Yr Arweinwyr: Anthony Slaughter
- Cyhoeddwyd
Wrth i etholiad Senedd Cymru agosáu, pwy ydy'r bobl sy'n gobeithio bod yn Brif Weinidog eu gwlad?
Mewn cyfres o erthyglau, Cymru Fyw sy'n cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

Daw arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, o Hull yn Swydd Efrog yn wreiddiol, ond mae wedi byw yn ne Cymru ers tua 25 mlynedd.
Yn blentyn fe fudodd ei deulu o Hull i Awstralia fel rhan o'r genhedlaeth y 10 Pound Poms, cyn dychwelyd i ogledd Lloegr ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.
Ond yn 1970, gydag yntau'n wyth mlwydd oed, fe symudodd y teulu i Dde Affrica, ac yno y cafodd Anthony Slaughter ei fagu a ble roedd yn byw yn ŵr ifanc.
Dros gyfnod o 25 mlynedd fe ymgartrefodd Mr Slaughter yn Llundain, yn "byw fel sgwatiwr am amser hir, yn y sîn anarcho-punk", meddai - roedd mewn band pync, gyda'r cyd-aelodau hefyd o Dde Affrica.
Bywyd gwleidyddol
Nid nes iddo ddod i Gaerdydd y dechreuodd Mr Slaughter ganolbwyntio o ddifri ar wleidyddiaeth, gan ymuno â'r Blaid Werdd yn 2010 a sefyll yn isetholiad De Caerdydd a Phenarth yn 2012 - fe ddaeth yn chweched.
Safodd ar gyfer sedd De Caerdydd a Phenarth yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016 hefyd, gan gynyddu ei bleidlais ond gorffen yn chweched unwaith eto.
Roedd yn ymgeisydd yn etholiadau lleol 2017 ym Mhenarth, daeth yn arweinydd ar y Blaid Werdd yng Nghymru yn 2018, ac fe safodd yn etholiadau Ewrop a San Steffan yn 2019.
Dros y blynyddoedd roedd Slaughter yn brwydro yn erbyn Brexit, ac yna daeth i amlygrwydd pellach wedi iddo ddod yn ail yn Ne Chaerdydd a Phenarth yn 2024.
Wedi'r canlyniad yna fe broffwydodd Slaughter y bydd aelodau Gwyrdd yn cael eu hethol i'r Senedd am y tro cyntaf wedi etholiad 2026.

Anthony Slaughter gyda Zack Polanski, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr, o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd
Yn isetholiad Caerffili yn 2025 fe ddaeth y Blaid Werdd yn bumed, gan ennill 516 o bleidleisiau. Gareth Hughes, y cyn-newyddiadurwr a chyn-aelod o'r Blaid Lafur, oedd ymgeisydd y Gwyrddion.
Dywed Mr Hughes ei fod yn ddiolchgar i Anthony Slaughter am y gefnogaeth yn ystod yr ymgyrch:
"Mae Anthony yn ddyn o egwyddorion gwirioneddol, yn weithgar iawn ac yn llawn egni.
"Ef a lansiodd fy ymgyrch isetholiad yng Nghaerffili ac roedd bob amser ar gael i roi cyngor cadarn."

