Rhybudd i bobl gadw draw o dirlithriad ym Mhen Llŷn

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dirlithriad ger y maes parcio ar Draeth Nefyn ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi rhybuddio'r cyhoedd i gadw eu pellter oddi wrth dirlithriad ym Mhen Llŷn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dirlithriad ger y maes parcio ar Draeth Nefyn ddydd Mawrth.
Dywedodd y llu y gallai mwy o dirlithriadau ddigwydd ar y rhan hon o'r traeth, ac maent yn cynghori pobl i gadw eu pellter.
Ychwanegon nhw y bydden nhw'n asesu'r sefyllfa ar frys gyda Gwylwyr y Glannau a Chyngor Gwynedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.