'Angen mwy o'r Gymraeg ar-lein ac mewn gemau i ehangu defnydd ohoni'

Mae pobl ifanc yn treulio cyfartaledd o chwe awr y dydd ar-lein, a "Saesneg ar y cyfan sydd yn cael ei defnyddio yn ystod yr amser hwn", yn ôl adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o gynnwys Cymraeg yn y "gofodau digidol" lle mae pobl ifanc yn treulio'u hamser – fel gemau cyfrifiadurol a'r cyfryngau cymdeithasol – os am ehangu defnydd yr iaith yn y dyfodol.
Dyna un o argymhellion adroddiad newydd sy'n ystyried sut mae cryfhau'r Gymraeg mewn cymunedau ble mae siaradwyr yr iaith yn lleiafrif.
Dylai'r iaith hefyd fod yn rhan naturiol o fywyd pob dydd mewn gweithleoedd, clybiau chwaraeon a lleoliadau cymunedol eraill, yn ôl casgliadau'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ddiolchgar am yr adroddiad, ac eisoes yn gweithio i sicrhau "twf hirdymor y Gymraeg... [a] chyfle teg i bawb ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus".
Newid iaith grŵp o'r Gymraeg i'r Saesneg 'ddim yn helpu'r iaith'
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Targedau'r Gymraeg yn 'bwysig ac yn helpu'r iaith' - ysgrifennydd
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
Dros 20,000 yn dysgu Cymraeg y llynedd wrth i niferoedd dyfu eto
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
Hwn yw ail adroddiad y Comisiwn, wedi iddyn nhw wneud bron i 60 o argymhellion yn 2024 ynglŷn â sut i warchod sefyllfa'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd.
Mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn canolbwyntio ar gymunedau yn yr 18 sir Cymreig lle mae llai na 40% o bobl yn siarad yr iaith.
Yn ôl yr ymchwil, mae dros hanner y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd ieithyddol 'dwysedd canolig' a 'dwysedd isel' o'r fath.
Dywedodd awduron yr adroddiad fod angen mwy o gyfleoedd ar bobl yn y cymunedau hyn i allu defnyddio'r iaith y tu hwnt i fyd addysg.
Ymhlith y 31 o argymhellion yn yr adroddiad, mae galw am gryfhau'r iaith mewn lleoliadau cymunedol, gan gynnwys o fewn teuluoedd, gweithleoedd, darpariaeth ieuenctid, chwaraeon a diwylliant.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi arian tuag at leoliadau fel llyfrgelloedd, hybiau cymunedol a mannau cyfarfod, gan ddweud y dylai "o leiaf un gofod cymdeithasol" i ddefnyddio'r Gymraeg fod "o fewn cyrraedd hawdd" i bawb.

Mae Philip Hughes yn helpu siaradwyr Cymraeg newydd fel Gaynor Morgan a Val Norris, yn Hen Lyfrgell y Porth
Mae caffi'r Hen Lyfrgell yn y Porth yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau Cymraeg, gan gynnwys sesiynau sgwrsio i ddysgwyr.
Mae Philip Hughes yn helpu dysgwyr newydd.
"Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal ond maen rhaid i ti fod yn ddewr i ddechrau sgwrs yn y Gymraeg," meddai.
Mae Gaynor Morgan o'r Porth yn cytuno bod yna ddigon o gyfle i ymarfer.
"Dwi'n mynd i gwrs sylfaen yn Nhreorci, grŵp sgwrs ar ddydd Iau a dosbarth yn lleol bore dydd Mercher, felly mae llawer o gyfloedd i siarad gyda phobl."
Ond mae eraill yn anghytuno.
"Dwi'n gwneud Duolingo bob dydd ond dim ond pan dwi'n dod i'r dosbarth fel arfer dwi'n siarad Cymraeg," meddai Val Norris. "Dwi ddim yn nabod llawer o bobl sy'n siarad Cymraeg."
"Nawr ac yn y man dwi'n cael siawns," meddai Alan Gill, "ond dwi'n gwylio'r teledu i ddysgu tamaid a [gwrando ar] Radio Cymru yn y car."

