 |  | | Ym 1922 ffurfiwyd y Gymdeithas Genedlaethol Gymraeg, Cymdeithas y Tair G, ym Mangor, gan genedlaetholwyr fel Lewis Valentine, E.T.John, hen ymgyrchwr dros Ymreolaeth i Gymru, ac R.Williams Parry. Yn Eisteddfod Yr Wyddgrug ym 1923, soniwyd am 'ddrilio' mewn gwersyll haf, a chondemniwyd y syniad yn chwyrn gan y papurau. Yn ystod Eisteddfod Pwllheli ym 1925 daeth chwe g^wr ynghyd i westy'r Maes Gwyn ym Mhwllheli i ffurfio Plaid Genedlaethol Cymru. Fe'i ffurfiwyd yn bennaf drwy ymdrechion Hugh Robert Jones. Ymhlith yr aelodau cyntaf yr oedd Griffith John Williams, Ambrose Bebb, Saunders Lewis, Lewis Valentine a H.R.Jones Dechreuodd cenedlaetholdeb dreiddio i mewn i'r Eisteddfod. Enghraifft o hyn oedd awdl Gwenallt a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Bangor ym 1931, am ei awdl 'Breuddwyd y Bardd'; a phan enillodd Gwenallt y Gadair cipiodd Cynan y Goron eto, er mai cenedlaetholdeb y bêl yn hytrach na chenedlaetholdeb y bleidlais oedd thema'r bryddest fuddugol. ymlaen... | | 

|
Y Dyrfa
Deng munud cyn yr olaf bib! -Y Dyrfa'n ferw mawr, A'r sgôr yn sefyll rhyngom ni Yn wastad eto'n awr.
'Roedd Cymru'n pwyso, pwyso'n drwm. Ac eto - O! paham Na allem dorri ei hanlwc hir Wrth chware'n Twickenham?
Cwm Glo Yn y cyfnod hwn bychan oedd apêl Plaid Genedlaethol Cymru, ond 'roedd y Blaid Lafur yn ennill grym, yn enwedig ar ôl i bob menyw dros un ar hugain oed gael pleidlais. Ffactor bwysig arall yn nhwf Sosialaeth oedd y bygythiad o chwyldro gwleidyddol a ddigwyddodd adeg y Streic Fawr ym 1926. Hwn oedd cyfnod yr orymdaith newyn, yr ymfudo mawr o gymoedd y De a galwad Tywysog Cymru am gymorth i'r di-waith. Ond 'roedd y broblem yn drech na'r Blaid Lafur. 'Roedd dirwasgiad byd-eang yn bygwth gwasgu'r economi, ac effeithiodd y wasgfa ar y 'Steddfod hyd yn oed. Ynghyd â chael effaith ar goffrau ariannol yr Eisteddfod fe welwyd yr effaith ar y cystadlu. Yn Eisteddfod Castell-nedd ym 1934 daeth storm arall wedi i'r beirniaid wrthod gwobrwyo drama Kitchener Davies, Cwm Glo, am fod ynddi ormod o sôn am ryw, er mai dirywiad moesol cymdeithas yng ngafael y Dirwasgiad oedd gwir thema'r ddrama. Bu trafod dwys ar y ddrama, rhai yn ei galw'n enllib ar y glowyr Cymreig tra oedd eraill yn ei hedmygu fel campwaith. Cafodd hyd yn oed George Bernard Shaw ei dynnu i mewn i'r drafodaeth. ymlaen... |
|