Roedd gafael y capeli yn gryf ar gymdeithas, er hynny, ac 'roedd gwerthoedd oes Victoria yn parhau i reoli. Er i deyrnasiad Victoria ddod i ben yn gynnar yn y ganrif, fe gymerai amser cyn i werthoedd newydd dan deyrnasiad brenin newydd ddisodli'r hen ffordd o fyw. Dylanwad John Morris-Jones Plentyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y Brifwyl o hyd. Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a reolai'r Eisteddfod, ar y cyd ’ hen Gymdeithas yr Orsedd dan unbennaeth E.Vincent Evans. Ac er bod dau gorff yn cynnal pob Eisteddfod yn wyneb haul ac yn llygad goleuni, 'doedden nhw ddim yn gweld llygad yn llygad yn aml, ac yn nhywyllwch eu hanwybodaeth yr oedd beirdd yr Orsedd yn byw. Ychydig cyn troad y ganrif cododd ysgolhaig, John Morris-Jones, i herio'r hen drefn, i gyhuddo'r Orsedd o gynnal defodau paganaidd, ac i ddatgelu mai twyll ar ran Iolo Morganwg oedd hynafiaeth honedig yr Orsedd. Newydd eu sefydlu yr oedd colegau Prifysgol Cymru, yng Nghaerdydd, Bangor, ac Aberystwyth, gyda cheiniogau'r werin. ymlaen... | | 

|