Drwy gydol y cyfnod Edwardaidd, bu'r Suffragettes yn cynnal ymgyrchoedd tanllyd o blaid cael y fôt i'r fenyw. Lle bynnag 'roedd cynulliad, 'roedd gwrthdystiad gan y Suffragettes. Daeth maes y brifwyl yn faes y brotest, ac nid am y tro cyntaf yn ei hanes. Yn Llundain yr oedd canolfan y mudiad, ac yn Llundain, yn yr Albert Hall, y cynhaliwyd yr Eisteddfod ym 1909. Y gwleidyddion oedd targed y protestwyr yn Llundain. Er i A.J.Balfour gael llonydd i draddodi ei araith, bu'n rhaid i Herbert Asquith wynebu dicter y Suffragettes. 'Doedd gan feirdd yr Orsedd ddim amynedd â'r Suffragettes. Cododd Dyfed yr Archdderwydd ar ei draed pan oedd menywod y bleidlais yn tarfu ar araith y Prif Weinidog ac adroddodd englyn byrfyfyr: 'Benyw mewn ffrae â'i bonet - yw y fun A wna feirdd yn darget; Un belen o'i gwn bwlet - Aiff i'r jael yn swffrajet.'
'Roedd yr englyn yn nodweddiadaol o agwedd yr hen sefydliad patriarchaidd at ymgyrchwyr y fôt. Er i Lloyd George ddatgan cydymdeimlad ag achos y merched, 'roedd o hefyd yn cyrychioli'r Llywodraeth, a tharfwyd ar ei araith yntau yn ogystal. Nid merched y bleidlais yn unig a heriai'r hen drefn yn Llundain. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod yno, 'roedd Ffederasiwn Glowyr Prydain yn cefnogi bygythiad Ffederasiwn Glowyr De Cymru i streicio o ganlyniad i'r Ddeddf Wyth Awr. 'Roedd perchnogion y pyllau glo yn bygwth cwtogi cyflogau'r glowyr yn sgîl y cwtogi ar yr oriau gwaith. Daeth y cyfle i'r Ffederasiwn ddangos ei rym ar ddiwedd degawd cynta'r ganrif, pan gododd anghytundeb rhwng perchennog pwll y Cambrian Combine yn Nhonypandy a'i weithwyr. Aeth y deuddeng mil o lowyr a gyflogid gan y pwll ar streic am bron i flwyddyn. Hwn oedd cyfnod terfysgoedd Tonypandy a streic Llanelli. Yn haf tanbaid 1911, 'roedd ymgyrch y gweithwyr dros eu hawliau yn boethach na'r hin. Os oedd y glowyr yn segur am gyfnodau hir yn ystod y blynyddoedd terfysglyd hyn, 'roedd y swffragetiaid yn fwy gweithredol nag erioed. 'Roedd 'Steddfod Wrecsam dair blynedd yn ddiweddarach yn fwy stormus na 'Steddfod Llundain hyd yn oed. Ymosodwyd ar y swffragetiaid gan y dorf, tynnwyd eu gwalltiau a rhwygwyd eu dillad. 'Roedd y dorf fel anifeiliaid gwyllt, meddai un o arweinwyr y swffragetiaid. Embaras i'r Brifwyl oedd ymyrraeth y merched, ond ni allai neb, bellach, gadw gwleidyddiaeth a diwylliant ar wahân. Enghraifft o'r gwrthdrawiad rhwng y newydd a'r hen, rhwng gwerthoedd y Gymdeithas wrywaidd yn Oes Victoria a rhyddfrydiaeth a delfrydiaeth newydd degawd cyntaf y ganrif, oedd ymgyrch y merched. 'Roedd yr ymgyrch yn rhan o'r ysbryd gwrthryfelgar a oedd yn dechrau cyniwair drwy Ewrop, y chwyldro i ryddhau cymdeithas o afael hualau gormesol y gorffennol. Mudiad eithafol oedd mudiad y merched. 'Roedd rhai yn barod i aberthu hyd at farwolaeth i sicrhau buddugoliaeth. Ar drothwy'r Eisteddfod olaf cyn y Rhyfel Mawr cyrhaeddodd ymgyrchoedd y mudiad uchafbwynt dychrynllyd pan daflodd Emily Wilding Davison ei hun o flaen ceffyl y Brenin yn ras y Derby yn Epsom, a chael ei lladd. Ond er bod y menywod hyn yn barod i aberthu hyd at farwolaeth i ennill eu hachos, aberth y dynion a fyddai'n sicrhau'r bleidlais i'r merched yn y pen draw. Rhaglen 2... |