Reform ddim am dynnu cyllid Bangor dros ddadl rhyddid barn - gwleidydd

Mae Francesca O'Brien wedi ymbellhau oddi wrth bennaeth polisi Reform - wnaeth awgrymu y gallai cyllid gael ei dynnu o Brifysgol Bangor
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Reform UK yn tynnu cyllid i ffwrdd o Brifysgol Bangor yn dilyn dadl am y rhyddid i fynegi barn, meddai un o wleidyddion Cymreig y blaid.
Mewn dadl ar BBC Cymru, fe wnaeth Francesca O'Brien ymbellhau oddi wrth bennaeth polisi'r blaid, Zia Yusuf - wnaeth awgrymu y gallai cyllid gael ei dynnu o'r brifysgol ar ôl i gymdeithas ddadlau wrthod gwahoddiad i glywed gan AS Reform.
Dywedodd Ms O'Brien ei bod yn drist bod cymdeithasau dadlau eisiau clywed yr un lleisiau ond ychwanegodd nad oedd "yn cytuno â chymryd y cyllid i ffwrdd gan fod prifysgolion yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas".
Ymatebodd gwleidyddion eraill yn gryf i ymosodiad Reform ar Brifysgol Bangor, gydag un gwestai'n ei gymharu ag ymddygiad yr Arlywydd Trump.

Dywedodd Francesca O'Brien bod prifysgolion yn "hanfodol"
Mae ffynhonnell o Reform wedi dweud wrth y BBC nad oedd sylwadau Mr Yusuf ar X yn cynrychioli polisi'r blaid.
Ond, mae'r blaid yn dweud pe bai nhw'n ennill etholiad nesaf y Senedd mi fydden nhw'n cyflwyno cyfraith newydd i sicrhau bod dyletswydd ar brifysgolion Cymru i ganiatáu rhyddid barn.
Ychwanegon nhw y byddan nhw'n bygwth cosbau ariannol neu'n tynnu cefnogaeth ariannol yn ôl os nad ydy prifysgolion yn cydymffurfio.
Yn ystod y ddadl ar raglen Walescast: Your Voice yn Aberystwyth, dywedodd y cynghorydd o Abertawe, Francesca O'Brien: "Mae'n drist iawn yn yr oes hon fod cymdeithasau dadlau eisiau dadlau gyda siambr atsain gyda'r un bobl sy'n cytuno â nhw.
"Nid cymdeithas iach yw hynny."
Mae'n bwysicach sicrhau "y gall unrhyw blaid wleidyddol fynd yno," meddai.
Pan ofynnwyd iddi pwy sy'n siarad ar ran y blaid, ac ai Zia Yusuf yw'r llefarydd, dywedodd: "Yng Nghymru, byddwn ni'n cael ein maniffesto ym mis Mawrth, dyna pryd y bydd ein polisïau'n cael eu cyhoeddi."
Pan gafodd ei holi a fyddai Mr Yusuf yno fe ychwanegodd: "Efallai bydd e."

Mae Zia Yusuf wedi bygwth tynnu cyllid cyhoeddus o Brifysgol Bangor petai'r blaid mewn llywodraeth
Dywedodd Glyn Preston o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Fel dwi'n ei ddeall, Reform UK wnaeth wahodd eu hunain i'r ddadl, ac yna fe ddywedon nhw [y brifysgol] na."
Cymharodd hyn â gwahodd eich hun i dŷ rhywun, a thrydar "pam dydych chi ddim yn gadael i mi ddod i mewn".
Fe wnaeth Calum Higgins o'r Blaid Lafur gyhuddo Mr Yusuf o ddilyn "camau Trump gan fygwth prifysgol am rywbeth nad oedd e'n ei hoffi".
Dywedodd Philip Davies o'r Gwyrddion mai'r gymdeithas ddadlau ddylai benderfynu gan bwy y maen nhw'n clywed.
Ychwanegodd: "Yr hyn rwyf wedi cael llond bol arno yw gwleidyddion Lloegr yn bygwth dad-ariannu sefydliadau Cymru."
Roedd y Ceidwadwr Sam Kurtz yn canmol y ffordd y deliodd y brifysgol â'r sefyllfa: "'Nes i fwynhau'n fawr fod Prifysgol Bangor eu hunain wedi trydar yn y Gymraeg, gan amlinellu eu safbwynt ar hynny. Roeddwn i'n meddwl, tic mawr."
Dywedodd Nerys Evans o Blaid Cymru fod yr ymateb uniongyrchol gan Reform yn "syfrdanol".
"Dyma fydd y drafodaeth wleidyddol hyd at etholiad y Senedd. Os yw'n rhyddid barn, os yw'n bethau sy'n ymwneud â newid hinsawdd, pethau sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg - os nad ydych chi'n cytuno â Reform, bydd eich cyllid yn cael ei dorri."
Prifysgol yn ymbellhau o benderfyniad i wrthod sesiwn Reform UK
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
'Dwi yn ac wedi bod yn byw yng Nghymru' - Arweinydd Reform yng Nghymru
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
Dan Thomas yw arweinydd Reform yng Nghymru
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Fe wrthododd cymdeithas ddadlau Prifysgol Bangor gais gan AS Reform, Sarah Pochin, a'r ymgyrchydd Jack Anderton, i annerch myfyrwyr gan ddweud nad oedd y gymdeithas yn goddef "unrhyw fath o hiliaeth, trawsffobia na homoffobia".
Penderfynodd y brifysgol ymbellhau oddi wrth y penderfyniad, gan ddweud eu bod yn croesawu dadl ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
Dywedodd Mr Yusuf ar X fod Prifysgol Bangor yn derbyn £30m y flwyddyn mewn cyllid cyhoeddus, "llawer ohono gan drethdalwyr sy'n pleidleisio Reform".
Ychwanegodd: "Rwy'n siŵr na fyddent yn poeni am golli pob ceiniog o'r cyllid hwn o dan lywodraeth Reform."
Ar ôl i'r neges gael ei hanfon ar y cyfryngau cymdeithasol, mae ffynhonnell o gangen Cymru'r blaid wedi dweud nad oedd hynny'n rhan o'u polisi.
Yn lle hynny, maen nhw'n cyfeirio at bolisi ar gyfer y blaid yng Nghymru - gafodd ei lansio ar yr un diwrnod a ddatblygodd y ffrae - a fydd yn gosod dyletswydd rhyddid barn ar brifysgolion.
Mi fyddai'r polisi hwnnw'n rhoi pwerau i weinidogion osod cosbau ariannol neu, "dynnu cefnogaeth ariannol yn ôl".
Byddai'r gyfraith yn caniatáu i unigolion fynd â'r mater i'r llys.
"Bydd sefydliadau sydd wedyn yn parhau i rwystro dadl agored, ac felly'n torri gofynion newydd, yn colli cyllid cyhoeddus," meddai Reform mewn datganiad i'r wasg ddydd Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.