Darn £5 prin yn gwerthu am £110,000 mewn ocsiwn

Blaen a chefn darn arian Una and the LionFfynhonnell y llun, Rogers Jones and Co
Disgrifiad o’r llun,

Ychydig gannoedd yn unig o ddarnau £5 Una and the Lion gafodd eu cynhyrchu, ddwy flynedd wedi coroni'r Frenhines Victoria

  • Cyhoeddwyd

Mae un o'r darnau arian Prydeinig mwyaf gwerthfawr trwy'r byd a ddaeth i'r fei yng Ngwynedd wedi cael ei werthu mewn ocsiwn am £110,000.

Roedd yn rhan o gasgliad darnau arian preifat a ddaeth i'r amlwg yn ystod prisiad profiant mewn tŷ ger Bangor.

Mae darn £5 aur 'Una and the Lion' ymhlith rhwng 200 a 300 a gafodd eu cynhyrchu yn 1839, ond nid eu cylchredeg yn gyffredinol, i nodi dechrau teyrnasiad y Frenhines Victoria.

Mae'n portreadu'r frenhines fel cymeriad ffuglennol o gerdd o'r 16eg Ganrif, yn tywys llew.

Mae un o'r darnau wedi gwerthu am £340,000 gan osod record byd.

Ben Rogers Jones, gyda'i ddwylo mewn mennyg gwyn, yn dal y darn arian gyda'r dyluniad Una and the Lion tua'r cameraFfynhonnell y llun, Rogers Jones and Co
Disgrifiad o’r llun,

Ben Rogers Jones o'r cwmni arwerthu yn dal y darn arian gyda'r dyluniad Una a'r llew tua'r camera

Mae'r darn, medd y cwmni arwerthu Rogers Jones and Co, yn cael ei ystyried "y darn arian Prydeinig prydferthaf erioed ac un o'r rhai mwyaf gwerthfawr drwy'r byd oherwydd ei brinder eithriadol, cywreinrwydd digyffelyb ac arwyddocâd diwylliannol ddwfn".

Cafodd ei ddylunio gan William Wyon - Prif Ysgythrwr y Bathdy Brenhinol - ac mae'n cael ei ystyried fel ei ddyluniad orau.

Dyma oedd y tro cyntaf i deyrn Prydeinig ymddangos fel cymeriad ffuglennol ar ddarn arian.

Mae'n portreadu Victoria, a gafodd ei choroni yn 1837, fel Y Fonesig Una o gerdd Edmund Spenser o 1590, The Faerie Queene, gan gynrychioli'r gwir a phurdeb.

Ar y darn, mae hi'n tywys llew - symbol o gryfder Prydain dan ei harweinyddiaeth.

Dywed Rogers Jones and Co fod y darn fel "Greal Sanctaidd" i gasglwyr oherwydd y cyfuniad o lenyddiaeth, celf a hanes brenhinol.

Darn Una and the Lion o'r gwaelod gan ddangos rhan o'i ymylFfynhonnell y llun, Rogers Jones and Co

Roedd disgwyl "cryn ddiddordeb yn hwn o bedwar ban byd", yn ôl yr arwerthwr Charles Hampshire.

Wrth edrych ymlaen at gynnal yr arwerthiant yng Nghaer ddydd Iau, dywedodd: "Alla' i wir ddim disgwyl i gamu i'r llwyfan ar gyfer hwn!"

"Mae prinder gwreiddiol y darnau arian yma'n golygu mai anaml iawn maen nhw'n cyrraedd arwerthiant."

Roedd disgwyl i'r darn werthu am rhwng £70,000 a £120,00, gyda'r posibilwydd o fynd am swm llawer uwch na hynny, gan ddibynnu ar gryfder y diddordeb ddiwrnod yr ocsiwn.

Dros y ffôn y daeth y cynnig llwyddiannus amdano.

Cafodd y darn ei asesu gan ymgynghorydd annibynnol ac aelod o'r Gymdeithas Masnachu Nwmismatig Prydeinig, gan nodi bod arwynebedd y ddwy ochr yn dda, gyda "llinellau main ac olion treulio drwyddi draw o gael ei gyffwrdd".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now