CBDC yn 150: 'Wedi bod yn gymaint o fraint i gynrychioli cefn gwlad'

Mae Dai Alun Jones wedi bod ymhob gêm gartref Cymru ers 1966
- Cyhoeddwyd
Wrth i Gymdeithas Pêl-droed Cymru ddathlu ei phen-blwydd 150, mae un sydd wedi bod yn is-lywydd y gymdeithas yn dweud ei fod wedi bod yn fraint aruthrol i gynrychioli ardaloedd cefn gwlad.
Yn 1986 y dechreuodd Dai Alun Jones o Dregaron, sydd bellach yn 83 oed, ar y gwaith o ddifri' pan gafodd ei benodi'n ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed y Canolbarth.

Ers yn ifanc mae Dai Alun Jones (ail o'r dde yn y rhes gefn) wedi bod wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed
"Pêl-droed yw fy ngêm i wedi bod erioed er bod tipyn o sylw i rygbi yn Nhregaron," meddai.
"Ers y 1940au ro'n i'n chwarae - i Bont, Tregaron, Sêr Dewi yn Llanddewi ac yna Machynlleth a Phenrhyn-coch.
"Rwy'n falch o ddweud bo' fi wedi bod ymhob gêm gartref Cymru ers 1966."
'Pwysig bod ein llais yn cael ei glywed'
Mae Cymdeithas Bêl-droed y Canolbarth yn un o'r chwe chymdeithas ranbarthol sy'n rhan o Gymdeithas Pêl-droed Cymru.
"Roedd hi yn un o'r rhai olaf i gael ei ffurfio ond mae hi mor bwysig yn y ffordd y mae'n hybu cyfleon i chwaraewyr gorllewin a chanolbarth Cymru," meddai Dai Alun Jones, sy'n byw yn Aberystwyth.
"Mae'n ardal eang a phwysig iawn - yn ymestyn o Aberteifi i Dywyn ac o Drallwng lawr i Aberhonddu.
"Tynnwch chi'r ardaloedd yna allan o Gymru a does dim lot ar ôl.
"Cyn iddi gael ei ffurfio FA Cymru oedd yn rheoli'r canolbarth - mae wedi bod yn bwysig i fi bod ein llais yn cael ei glywed."

Mae Dai Alun Jones o Aberystwyth yn aelod oes o bwyllgor Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Dai Alun Jones hefyd oedd cadeirydd pwyllgor ieuenctid a datblygiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru rhwng 1998 a 2001, a bu'n cynrychioli'r gymdeithas ym mhumed Gynhadledd Ieuenctid UEFA yn Saint Petersburg, Rwsia, yn 1999.
"Rwy' wedi bod yn cynrychioli y gymdeithas sawl gwaith dramor ond roedd y daith honno i Rwsia yn arbennig," meddai.
"Fi'n teimlo erbyn hyn bod tipyn o lais gyda Cymru - a mae'n gallu bod yn anodd weithiau gan bo' ni'n eistedd yn nhrefn y wyddor ac mae 'Wales' yn y gwt.
"Fy nhaith dramor gyntaf gyda'r gymdeithas oedd gweld merched Cymru yn chwarae ar Ynysoedd Ffaro.
"Mae gweld datblygiad gêm y merched hefyd wedi bod yn bwysig i fi gydol yr amser a chlywed llais merched ar bwyllgorau'r gymdeithas - rhywbeth sydd wedi newid er gwell yn ddiweddar."
'Rhowch eich cartrefi yn enwau eich gwragedd'
Wrth hel atgofion dywed bod rôl y gymdeithas wedi newid yn fawr ers ei ddyddiau cynnar a'i bod hi bellach yn sefydliad o bwys sy'n cyflogi llawer o bobl.
"Anghofia i fydd o fy nghyfnod cynnar yn mynd i'r cyfarfodydd," meddai.
"Geiriau Alun Evans yr ysgrifennydd ar y pryd oedd 'rhowch eich cartrefi yn enwau eich gwragedd. Does dim arian 'da ni i gael'.
"Ond diolch byth ma' pethe wedi newid er gwell."

Mae Dai Alun Jones wrth ei fodd ei fod wedi rhoi llais i ganolbarth Cymru ar y llwyfan ehangach
Yn y Co-op yn Nhregaron y dechreuodd gyrfa Mr Jones, cyn iddo fynd i weithio i siop ddillad Morgan & Jones yn Aberystwyth, ac fe wnaeth ymddeol yn 2003 wedi 37 mlynedd o wasanaeth i'r Llyfrgell Genedlaethol.
Delio gydag ymholiadau "digon diflas nad oedd gen i lot o ddiddordeb ynddyn nhw" oedd ei brif waith yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond mae'n cofio am un ymholiad diddorol iawn.
"O'n i yn fy nefoedd. Fe ddaeth ymholiad o Lyfrgell Wrecsam yn gofyn lle'n union y dechreuodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Yn digwydd bod ro'n i wedi darllen yng nghylchgrawn y Field mai yn Wynnstay Arms Wrecsam oedd dechrau'r gymdeithas, ond ro'dd y llyfr 100 Years of Welsh Soccer gan Peter Corrigan yn nodi mai Wynnstay Arms Rhiwabon y digwyddodd y cyfarfod cyntaf.
"Mae'n debyg bod cyfarfodydd wedi digwydd yn y ddau le, ond yn Wrecsam o'dd y cyntaf a fi'n falch i fy ymholiadau ganfod hynny.
"Aeth y wybodaeth i Gaerdydd a rhoddwyd plac yn Wrecsam. Fe gafodd ei ddadorchuddio gan y pêl-droediwr Mark Hughes ac roeddwn i yno."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
