Morgan yn cefnogi Starmer er 'pryderon' dros benodiad Mandelson

- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru yn dweud ei bod yn cefnogi Syr Keir Starmer yn ei swydd, a bod y wlad angen cyfnod o "sefydlogrwydd".
Daw sylwadau Eluned Morgan wrth i Brif Weinidog y DU ddod dan bwysau sylweddol dros ei benderfyniad i benodi Peter Mandelson yn llysgennad i'r Unol Daleithiau.
Ond ychwanegodd bod ganddi "bryderon" dros benodiad Mandelson ar y pryd, a bod "yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg wedi cadarnhau'r pryderon hynny".
Ddydd Llun fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur yn Yr Alban, Anas Sarwar, alw ar Starmer i ildio'r awenau - tra bod aelodau ei gabinet wedi datgan eu cefnogaeth iddo.
Dywedodd Eluned Morgan mewn datganiad fore Mawrth ei bod yn "cefnogi'r Prif Weinidog i barhau â'r gwaith y cafodd ei ethol i'w wneud".
Dyma ydy'r farn yn Rhydaman am Syr Keir Starmer, ar ôl iddo ddod dan bwysau am benodi Peter Mandelson yn llysgennad i'r UDA.
Mae Syr Keir wedi ei feirniadu yn hallt gan y gwrthbleidiau a rhai aelodau o fewn ei blaid ei hun dros ei benderfyniad i benodi Peter Mandelson er gwaethaf ei gysylltiadau gyda'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.
Cafodd Peter Mandelson ei ddiswyddo ym mis Medi wedi i ddogfennau gael eu rhyddhau oedd yn awgrymu bod perthynas agos rhyngddo ef ac Epstein.
Mae'r prif weinidog yn mynnu bod yr Arglwydd Mandelson wedi dweud celwydd am natur y berthynas honno.
Nos Lun fe wnaeth Syr Keir annerch aelodau'r Blaid Lafur yn Nhŷ'r Cyffredin, ble fynnodd na fyddai'n ymddiswyddo.
"Ar ôl brwydro mor galed i gael cyfle i newid ein gwlad, dydw i ddim yn barod i gefnu ar y fandad a'r cyfrifoldeb sydd gen i a gweld y wlad yn wynebu rhagor o anrhefn," meddai.

Yn ôl arweinydd y Blaid Lafur yn Yr Alban, Anas Sarwar mae "gormod o gamgymeriadau" wedi cael eu gwneud gan arweinyddiaeth Llywodraeth y DU
Roedd Prif Weinidog Cymru wedi cael ei beirniadu ddydd Llun am beidio â mynegi safbwynt clir ar ddyfodol Keir Starmer.
Ond nododd Eluned Morgan yn ei datganiad fod ganddi bryderon ynglŷn â phenodiad Peter Mandelson fel llysgennad.
"Wedi blynyddoedd o arweinyddiaeth gyfnewidiol dan y Ceidwadwyr, mae'r wlad angen sefydlogrwydd mewn cyfnod o ansefydlogrwydd, a dyna sy'n bwysig i Gymru.
"Roedd gen i bryderon nad oedd Peter Mandelson yn addas ar gyfer swydd gyhoeddus oherwydd y math o bobl y byddai'n ymwneud â nhw.
"Mae'r hyn sydd bellach wedi dod i'r amlwg ond wedi cadarnhau'r pryderon hynny.
"Mae'r materion hyn yn bryderus iawn oherwydd, unwaith eto, mae lleisiau menywod a merched ifanc wedi cael eu hanwybyddu."

Mae Eluned Morgan yn dweud mai ei blaenoriaeth hi yw "arwain Cymru gyda gonestrwydd a chynnig newid gwirioneddol i bobl"
Ychwanegodd fod rhaid cydnabod unrhyw fethiannau gyda gonestrwydd.
"Mae arweinyddiaeth yn golygu cynnal safonau a gweithredu pan nad yw pobl yn cyd-fynd â'r disgwyliadau hynny.
"Yn y pendraw, dwi'n defnyddio prawf syml i farnu unrhyw brif weinidog: ydyn nhw'n gweithredu er lles Cymru.
"Rydw i wedi bod yn glir gyda Keir ynglŷn â'r hyn y mae Cymru ei hangen - gweithredu ar gostau byw, buddsoddiad yn yr economi a'n seilwaith a pharhau gyda'r ymroddiad i gryfhau datganoli.
"Yr hyn dwi'n canolbwyntio arno yw arwain Cymru gyda gonestrwydd, a chynnig newid gwirioneddol i bobl y wlad."

Mae Darren Millar a Rhun ap Iorwerth wedi beirniadu Eluned Morgan
Yn ystod sesiwn gwestiynau'r prif weinidog fe gafodd Eluned Morgan ei beirniadu am gadw'n dawel tan fore Mercher.
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, pam nad oedd hi wedi amddiffyn Keir Starmer yn syth?
"Ar ôl methu ag ymuno â'r feirniadaeth o Keir Starmer ddoe, wnaeth hi chwaith ddim dod allan i'w amddiffyn tan ddiwrnod yn ddiweddarach," meddai.
Fe ymatebodd Eluned Morgan drwy ddweud ei bod hi'n "canolbwyntio ar anghenion pobl y wlad hon, Cymru".
"Wnes i ddim neidio i fyny yng nghanol cyfarfod o'r cabinet i ymateb i ddigwyddiadau yn San Steffan. Nid dyna sut mae rhedeg gwlad."
'Misoedd o feirniadaeth gyhoeddus'
Fe aeth Eluned Morgan ymlaen i gyhuddo Rhun ap Iorwerth o drin swyddfa'r prif weinidog "fel pyndit gwleidyddol yn hytrach na phen llywodraeth ddemocrataidd".
Fe bwysleisiodd hefyd nad oedd hi erioed wedi bod yn "ffan o Peter Mandelson" ond mai'r hyn sy'n bwysig nawr yw bod "Keir Starmer yn cymryd ar y cyfle yma i ail-ganolbwyntio materion sy'n ymwneud ag Epstein ar y menywod a'r merched sydd wedi cael eu cam-drin".
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd Darren Millar doedd gan y Eluned Morgan ddim y "guts i alw am ymddiswyddiad y prif weinidog"
"Ar ôl misoedd o feirniadaeth gyhoeddus, dyw cefnogi'r prif weinidog nawr ddim yn dadwneud misoedd o betruso a beirniadaeth".
Gofynnodd a oedd gan Keir Starmer ei hyder llwyr. "Oes" oedd ei hateb gan ategu ei bod wedi "cysylltu ag o ar ôl ein cyfarfod Cabinet... i roi gwybod iddo fod ganddo fy nghefnogaeth, cyn y cyfarfod gyda'r Blaid Lafur seneddol neithiwr".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd9 Chwefror

- Cyhoeddwyd5 Chwefror
