Biliau dŵr yng Nghymru'n codi unwaith eto ym mis Ebrill

Llun rhywun yn llenwi gwydryn gyda dŵrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r bil blynyddol godi £31 ar gyfartaledd

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl yn y rhan fwyaf o Gymru yn wynebu cynnydd o 4.8% yn eu biliau dŵr o fis Ebrill ymlaen, gyda'r bil blynyddol yn codi ar gyfartaledd o £652 i £683 y flwyddyn.

Daw'r cynnydd wedi i filiau y llynedd godi 27% ac mae disgwyl i filiau cwmnïau dŵr barhau i godi'n flynyddol dros y tair blynedd nesaf.

Mae Cyngor Defnyddwyr Dŵr Cymru'n dweud eu bod nhw'n "bryderus" y bydd gormod o bobl yn ei chael hi'n anodd i dalu'r biliau uwch, a bod angen gwella'r system o roi cymorth i bobl.

Dywedodd Dŵr Cymru y byddai dŵr glân yn costio llai na £2 y dydd ar gyfartaledd o fis Ebrill ymlaen a'u bod nhw am fuddsoddi dros £4bn yn ei gwasanaethau rhwng 2025-2030.

System cymorth 'annheg ac anghyfartal'

Mae cwmnïau dŵr ledled Cymru a Lloegr yn codi'r prisiau er mwyn buddsoddi mwy i ddelio â phroblemau fel gollyngiadau a gorlifiadau carthion.

Mae Hafren Dyfrdwy, sy'n gwasanaethu tua 87,000 o gwsmeriaid ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn cynyddu biliau 9% o fis Ebrill ymlaen.

Ond dywedodd y cwmni mai eu cwsmeriaid "sydd â'r biliau isaf yng Nghymru ac un o'r isaf yn y DU" a bod cymorth ar gael i'r rhai sy'n cael trafferth talu.

Mae pob cwmni â'u system tariffau cymdeithasol eu hunain - sef cyfraddau rhatach neu filiau wedi'u capio ar gyfer cwsmeriaid cymwys.

Dywedodd Dŵr Cymru bod biliau is ar gael i 147,000 o'u cwsmeriaid a'u bod nhw'n buddsoddi dwbl yr hyn a fuddsoddwyd rhwng 2020-2025 dros y pum mlynedd nesaf er mwyn gwella'u gwasanaethau, gan gynnwys £2.5bn ar brosiectau i wella'r amgylchedd.

DwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae biliau cwsmeriaid Hafren Dyfrdwy'n cynyddu 9%

Galwodd Rhodri Williams, Cadeirydd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, am newid i'r systemau "annheg ac anghyfartal" presennol o ddarparu cymorth sydd ar gael.

"Mae yna bryder mawr ynglŷn â gallu nifer o bobl i fforddio'r math hwn o gynnydd.

"Un broblem fawr yw does dim system gydlynol ar gael ar draws Cymru a Lloegr i helpu'r bobl hynny, mae faint o gymorth sydd ar gael i chi yn amrywio yn ôl ble chi'n byw.

"Mae angen newid hynny."

Sut y gallaf i leihau fy nghostau dŵr?

Yn ôl Mr Williams y peth cyntaf sydd angen gwneud os ydych chi'n cael trafferth talu eich biliau dŵr yw cysylltu gyda'r cwmni.

"Mae 'na gynlluniau gan bob un cwmni dŵr i helpu pobl sy'n cael trafferth gyda'u biliau," meddai.

Ei ail awgrym ydy gofyn i'ch cwmni dŵr i osod mesurydd dŵr yn y tŷ.

"Ar gyfartaledd mae pobl yn mynd i fod ar eu hennill wrth ddefnyddio mesurydd dŵr oherwydd y tebygolrwydd yw eu bod nhw'n defnyddio llawer llai o ddŵr na maen nhw'n talu amdano fe.

"Ond, os gewch chi fesurydd dŵr wedi gosod a chi'n gweld eich biliau'n codi mae modd i chi gofyn i'r cwmni dŵr tynnu'r mesurydd mas a mynd nôl i'r hen drefn o fewn cyfnod o ddwy flynedd."

Ychwanegodd: "Felly does dim risg i wneud e."

Llun mesurydd dwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gosod mesurydd dŵr yn un ffordd bosibl o leihau biliau

Sut mae cael bil dŵr rhatach?

Mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy yn cynnig cynlluniau arbennig ar gyfer rhai cwsmeriaid sy'n cael trafferth.

Mae WaterSure yn capio costau i deuluoedd sydd â mesurydd dŵr, sy'n derbyn budd-daliadau penodol ac sydd naill ai â thri neu fwy o blant dibynnol yn byw adref, neu sydd â rhywun yn y teulu â chyflwr meddygol sy'n cynyddu'r defnydd o ddŵr.

Mae tariff HelpU yn capio biliau ar gyfer aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau penodol ac sydd ag incwm o dan £19,100 ar gyfer teulu o dri neu fwy, neu lai na £18,100 ar gyfer teulu o ddau.

Trothwy incwm person sengl yw £12,000.

Os ydych chi'n cael trafferth talu eich bil dŵr, mae'n bosib y gallwch gael cymorth ariannol i'w dalu os ydych chi'n gallu dilyn cynllun talu y cytunwyd arno ymlaen llaw.

Trending Now