Gareth Hughes ac Anthony Slaughter yn ystod ymgyrch isetholiad Caerffili 2025
Rhywun arall sydd wedi cydweithio gydag Anthony Slaughter yw Lauren James.
"Rydw i wedi gweithio gydag Anthony ers bron i ddegawd, gan gynnwys gwasanaethu tymor fel dirprwy arweinydd," meddai Ms James.
"Mae o wir yn gofalu am bobl ac yn cymryd amser i wrando ar y bobl y mae'n eu cynrychioli yn y blaid.
"Mae o wedi gweithio mor galed i adeiladu'r blaid hon o'r gwaelod i fyny, a dwi mor gyffrous i fod yn rhan o'r tîm sy'n ei gael e dros y llinell derfyn ar 7 Mai."
'Amddiffyn pobl a'r blaned'
Mae'r Cynghorydd Matt Youde yn cynrychioli ardal Trelluest (Grangetown) o Gaerdydd, ac wedi cydweithio gyda Mr Slaughter yn y gorffennol ac yn sicr o'i egwyddorion fel gwleidydd.
"Pan chi'n cwrdd ag Anthony am y tro cyntaf chi'n sylwi ei fod y person mwyaf gostyngedig a charedig, ac yna rydych chi'n darganfod bod ganddo'r daliadau gwyrdd tanllyd 'ma yn ei galon. Mae wedi ymrwymo'i hun yn frwd i amddiffyn pobl a'r blaned, a gwella bywydau pawb mae'n 'nabod.
"Anthony yw un o'r rhesymau pam y gwnes i ymuno â'r Gwyrddion.
"Fel llawer o'n haelodau ni mae e'n credu'n gryf mewn dod â gobaith i bobl, ond mae hefyd yn cael ei sbarduno gan yr annhegwch a'r diffyg gweithredu yn ein cymdeithas.
"Mae hynny'n rhinwedd brin yn llawer o'n harweinwyr gwleidyddol heddiw, sy'n aml yn rhy ofalus ac ofnus i wneud y newidiadau mawr sydd eu hangen."

Mr Slaughter yn annerch y gynulleidfa mewn digwyddiad yng nghynhadledd y Blaid Werdd
Yr Arweinwyr: Jane Dodds
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Yr Arweinwyr: Dan Thomas
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Yr Arweinwyr: Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Yr Arweinwyr: Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Ers Refferendwm Brexit 2016 mae Mr Slaughter wedi ymgyrchu'n gyson i Gymru gael cysylltiadau agosach ag Ewrop. Mae'n cefnogi annibyniaeth i Gymru, ac yn 2021 fe ymunodd â'r mudiad aml-bleidiol, Yes Cymru.
Ym mis Tachwedd 2023, mynegodd Slaughter ei gefnogaeth i "gadoediad ar unwaith yn Gaza", gan gondemnio "lladd sifiliaid a chosbi poblogaeth ar y cyd".
Mae Mr Slaughter yn cefnogi codi trethi arbennig ar gyfer y bobl gyfoethocaf yn ein cymdeithas, gan ddweud y dylai'r arian ychwanegol ariannu sefydliadau fel y Gwasanaeth Iechyd. Mae hefyd yn cefnogi perchnogaeth gyhoeddus ar ddiwydiannau fel y gweithfeydd dur yng Nghymru.
Yn 2024, rhyddhaodd Slaughter y llyfr Future Wales: A Vision for Green Democracy, a amlinellodd ei farn ynghylch "y ffyrdd posibl ymlaen i'n gwlad mewn dyfodol byd-eang ansicr".
Twf y Gwyrddion
Mae'r gefnogaeth i'r Blaid Werdd wedi cynyddu ar lefel Brydeinig dros y misoedd diwethaf, a arweiniodd at fuddugoliaeth ysgubol i Hannah Spencer yn isetholiad Gorton a Denton ym Manceinion ar 26 Chwefror.
Ers i Zack Polanski hawlio arweinyddiaeth y Blaid ym mis Medi 2025 mae aelodaeth y blaid wedi treblu yng Nghymru.
Bydd Anthony Slaughter yn edrych i fanteisio ar hyn wrth iddo sefyll yn etholaeth Caerdydd Penarth yn etholiadau Senedd Cymru 2026.

Anthony Slaughter yn canfasio gyda Hannah Spencer, yr ymgeisydd buddugol yn isetholiad Gorton a Denron ym Manceinion
Bydd y Blaid Werdd yn gobeithio ethol aelodau i'r Senedd am y tro cyntaf erioed wedi'r etholiadau mis Mai, a gyda'r polau opiniwn yn awgrymu ei bod hi'n agos rhwng y pleidiau mwyaf i ffurfio llywodraeth, fe all y Gwyrddion chwarae rôl hollbwysig yn siapio Llywodraeth nesaf Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.