Fe fydd app newydd yn helpu pobl wybod pa weithgareddau Cymraeg sydd ymlaen yn Rhondda Cynon Taf, medd Scott Thomas, sy'n cydlynu'r cynllun
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn y broses o ddatblygu app er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i weithgareddau Cymraeg yn lleol.
"Ar ôl yr Eisteddfod mae dal lot yn digwydd," meddai Scott Thomas, sy'n gyfrifol am y cynllun.
"Ni 'di creu app 'Defnyddia dy Gymraeg'. Mae 20 neu 35 o bethau'n digwydd yn wythnosol ar draws y sir.
"Weithie os ti ddim yn rhan o'r cylch yna mae'n anodd i ffeindio pethau...
"Mae'r app, gobeithio, yn mynd i'w gwneud hi'n haws i bobl weld ble allan nhw fynd i ymarfer neu jyst cael cyfle i gymdeithasu yn Gymraeg."
Dysgu Cymraeg i'r fyddin fel bod yr iaith yn 'annatod i fywydau milwyr'
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Newid agweddau at gerddoriaeth Saesneg yn 'beth da i'r Gymraeg'
- Cyhoeddwyd16 Mawrth
Mae argymhellion eraill yn yr adroddiad yn cynnwys gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol ar y stryd fawr, gofyn i awdurdodau lleol sicrhau darpariaeth deithio i weithgareddau allgyrsiol pobl ifanc, a dysgu gwersi o ieithoedd lleiafrifol eraill.
Mae'r adroddiad hefyd yn galw am "sefydlu cronfa i gryfhau presenoldeb y Gymraeg mewn mannau digidol, ac o fewn cynnwys cyfryngau cymdeithasol".
Yn ôl yr adroddiad mae pobl ifanc yn treulio cyfartaledd o chwe awr y dydd ar-lein, ond mai "Saesneg ar y cyfan sydd yn cael ei defnyddio yn ystod yr amser hwn".

Mae Jamie a Caitlin yn gweld rhywfaint o Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae myfyrwyr Blwyddyn 9 a 10 Ysgol Garth Olwg, ger Pontypridd, yn Rhondda Cynon Taf yn cytuno nad yw'r Gymraeg wastad yn amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Dwi ddim yn gweld lot o Gymraeg ar TikTok ond ar Instagram mae 'na rhywbeth i neud gyda Garth Olwg felly ni'n gweld y Gymraeg ar hwnna," meddai Jamie.
Mae Cari'n cytuno. "Dwi ddim yn gweld llawer o Gymraeg, falle newyddion neu rhywbeth fel' na ond dim llawer. Dyw feeds Cymraeg ddim wir yn trafod pethau sydd o ddiddordeb i fi."
Mae Caitlin, serch hynny, yn gweld mwy o ddeunydd Cymraeg am fod ganddi ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg.
"Rwy'n gweld fideos o bobl yn canu'n Gymraeg ac mae comments neis ar rheina hefyd."
Mae Lowri'n cyfaddef mai Saesneg yw iaith cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae pawb mor used i siarad Saesneg a ddim eisiau siarad Cymraeg ddim mwy," meddai.
Ddylai unrhyw strategaeth ehangu defnydd o'r Gymraeg "adlewyrchu sut a ble mae pobl ifanc yn treulio eu hamser", meddai'r comisiwn.

Mae peth ffordd i fynd eto i gynnal diddordeb pobl ifanc mewn deunydd Cymraeg ar blatfformau digidol, ym marn Lowri a Cari
Mae gan y cyflwynydd Ameer Davies Rana bresenoldeb amlwg ar gyfryngau cymdeithasol.
Tra'n cydnabod bod yna waith i'w wneud mae e'n teimlo'n bositif bod yr iaith yn ennill ei phlwy ar lwyfannau digidol.
"Mae pobl yn gyfarwydd a chyfrifon Trydar neu X yn tweet-io am bêl-droed neu rygbi ac yn arwain gyda'r Gymraeg," dywedodd.
"Mae hwnna wedi newid dros y bum mlynedd ddiwetha felly mae pobl yn gallu gweld yr iaith o ddydd i ddydd ar sgrin y ffôn."

