyddoedd Atlas ym Moroco.

Ond mae'r newid mwyaf wedi digwydd yn nes at adref, drwy dechrau pob diwrnod yn cyflawni "rhywbeth anodd", yn arbennig eistedd mewn bath iâ yn ei ardd gefn.

Mae'n galw am gysondeb a hunanddisgyblaeth, meddai, ac yn ei adael "yn barod i wynebu'r byd".

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now