Mae'r Gymraeg yn ennill ei phlwy ar lwyfannau digidol, o brofiad Ameer Davies-Rana
Mae Ameer yn annog pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg gan ddweud fod gan un o'i glipiau Cymraeg dros chwarter miliwn o wylwyr.
"Os ti'n siarad Cymraeg, postiwch yn y Gymraeg achos be dwi 'di sylwi yw, mae cynnwys dwi 'di neud yn Gymraeg yn perfformio lot yn well na pethe Saesneg.
"Mae hynna'n dystiolaeth fod y Gymraeg yn fyw ac yn gallu mynd yn viral."
Dysgu o brofiad Catalwnia
Mae angen sicrhau bod yr iaith yn iaith gymunedol ym mhob cymuned yng Nghymru os yw hi am fod yn iaith genedlaethol sy'n perthyn i bawb, meddai'r adroddiad.
Mae "awydd go iawn i ddefnyddio'r Gymraeg ond prinder gofod i wneud hynny", yn ôl cyd-gadeirydd y comisiwn, Elin Haf Gruffydd Jones.
Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd bod creu cyfleoedd mor lleol â phosib yn bwysig, "yn enwedig i bobl ifanc sy'n gorfod teithio yn bell neu dros amser hir" i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg neu ddefnyddio'r iaith tu hwnt i'r ysgol.

Mae diffyg cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn rhwydd mewn gwahanol gymunedau yn neges glir wrth i'r comisiwn siarad gydag arbenigwyr ac aelodau'r cyhoedd, medd Elin Haf Gruffydd Jones
Edrychodd y comisiwn hefyd ar "brojectau diddorol" mewn gwledydd eraill â ieithoedd lleiafrifol sy'n dangos beth mae modd ei gyflawni.
Fe gyfeiriodd at gronfa a sefydlwyd gan lywodraeth Catalwnia ddwy flynedd yn ôl "i drio ysgogi mwy o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, mwy o ddylanwadwyr [a] mwy o amrywiaeth o gynnwys".
Roedd y camau yn fanno yn cynnwys noddi unigolion am gyfnod o flwyddyn gan osod disgwyliadau a thargedau.
Roedden nhw hefyd yn eu cynghori "sut i greu portffolio, i greu bywoliaeth... cael nawdd ac ati a hefyd sut fysa'u gwaith nhw fel dylanwadwyr yn gallu plethu efo agweddau eraill".

Mae awduron yr adroddiad yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i fwrw ymlaen â'r gwaith fel bod y Gymraeg yn perthyn i gymunedau cig a gwaed a chymunedau digidol fel ei gilydd
Dywedodd cyd-gadeirydd arall y comisiwn, Dr Simon Brooks: "Gyda'i gilydd, mae dau gam gwaith y Comisiwn bellach yn gosod sylfaen gynhwysfawr, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer y dasg honno."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu 17 o argymhellion adroddiad cyntaf y Comisiwn.
"Mae adroddiad yr ail gam yn gosod sylfaen i adeiladu ar y momentwm a sicrhau dyfodol Cymraeg ffyniannus i bob cymuned yng Nghymru," meddai.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r adroddiad gan ddweud ei bod hi'n "allweddol i ddyfodol y Gymraeg" fod llywodraeth nesaf Cymru yn gweithredu'r argymhellion.
Dywedodd cadeirydd y gymdeithas, Owain Meirion y dylai "pwy bynnag sy'n ffurfio'r llywodraeth wedi'r etholiad fis Mai i fynd ati yn syth i ddechrau'r gwaith o weithredu holl argymhellion yr adroddiad yma er mwyn rhoi'r Gymraeg i bawb sy'n byw yng Nghymru".
Ychwanegodd: "Yn sicr, allwn ni ddim fforddio'r un oedi ag yr ydym wedi'i weld gan y llywodraeth bresennol gydag argymhellion yr adroddiad cyntaf."
Mae Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud ei bod hi hefyd yn "awyddus iawn" i fynd i'r afael â materion fel cynllunio ieithyddol cymunedol a defnydd o'r iaith yn y gweithle.
"Hoffwn annog llywodraeth nesaf Cymru i roi ystyriaeth fanwl i'r adroddiad hwn ac i weithredu ar yr argymhellion yn fuan yn nhymor nesaf y Senedd a hynny er lles tymor hir y Gymraeg a'n cymunedau ar draws Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.